Problemau bwyta
Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Beth sy'n achosi problemau bwyta?
Nid oes un peth sy'n achosi problemau bwyta. Mae'r rhan fwyaf o weithwyr iechyd proffesiynol yn meddwl eu bod yn cael eu hachosi gan gyfuniad o ffactorau.
Gall rhai ffactorau fod yn fiolegol, a gall eraill ddeillio o'ch amgylchedd neu eich gorffennol. Gallai fod yn anodd deall pam mae bwyta wedi mynd yn broblem i chi. Gall y rhesymau fod yn gymhleth ac yn ddryslyd.
Roedd fy mhroblem bwyta yn ymateb i newidiadau anodd a oedd yn digwydd i mi a'r cwestiynau hunaniaeth a godwyd gan y newidiadau hyn, ond roedd hefyd yn erbyn cefndir o fwlio, iechyd meddwl gwael a hunanhyder isel drwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol.
Nodweddion pobl sydd â phroblemau bwyta
Bydd pobl sydd â phroblemau bwyta yn aml yn rhannu nodweddion cyffredin. Gall rhai nodweddion olygu eich bod chi'n fwy agored i ddatblygu problem bwyta.
Dyma rai o'r nodweddion cyffredin:
- dyhead am berffeithrwydd
- bod yn anfodlon ar yr hyn rydych chi wedi'i wneud yn aml
- bod yn feirniadol iawn o'ch hunan
- bod yn orgystadleuol am bethau
- ymddygiadau obsesiynol cymhellol (gweler ein tudalennau ar anhwylder obsesiynol cymhellol)
- diffyg hyder yn mynegi eich hun.
Profiadau bywyd anodd
Gall dechrau eich problem bwyta fod yn gysylltiedig â digwyddiad llawn straen neu drawma yn eich bywyd.
Dyma rai enghreifftiau:
- camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol
- problemau teuluol difrifol
- marwolaeth rhywun sy'n agos atoch chi
- pwysau yn yr ysgol neu'r gwaith, fel arholiadau neu fwlio.
Camdriniaeth a phroblemau bwyta
Rwyf am esbonio pam mai cael fy ngham-drin yw achos fy anhwylder bwyta presennol.
Yn aml, bydd problemau bwyta yn datblygu yr un pryd ag y byddwch chi'n mynd drwy newidiadau mawr yn eich bywyd fel:
- dechrau glaslencyndod
- newid ysgol neu brifysgol
- dechrau swydd newydd
- archwilio eich rhywioldeb
- gadael cartref neu symud i rywle newydd.
Dechreuodd fy mhroblem bwyta pan oeddwn i'n iau ac yn cael fy mwlio'n aml. Collais fy archwaeth am fwyd oherwydd straen ac roedd yn teimlo fel pe bai pobl yn fy hoffi i'n fwy pe bawn i'n deneuach ac â mwy o reolaeth dros fy mywyd. Roeddwn i'n cysylltu bwyta â theimlo fel petawn i'n colli rheolaeth.
Problemau teuluol
Gall eich profiadau teuluol achosi problemau bwyta neu eu gwaethygu. Gallan nhw fod yn gysylltiedig â phroblemau yn ystod plentyndod yn benodol.
Efallai y byddwch chi wedi dechrau defnyddio bwyd fel ffordd o gael mwy o reolaeth dros eich bywyd. Er enghraifft:
- roedd eich rhieni yn arbennig o lym
- doedd eich cartref ddim yn teimlo fel lle diogel na sefydlog
- roedd gan eich rhieni ddisgwyliadau uchel iawn ohonoch chi.
Drwy brofiadau teuluol, efallai eich bod wedi datblygu nodweddion fel perffeithrwydd a hunanfeirniadu. Gall y rhain olygu eich bod yn agored i broblemau bwyta.
Efallai fod pobl eraill yn eich teulu wedi bod ar ddeiet, wedi bod yn gorfwyta neu wedi cael problem bwyta. Yn ei dro, gall hyn effeithio arnoch chi hefyd.
Cefais broblemau bwyta pan wahanodd fy rhieni. Dyna'r unig ran o fy mywyd roeddwn i'n teimlo y gallwn i ei reoli, ac roeddwn i'n ysu am y rheolaeth honno wrth i bopeth arall fynd ar chwâl.
Pwysau cymdeithasol
Nid yw'n debygol bod pwysau cymdeithasol a diwylliannol yn achosi problemau bwyta. Fodd bynnag, gallan nhw gyfrannu atyn nhw a helpu i'w sefydlu.
Rydyn ni'n cael ein hamgylchynu gan negeseuon am ddelwedd corff drwy ffilmiau, cylchgronau, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion. Gall hyn roi syniadau afrealistig ynghylch sut y dylen ni edrych.
Efallai na fyddwch chi'n ymwybodol o hyn, ond efallai eich bod chi'n cymharu eich hun â delweddau afrealistig. O ganlyniad, gallai'r math hwn o bwysau cymdeithasol:
- wneud i chi deimlo nad ydych chi'n ddigon da
- cael effaith negyddol ar eich delwedd corff a'ch hunanhyder.
Mae'r byd yn llawn o ddelweddau sy'n dweud wrthyn ni nad ydyn ni'n haeddu mynd ar y traeth os na fyddwn ni'n edrych mewn ffordd benodol. Y weithred fwyaf o wrthryfela yw hoffi eich hun, er gwaethaf y lleisiau hynny sy'n dweud wrthych chi nad ydych chi'n ddigon da.
Problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl
Os oes gennych broblemau iechyd corfforol neu broblemau iechyd meddwl, efallai y byddwch hefyd yn datblygu problemau bwyta.
Os oes gennych broblem iechyd corfforol, gall hyn weithiau wneud i chi deimlo'n ddi-rym. Efallai y byddwch chi'n defnyddio bwyta neu ymarfer corff fel ffordd o deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich bywyd.
Neu gallai problem bwyta ddechrau am fod gennych chi broblem iechyd meddwl. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:
Gall eich problem bwyta hefyd achosi problemau iechyd meddwl fel y rhai a restrir uchod. Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â theimladau o hunanhyder isel, o ddiffyg gwerth neu o deimlo'n ddi-rym.
Mae gen i iselder a gorbryder mewn perthynas â'm hanhwylder bwyta ac mae'n debygol bod gen i anhwylder personoliaeth ffiniol hefyd.
Ffactorau biolegol a genetig
Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall genynnau a bioleg effeithio ar eich siawns o ddatblygu problem bwyta.
Mae gan bob un ohonon ni gemegion yn ein hymennydd sy'n rheoli chwant bwyd, archwaeth bwyd a'r broses dreulio. Gwelwyd bod gan rai pobl sydd â phroblemau bwyta symiau gwahanol o'r cemegion hyn.
- Gall y cemegyn serotonin yn yr ymennydd effeithio ar eich hwyliau a'ch archwaeth am fwyd. Mae gan rai pobl ormod neu ddim digon o hwn.
- Mae rhai hormonau yn rheoli chwant bwyd a theimlo'n llawn. Gall rhai pobl fod yn fwy sensitif i'r rhain, a allai olygu eu bod yn fwy tebygol o orfwyta neu o orfwyta mewn pyliau.
Ffactorau sbardun a chyfnodau ‘peryglus'
Gallai rhai pethau, er nad dyna yw achos eich problem bwyta, helpu i ymestyn y cyfnod hwnnw.
Efallai eich bod yn mynd drwy gyfnod o wella ar hyn o bryd, neu wedi cael problemau bwyta yn y gorffennol. Ceisiwch fod yn ymwybodol o rai pethau a all ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich problemau bwyta yn dychwelyd. Mae rhai pobl yn galw'r rhain yn ffactorau sbardun neu'n gyfnodau ‘peryglus’.
Er enghraifft, efallai y gwelwch fod siarad am fwyd a deiet â ffrindiau yn ffactorau sbardun. Gallai helpu i ddysgu beth yw eich ffactorau sbardun, fel y gallwch chi wneud eich gorau i'w hosgoi.
Mae'r straen sy'n gysylltiedig â bod yn rhywle newydd a dieithr yn gwaethygu fy salwch.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.