Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau bwyta

Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Noder: mae'r dudalen hon yn cwmpasu triniaethau a argymhellir ar gyfer anorecsia, bwlimia ac anhwylder gorfwyta mewn pyliau.

Efallai y byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder bwydo a bwyta penodol arall (OSFED). Neu efallai na fyddwch chi'n cael diagnosis o gwbl. Dylai eich meddyg gynnig triniaeth ar gyfer y diagnosis sy'n cyfateb agosaf i'ch symptomau.

Ni ddylai fod angen i chi gael diagnosis er mwyn cael triniaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar fathau o anhwylderau bwyta y rhoddwyd diagnosis ar eu cyfer.

Siarad â'ch meddyg

Gall siarad am eich problemau bwyta godi ofn arnoch. Ond i gael gafael ar driniaeth, y cam cyntaf fel arfer yw siarad â'ch meddyg teulu neu feddyg yn yr ysbyty. Yna efallai y gall eich atgyfeirio at wasanaethau arbenigol.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar geisio help ar gyfer problem iechyd meddwl.

Felly fy mhrif gyngor yw mynd at y meddyg. Gwnes i hynny yn y pen draw. Mae meddygon yn bobl neis. Maen nhw'n gwrando ac yn deall ac yn gwneud eu gorau i helpu.

Rhaglenni hunangymorth ar-lein

Mewn rhai achosion, ar y dechrau, efallai y byddwch chi'n cael cymorth drwy raglen hunangymorth ar-lein.

Gallai hyn gael ei gynnig i chi i ddechrau:

  • os byddwch chi’n cael diagnosis o fwlimia
  • os byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder gorfwyta mewn pyliau
  • os bydd symptomau eich problem bwyta yn debyg i un o'r symptomau uchod.

Dylech chi gael sesiynau cymorth byr ochr yn ochr â'r rhaglen. Gall y rhain fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd cwblhau'r rhaglen, neu os na fydd yn ddefnyddiol, gofynnwch am fwy o gymorth gan eich meddyg teulu.

Triniaethau siarad ar gyfer problemau bwyta

Fel problemau iechyd meddwl eraill, efallai y cynigir triniaethau siarad i chi ar gyfer problemau bwyta.

Mae'r triniaethau canlynol yn cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae'n llunio canllawiau ar arferion gorau ym maes gofal iechyd.

Darllenwch fwy am argymhellion NICE ar gyfer trin problemau bwyta.

Therapi ymddygiad gwybyddol ar gyfer anhwylderau bwyta (CBT-ED)

Mae'r math hwn o CBT wedi'i addasu'n benodol i drin anhwylderau bwyta. Gellir ei gynnig ar gyfer anorecsia, bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau.

  • Ar gyfer anorecsia, dylid cynnig hyd at 40 o sesiynau i chi. Dylech chi gael sesiynau ddwywaith yr wythnos yn ystod y ddwy neu dair wythnos gyntaf.
  • Ar gyfer bwlimia, dylid cynnig o leiaf 20 o sesiynau i chi. Efallai y cynigir sesiynau ddwywaith yr wythnos i chi i ddechrau.
  • Ar gyfer anhwylder gorfwyta mewn pyliau, dylid cynnig sesiynau therapi gwybyddol ymddygiadol mewn grŵp i chi i ddechrau. Os byddai'n well gennych chi gael therapi unigol neu os nad yw'r sesiynau'n ddefnyddiol, dywedwch wrth eich therapydd neu eich meddyg.

Helpodd therapi gwybyddol ymddygiadol fi i newid y meddyliau negyddol sy'n llenwi fy mhen a throi cefn ar fy anhwylder bwyta.

Therapi teuluol

Ystyr therapi teuluol yw gweithio drwy broblemau gyda'ch teulu a chymorth therapydd. Caiff ei gynnig yn aml i bobl sydd ag anorecsia, yn enwedig pobl ifancach.

Gallech chi archwilio sefyllfaoedd a allai fod yn gysylltiedig â phroblemau sylfaenol eich problem bwyta. Gall helpu eich teulu i ddeall eich problem bwyta a chynnig ffyrdd o'ch helpu.

Rhoddodd yr ysbyty hefyd gyfle i'm teulu gael sesiynau cwnsela i deuluoedd lle gwnaethon nhw ddysgu am y ffyrdd gorau o'm helpu.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar driniaethau siarad.

Cael gafael ar driniaethau siarad

Gallwch chi gael gafael ar driniaethau siarad drwy'r GIG. Dylai eich meddyg teulu allu eich atgyfeirio.

Ond cofiwch y gall fod rhestrau aros hir ar y GIG. Oherwydd hyn, bydd rhai pobl hefyd yn ystyried cael therapi preifat. Mae'n rhaid i chi dalu am apwyntiadau therapi preifat.

Dyma rai opsiynau:

Ewch i'n tudalen ar gysylltiadau defnyddiol ar gyfer problemau bwyta.

Triniaethau siarad ar gyfer anorecsia

Os byddwch chi'n cael diagnosis o anorecsia, efallai y cynigir triniaethau siarad ychwanegol i chi.

  • Triniaeth Anorexia Nervosa Maudsley ar gyfer Oedolion (MANTRA). Bydd hyn yn eich helpu i weithio ar eich proses wella drwy eich helpu i ddeall beth sy'n eich cadw chi'n gaeth i anorecsia. Yn raddol, gallwch chi ddysgu ffyrdd amgen o ymdopi. Dylid gwneud hyn ar gyflymder sy'n addas i chi a'ch anghenion. Dylid cynnig o leiaf 20 o sesiynau i chi.
  • Rheoli Clinigol Cynorthwyol Arbenigol (SSCM). Nid dim ond triniaeth siarad yw hyn, ond gall triniaeth siarad gael ei gynnwys hefyd. Byddwch chi'n cael cyfarfodydd wythnosol lle byddwch chi'n cael cymorth i fagu pwysau, ac ar gyfer iechyd corfforol, addysg a chyngor. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i siarad am broblemau allweddol rydych chi'n eu hwynebu. Gall eich helpu chi i feddwl mwy am eich symptomau a'ch ymddygiad.
  • Therapi Seicodynamig Ffocal (FPT). Nod y driniaeth hon yw eich helpu chi i ddeall sut mae eich arferion bwyta yn gysylltiedig â'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn teimlo amdanoch chi eich hun ac eraill. Fel arfer, dim ond pan fyddwch chi'n gweld nad yw triniaethau eraill yn addas i chi y bydd yn cael ei chynnig.

Roedd y syniad o therapi grŵp yn ddychrynllyd, ond roedd y profiad o glywed eraill yn siarad am eu problemau yn werthfawr iawn.

Meddyginiaeth ar gyfer problemau bwyta

Nid oes unrhyw gyffuriau penodol i drin anhwylderau bwyta. Fodd bynnag, efallai y cynigir meddyginiaeth i chi ar gyfer ffactorau sylfaenol fel iselder neu orbryder. Er enghraifft, efallai y cynigir cyffur gwrth-iselder i chi er mwyn eich helpu i reoli'r teimladau hyn.

Dylid cynnig meddyginiaeth i chi ochr yn ochr â thriniaethau siarad. Ni ddylid cynnig meddyginiaeth yn unig i chi. Bydd eich meddyg yn penderfynu a fyddwch chi'n cael cynnig meddyginiaeth – gallwch chi benderfynu a ydych am ei chymryd.

Os yw eich problem bwyta yn golygu eich bod chi dan eich pwysau, caiff cyffuriau eu hamsugno'n gyflymach i'ch llif gwaed. Gallai hyn olygu bod unrhyw feddyginiaeth yn fwy niweidiol, neu na fydd mor effeithiol, ag y dylai fod.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyffuriau hyn ar ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-iselder, cyffuriau gwrth-seicotig a meddyginiaeth seiciatrig.

Cael eich derbyn i ysbyty neu glinig

Efallai y bydd angen i chi fynd i ysbyty neu glinig oherwydd eich problem bwyta. Gallai hyn fod yn angenrheidiol:

  • os bydd eich meddyg neu eich tîm gofal yn teimlo eich bod chi'n sâl iawn neu dan eich pwysau
  • os na fydd mathau eraill o driniaeth wedi gweithio
  • os yw eich amgylchedd cartref yn ei gwneud hi'n anodd i chi aros yn iach.

Am ba hyd y bydd yn rhaid i mi aros?

Os ydych chi'n glaf allanol neu'n glaf dydd, byddwch chi'n mynd adref bron bob nos ac ar benwythnosau. Os ydych chi'n glaf mewnol, byddwch chi'n aros yn yr ysbyty neu'r clinig ar gyfer y rhan fwyaf o'ch triniaeth.

Bydd am ba hyd y byddwch chi'n cael eich derbyn i'r ysbyty yn dibynnu ar faint o help sydd ei angen arnoch i wella.

Pa gymorth a thriniaeth y gallaf eu cael?

Fel arfer, byddwch chi'n cael amrywiaeth o gymorth fel claf mewnol. Gallai'r staff yn yr ysbyty neu'r clinig gynnwys:

  • meddygon
  • deietegyddion
  • seicotherapyddion
  • therapyddion galwedigaethol
  • gweithwyr cymdeithasol
  • therapyddion teulu a pherthnasau
  • nyrsys arbenigol.

Gall y driniaeth gynnwys:

  • therapïau siarad
  • meddyginiaeth
  • ailfwydo
  • gweithio mewn grwpiau gyda phobl eraill sy'n wynebu problemau bwyta.

Caiff eich pwysau a'ch iechyd cyffredinol eu monitro drwy gydol eich cyfnod yn yr ysbyty neu'r clinig. Efallai y cewch arweiniad hefyd ar y canlynol:

Gyda'r drefn ddyddiol, y system gymorth, y dosbarthiadau a'r therapi, llwyddais i ddechrau rhesymoli'r meddyliau am anorecsia a chryfhau'n araf.

Beth yw ailfwydo?

Ystyr ailfwydo yw cael bwyd er mwyn cynyddu eich pwysau i lefel iach.

Mae'n cynnwys eich helpu chi i fagu pwysau fel bod eich lefelau egni a'ch iechyd corfforol yn gwella. Efallai y byddwch chi'n cael bwydydd penodol oherwydd eu gwerth maethol. Neu fwydydd sy'n arbennig o dda am helpu pobl i fagu pwysau.

Mae ailfwydo yn amrywio o un clinig i'r llall. Efallai y bydd rhai meddygon yn gwneud hyn dros gyfnod o amser, gan eich galluogi i gynyddu eich pwysau yn raddol. Bydd eraill am eich helpu chi i ddychwelyd i bwysau iach cyn gynted â phosibl.

Gall hyn fod yn broses anodd, yn enwedig os nad ydych chi am fagu pwysau. Gall fod yn rhywbeth y gallwch chi ei drafod yn fanylach â'ch meddyg teulu neu eich meddyg yn yr ysbyty.

Beth os nad ydw i'n byw yn agos at glinig?

Dim ond ambell glinig anhwylder bwyta sydd ar gael drwy'r GIG. Felly efallai na fyddwch chi bob amser yn gallu cael triniaeth yn agos at eich cartref.

Gallai hyn olygu mynd i glinig sy'n bellach i ffwrdd, neu fynd i ysbyty iechyd meddwl cyffredinol. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu eich tîm gofal os hoffech chi wybod mwy am glinigau arbenigol.

Mae canolfannau triniaeth breifat ar gael hefyd. Efallai y bydd rhai yn cynnig triniaeth debyg i glinigau'r GIG. Bydd eraill yn cynnig amrywiaeth ehangach o therapïau cyflenwol a therapïau celf.

Rhowch gynnig ar ddefnyddio adnodd HelpFinder Beat, sy'n gyfeiriadur o'r gwasanaethau sydd ar gael.

A ellir fy ngorfodi i fynd i'r ysbyty?

Gallech gael eich gorfodi i fynd i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Cyfeirir at hyn yn aml yn Saesneg fel ‘being sectioned'. Gall hyn ddigwydd os oes risg i'ch iechyd neu eich diogelwch, neu er mwyn diogelu pobl eraill.

Cyn cael eich gorfodi i fynd i'r ysbyty, byddwch yn cael asesiad gan weithwyr iechyd proffesiynol. Gallech gael eich gorfodi i fynd i'r ysbyty ar gyfer eich problem bwyta os, er enghraifft:

  • bydd hynny'n cael effaith negyddol sylweddol ar eich iechyd neu eich diogelwch eich hun
  • na fyddwch chi'n gallu gwella heb gael cymorth meddygol
  • gallai eich iechyd meddwl waethygu.

Os byddwch chi'n cael eich gorfodi i fynd i'r ysbyty, efallai y byddwch chi hefyd yn cael eich trin yn erbyn eich ewyllys yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty. Gallai triniaeth yn erbyn eich ewyllys ar gyfer problem bwyta gynnwys ailfwydo, er enghraifft.

Mae gwybodaeth fanylach ar ein tudalennau cyfreithiol ar orfodi rhywun i fynd i'r ysbyty.

Troi cefn ar anorecsia

Roedd mor anodd brwydro yn erbyn y meddyliau hynny a chyfaddef bod angen help arna i – ond llwyddais i wneud hynny.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig