Cannoedd o bobl yng Nghymru'n disgwyl dros flwyddyn am gymorth gyda'u hiechyd meddwl
Monday, 08 March 2021
Mind
Mae cannoedd o bobl ledled Cymru'n disgwyl dros flwyddyn i gael therapïau seicolegol ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl adroddiad mawr newydd gan Mind Cymru. Roedd yr adroddiad, Rhy Hir i Ddisgwyl, yn datgelu fod, rhwng Ebrill 2019 ac Awst 2020, miloedd o bobl wedi cael eu gadael yn disgwyl dros hanner blwyddyn am therapïau seicolegol arbenigol. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, roedd cannoedd yn fwy yn aros am dros 12 mis.