Get help now Make a donation

Cannoedd o bobl yng Nghymru'n disgwyl dros flwyddyn am gymorth gyda'u hiechyd meddwl

Monday, 08 March 2021 Mind

Mae cannoedd o bobl ledled Cymru’n disgwyl dros flwyddyn i gael therapïau seicolegol ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl adroddiad mawr newydd gan Mind Cymru.
  

Roedd yr adroddiad, Rhy Hir i Ddisgwyl, yn datgelu fod, rhwng Ebrill 2019 ac Awst 2020, miloedd o bobl wedi cael eu gadael yn disgwyl dros hanner blwyddyn am therapïau seicolegol arbenigol. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, roedd cannoedd yn fwy yn aros am dros 12 mis.
 
Nod Llywodraeth Cymru yw bod 80 y cant o bobl yn cael therapïau seicolegol arbenigol o fewn chwe mis o gael eu cyfeirio. Rhwng Ebrill 2019 ac Awst 2020, ni chyrhaeddwyd y targed unwaith.
 
Meddai Sara Mosely, Cyfarwyddwr Mind Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir fod pobl ledled Cymru’n dal i ddisgwyl yn rhy aml am gyfnod annerbyniol o hir am y math iawn o gymorth gyda'u hiechyd meddwl.
 
“Roedden ni’n clywed yn glir gan bobl fod therapïau seicolegol arbenigol yn gallu newid bywydau. Mae eu pwysigrwydd yn cael ei gydnabod ac mae ei gwneud yn haws i gael y gwasanaethau yn ymrwymiad allweddol strategaeth deng mlynedd Llywodraeth Cymru Gyda’n Gilydd am Iechyd Meddwl. Yn anffodus, daeth yn amlwg, er y bu rhywfaint o gynnydd, fod pobl yn dal i orfod brwydro i gael y gefnogaeth y maen nhw ei angen.
 
“Prin erioed y bu yna adeg pan mae’n fwy hanfodol rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl, ac mae angen canolbwyntio ar frys ac o’r newydd ar helpu pobl pan maen nhw ei angen fwyaf.
 
Mae Coronafeirws wedi creu llanast ar amseroedd aros. Wrth gymharu’r ffigurau am Awst 2019 gyda rhai Awst 2020, roedden ni’n gweld fod nifer y bobl oedd yn disgwyl cael cychwyn therapïau seicolegol arbenigol wedi gostwng o 7,198 i lawr i 5,208 ond bod amserau aros wedi cynyddu:
Bu cynnydd o 4 y cant, o 2,146 i 2,228 y nifer o bobl oedd yn disgwyl am fwy na 26 wythnos
Bu cynnydd o 17 y cant, o 729 i 852 yn y nifer o bobl oedd yn disgwyl am fwy na blwyddyn

Bu gostyngiad o 70 y cant i 57 y cant yn y ganran o bobl yn disgwyl am lai na 26 wythnos i gychwyn ar therapi
 
Ychwanegodd Sara Moseley: “Mae hollol hanfodol fod pobl yn gallu derbyn cymorth a chefnogaeth ar gyfer eich eu hiechyd meddwl er mwyn gwella a chadw’n iach. Pan fyddwch chi’n cael problemau gyda’ch iechyd meddwl, rydych chi angen cefnogaeth yn gyflym. Mae clywed fod yn rhaid i chi aros am fwy na chwe mis yn bryderus iawn ac mae’n gallu gwaethygu eich iechyd meddwl.
 
“Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru’n gweithredu’n gyflym i’w gwneud yn haws i gael y math iawn o therapïau seicolegol sy’n gweithio. Mae hynny’n golygu sicrhau fod staff ar y llinell flaen yn cael y gefnogaeth maen nhw ei hangen i ddarparu ar gyfer pobl. Rydym yn sylwi ac yn croesawu’r arwyddion fod y Gweinidog dros Iechyd Meddwl erbyn hyn yn canolbwyntio’n benderfynol ar ddarparu. Rydym ni’n hyderus, gyda chymaint o frys, y bydd gostyngiad gwirioneddol mewn amseroedd aros ac y bydd y cymorth iawn ar yr adeg iawn nid yn unig ar gael ond y bydd hynny’n gallu creu newid sylfaenol yn y gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai ohonom gyda phroblemau iechyd meddwl."
 
Fel rhan o'r adroddiad hwn, bu Mind Cymru'n siarad ag 88 o bobl oedd wedi derbyn, wedi gofyn neu oedd wedi bod ar restr aros am therapïau seicolegol arbenigol ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Dywedodd ychydig dros hanner eu bod wedi cael cynnig eu cyfeirio ar gyfer therapïau seicolegol arbenigol a'r gweddill eu bod wedi gorfod gofyn am gael eu cyfeirio. Dywedodd hanner eu bod wedi cael cynnig meddyginiaeth a'u cyfeirio ar gyfer therapi seicolegol arbenigol, yn unol â chanllawiau NICE ar gyfer y cyfan o'r DU.
 
O’r rhai aeth at eu meddygon teulu i drafod eu hiechyd meddwl, dim ond eu hanner oedd yn dweud eu bod wedi cael cynnig asesiad pellach o’u gofynion gan y Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol. Llai nag un o bob tri oedd wedi dweud wrthym eu bod wedi cael cynnig dewis y math o therapi seicolegol y gallen nhw ei gael.
 
Mae mwy na hanner y bobl yn dweud nad oedden nhw wedi cael unrhyw eglurhad o’r gwahanol fathau o therapïau y gallen nhw ei gael.
 
Roedd Chloe Cross, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi bod ar y rhestr aros am therapi seicolegol ers Chwefror 2018. Meddai “Roeddwn i wedi mynd at fy meddyg teulu pan oeddwn i’n 24 oherwydd fy mod i’nyn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Allwn i ddim cysgu, doeddwn i ddim eisiau bwyta ac roeddwn i’n hunan niweidio. Roeddwn i’n gweld pethau’n hynod o anodd. Rhoddodd fy meddyg teulu feddyginiaeth gwrth iselder i mi a dweud y byddwn yn cael fy nghyfeirio ar frys am therapi. Roeddwn i’n deall y byddai’n rhaid i mi aros am chwe mis.
 
"Dydw i byth wedi cael fy ngweld a dydw i ddim hyd yn oed wedi cael dyddiad pryd y gallai'r cwnsela gychwyn. Wrth i mi aros, mae fy iechyd meddwl wedi gwaethygu, erbyn hyn rwy'n hunan niweidio'n gyson ac yn hel meddyliau am hunanladdiad ac rwy wedi bod yn ôl at fy meddyg teulu sawl gwaith yn gofyn am help.
 
“Roedd cael fy nghyfeirio, ac yna cyrraedd o nod o gael therapi, yn rhywbeth i mi edrych ymlaen ato a gweithio ar ei gyfer ar y dechrau. Ond, ar ôl ychydig, roedd yn rhywbeth roeddwn i’n hel meddyliau yn ei gylch pan fyddwn i'n isel, meddwl fy mod mor annheilwng nad oeddwn i ddim hyd yn oed yn deilwng o gael yr help oedd ar gael allan yna i mi er eu bod yn gwybod fy mod yn risg i mi fy hunan.
 
“Mae fy meddyg teulu wedi bod yn gydymdeimladol iawn ond, yn anffodus, does dim y mae hi'n gallu ei wneud heblaw cynyddu fy meddyginiaeth, a dyw hynny o ddim help o gwbl. Fe awgrymodd y gallwn i gael therapi'n breifat os nad oeddwn i eisiau aros, ond mae'n ddrud iawn a dyw hynny ddim yn ddewis i mi ar hyn o bryd mewn gwirionedd.
 
“Mae'n anhygoel fy mod wedi gorfod aros am dair blynedd, ac yn dal i gyfrif. Pan fyddwch chi’n mynd at eich meddyg teulu i ofyn am help, dylai’r help hwnnw fod ar gael. Rwy’n deall nad yw pethau'n gallu digwydd ar unwaith bob tro, ond nid yw disgwyl mor hir â hyn yn ddigon da.”

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top