Get help now Make a donation

Arolwg Mind Cymru'n datgelu toll y pandemig ar iechyd meddwl gweithwyr ambiwlans

Wednesday, 31 March 2021 Mind

- Mae elusen iechyd meddwl yn datgelu mai’r gwasanaeth ambiwlans sydd wedi dioddef waethaf gan effaith covid ar iechyd meddwl
- Yn ôl data’r arolwg, roedd yna gynnydd yn yr achosion iechyd meddwl gwael ar draws y gwasanaethau’r heddlu, tân ac ambiwlans, gyda llawer o staff a gwirfoddolwyr yn dweud fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf

Mae data oddi wrth arolwg o fwy na 250 o staff a gwirfoddolwyr ar draws gwasanaethau’r heddlu, tân ac ambiwlans wedi dangos yn glir gymaint o iechyd meddwl gwael sydd yng nghymunedau’r ymatebwyr brys. Daw’r ystadegau wrth i Mind Cymru gyhoeddi datblygiad ei Rhaglen Golau Glas i gefnogi llesiant aelodau'r gwasanaethau brys, sy’n cael ei hariannu gan Sefydliad Brenhinol Dug a Duges Caergrawnt.

Dangosodd yr arolwg ar lein fod iechyd meddwl wedi gwaethygu ar draws y gwasanaethau 999, ond mai staff ambiwlans sydd wedi'u heffeithio waethaf. Dim ond un o bob tri (33 y cant) o staff ambiwlans oedd yn dweud fod eu hiechyd meddwl presennol yn dda iawn neu’n dda o gymharu â dau o bob pump o’r heddlu (44 y cant) a bron iawn un o bob dau (49 y cant) yn y gwasanaeth tân wrth ymateb i’r arolwg.

Staff ambiwlans oedd y tebycaf (72 y cant) o ddweud fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers dechrau’r pandemig coronafeirws, o gymharu â’r heddlu (56 y cant) neu’r gwasanaeth tân (61 y cant). Roedd staff a gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn debycach o raddio eu hiechyd meddwl presennol yn wael neu’n wael iawn. Ar gyfartaledd, roedd un o bob pump (20 y cant) o’r holl staff a gwirfoddolwyr 999 a gymerodd rhan yn yr arolwg yn graddio’u hiechyd meddwl presennol fel gwael neu’n wael iawn. Roedd y ganran uchaf o ymatebwyr a oedd yn dweud fod eu hiechyd meddwl yn wael yn y gwasanaeth ambiwlans, bron iawn un o bob tri (30 y cant). Mae hynny’n cymharu ag ychydig o dan un o bob pedwar (22 y cant) yng ngwasanaeth yr heddlu ac ychydig o dan un o bob deg (11 y cant) yn y gwasanaeth tân a oedd yn graddio'u hiechyd meddwl yn wael ar hyn o bryd.

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r arolwg, meddai Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Dros Dro Mind Cymru:

“Roedden ni’n gwybod, hyd yn oed cyn i’r coronafeirws gyrraedd, fod achosion o iechyd meddwl gwael yn gyffredin ar draws y gwasanaethau brys. Mae’r arolwg diweddaraf hwn yn dangos fod iechyd meddwl ein hymatebwyr brys wedi gwaethygu, gyda staff a gwirfoddolwyr ambiwlans yn cael eu bwrw galetaf. Mae staff golau glas wedi bod yn sôn wrthym fod gweithio yn y gwasanaethau brys – yn enwedig y gwasanaeth ambiwlans – yn eithriadol o werth chweil ond hefyd yn heriol. Mae’r bobl sydd wedi ymateb i’n harolwg wedi’i wneud yn glir fod eu swyddi’n gofyn hyd yn oed fwy ganddyn nhw yn ystod y pandemig. Mae’n nhw’n gorfod cymryd penderfyniadau anoddach ac o bosibl rhwng bywyd a marwolaeth yn ddyddiol, yn ogystal â delio gyda marwolaeth a phrofedigaeth a phryderon am eu hiechyd a llesiant eu hunain a rhai eu hanwyliaid.

“Mae’n wirioneddol bwysig fod ein hymatebwyr brys sy’n gweithio mor galed yn gallu cael y gefnogaeth ar gyfer eu llesiant os a phryd maen nhw ei angen. Diolch i arian o Gronfa Ymateb COVID-19 Sefydliad Brenhinol Dug a Duges Caergrawnt, byddwn yn ceisio sicrhau fod adnoddau newydd ar gael i gefnogi'r gwasanaeth golau glas yng Nghymru gyda’r bwriad o ymestyn cyfleoedd i hyfforddi a chael cefnogaeth."

Sefydlodd Liz Wedley, Rheolwr Gweithrediadau Ardal yn yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, eu Tîm Pandemig Lleol yng Ngogledd Cymru Mae’n byw ym Mhenarlâg ac meddai:

“Mae’r pandemig wedi bod yn wirioneddol anodd i ni. Rydyn ni wedi mynd o’r hyn oedd eisoes yn wasanaeth prysur gyda llawer o bwysau i orfod delio gyda phandemig gyda’r un faint o bobl. Mae wedi ein hymestyn i’r eithaf. Roedd y fyddin a St Ioan yn helpu pan oedd pethau ar eu gwaethaf, oedd o gymorth mawr ac allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw.

“Ar un llaw, mae'n hymateb i'r pandemig wedi creu amgylchedd wirioneddol gryf yn y tîm gyda phawb yn camu ymlaen ac yn cyd-wneud â'i gilydd. Yn y dyddiau cynnar, bron iawn nad oedd hynny'n ein cryfhau. Mae pobl wedi dod yn fwy agored ac yn sôn am yr anawsterau maen nhw’n eu cael gyda'u hiechyd meddwl hefyd, sy'n hynod bositif.

“Fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio, rwy’n gweld mwy a mwy o bobl sydd bron iawn yn rhedeg ar awtopeilot ac yn llusgo eu hunain trwy’r diwrnod gwaith. Maen nhw’n byw ar eu nerfau. Hyd yn oed wrth ddi-briffio ar ôl digwyddiad trawmatig, mae’n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n Covid-19 diogel - allwch chi ddim rhoi hyg i bobl os ydyn nhw'n stryglo. Dydych chi byth yn ymlacio go iawn.

“Rwy’n pryderu y bydd, rywbryd, yr holl deimladau y mae pobl yn eu cronni yn ffrwydro. Sut allwn ni, fel gwasanaeth ac fel cymdeithas, eu cefnogi? Mae’r gohirio’r cyfan yn bryder go iawn i mi.”

Ychwanegodd Lucy Morris, Swyddog yr Heddlu’n ymateb ar linell flaen Heddlu Dyfed Powys:

“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn wirioneddol anodd. Roedd yn frawychus iawn i ddechrau – roedd yn anodd gwybod sut y byddwn ni’n gallu gwneud ein swyddi tra’n wynebu salwch anweledig a mor ddifrifol. Rwy’n dioddef o or-bryder ers ychydig o flynyddoedd bellach ac nid yw’r pandemig wedi helpu.

“Mae gwneud y swydd wedi dod yn anoddach wrth i’r misoedd fynd heibio. Roedd y cyfnod clo cyntaf yn gymharol dawel, y rhan fwyaf o bobl yn aros gartref a doedden ni ddim yn cael llawer o alwadau allan. Ond, roedd yr ail don yn llawer mwy anodd, mwy o bobl yn dal Covid-19, ninnau’n brin o staff a phobl yn dechrau llosgi allan.

“Rwy’n teimlo fy mod wedi fy nihysbyddu’n feddyliol wrth i’r misoedd fynd heibio ac mae hynny'n effeithio ar fy ngor-bryder. Rwy’n ceisio brwydro yn ei erbyn drwy wneud pethau ystyrlon – mynd â’r ci am dro, lliwio, darllen, hyd yn oed sglefrio gydag aelodau o fy nhîm. Unrhyw beth alla i ei wneud i droi cefn ar bethau am ychydig.

“Rwy’n falch fod rhaglen Golau Glas Mind yn ail ddechrau. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gael sgwrs, sôn sut maen nhw’n teimlo a chael ychydig o gefnogaeth. Mae'n rywbeth mae pob un ohonom ei angen ryw bryd, ac yn enwedig ar hyn o bryd."

Meddai David Crews, Rheolwr Criw, Arweinydd Prosiect Iechyd Meddwl, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae staff ar draws y Gwasanaeth yn cynnig eu cefnogaeth yn y frwydr yn erbyn Covid-19, gan gynnwys gyrru ambiwlans a gwirfoddoli mewn canolfannau brechu. Mae gweithio mewn gwasanaeth brys yn codi ei heriau unigryw ei hunan, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Mae natur rhai o’r swyddi yn y Gwasanaeth yn gallu effeithio ar lesiant meddyliol. Mae’r pandemig wedi newid y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn cymdeithasu gyda’n gilydd, roedd hynny’n her allweddol gydol y pandemig. Mae’n deg dweud fod Covid-19 wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant ac na fyddwn yn sylweddoli beth yw gwir effaith Covid-19 ar ein hiechyd meddwl am dipyn eto.

Mae’n bwysig cydnabod fod ein staff a’n cymuned yn dal i deimlo’n bryderus ynghylch Covid-19".

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top