Get help now Make a donation

Mae cefnogaeth a gwybodaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg yn hanfodol, dywed Mind Cymru

Tuesday, 28 June 2022 Mind

Mae gan Mind Cymru wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth Gymraeg ar ei gwefan, fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i gymorth ddwyieithog.

Mae’r tudalennau diweddaraf, gan gynnwys straen, pryder a hunan-barch, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am fwy o ymarferwyr Cymraeg eu hiaith yn y rhaglen Monitro Gweithredol am ddim.

Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod cymorth iechyd meddwl yn gweithio orau pan fydd yn cael ei ddarparu yn yr iaith mae pobl fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio. Gall fod yn ddigon anodd siarad am eich teimladau, heb orfod eu cyfieithu i ail iaith yn gyntaf.

“Dyna pam ein bod yn parhau i ddiweddaru ein gwefan i gynnwys mwy o gymorth a gwybodaeth yn y Gymraeg nag erioed o’r blaen. Rydyn ni’n gweld nifer mwy nag erioed o bobl yn defnyddio ein tudalennau Cymraeg – dros 20,000 yn y chwarter diwethaf yn unig – felly mae’r angen yn amlwg yno.

“Rydyn ni eisiau gweld pobl yn cael eu cefnogi yn eu dewis iaith ledled Cymru, gan sefydliadau fel ni a’r GIG. Po fwyaf o ddewis sydd yna, y gorau.”

Ochr yn ochr â’r tudalennau gwybodaeth y mae Mind Cymru yn eu cynnig i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ceir hefyd nifer o flogiau a ysgrifennwyd yn Gymraeg. Mae’r rhain yn brofiadau personol gan bobl sy’n rhoi cyngor a chymorth i wneud yn siŵr nad yw eraill yn teimlo ar eu pen eu hunain ar ôl cael diagnosis.

Mae Lois Parri, 22, o Ogledd Cymru, yn deall pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg. Yn 2017, cafodd therapi siarad gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) am ei phryder difrifol. Fodd bynnag, bu’n rhaid iddi wneud hynny yn Saesneg gan fod y rhestr aros am gymorth Cymraeg yn rhy hir. Dywedodd: “Roedd cael fy magu gyda phryder yn anodd iawn, ac mae’r broses therapi yn gallu bod yn heriol ac weithiau’n anghyfforddus.”

“Byddai gallu cael gafael ar gymorth yn Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae siarad am eich teimladau yn ddigon anodd heb orfod gwneud hynny yn eich ail iaith. Mae’n rhwystr ychwanegol rhag cyfathrebu materion sensitif. Mae’n wych bod Mind Cymru yn helpu pobl yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi – gorau po fwyaf o gymorth Cymraeg sydd ar gael, fel bod pawb yn cael yr un cyfle i fynegi eu hunain yn llawn.”

Mae’r tudalennau gwybodaeth i’w gweld yma: https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-a-chefnogaeth/?utm_source=mindwebsite&utm_medium=press&utm_campaign=bilingual-info

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top