Get help now Make a donation

Nid yw pobl ifanc yng Nghymru yn cael gofal digonol wrth symud o wasanaethau iechyd meddwl i blant i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, meddai Mind Cymru

Friday, 13 May 2022 Mind

Nid yw pobl ifanc yng Nghymru yn cael gofal digonol wrth symud o wasanaethau iechyd meddwl i blant i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, meddai Mind Cymru.

Nid yw pobl ifanc yn cael gofal digonol wrth symud o wasanaethau iechyd meddwl i blant i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion – ac mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau brys i wella’r system.

Wrth lansio eu hymgyrch #SortiwchYSymud #SortTheSwitch, mae Mind Cymru wedi cydweithio â phobl ifanc o bob cwr o Gymru i dynnu sylw at y problemau mwyaf o ran newid i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion (AMHS).

Dywedodd Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobl Ifanc Mind Cymru: “Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym bod eu hanghenion, eu safbwyntiau a’u teimladau wrth symud i wasanaethau oedolion yn cael eu hanwybyddu yn aml.

“Weithiau, nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru ei hun yn cael eu dilyn, sy’n golygu bod pobl ifanc yn cael eu gadael heb y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd, ac i newid y ffordd y bydd gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan sicrhau bod rhywun yn gwrando ar ein pobl ifanc a’u bod yn cael y gofal priodol.”

Daw Adroddiad Mind Cymru ar ôl cynnal cyfweliadau gyda phobl ifanc am eu profiadau o symud o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Arbenigol (SCAMHS) i AMHS.

Tynnwyd sylw at bum maes allweddol lle nad yw gwasanaethau’n gofalu’n ddigonol am bobl ifanc:
- Gwybodaeth wael yn cael ei chynnig i bobl ifanc, yn enwedig ynglŷn â’u hawliau
- Defnydd anghyson o ran cynlluniau gofal a thriniaeth
- Derbyn trothwyon uchel ar gyfer atgyfeiriadau SCAMHS ac AMHS
- Teimlo eu bod yn cael eu gadael a’u hynysu gan SCAMHS
- Oedran yw’r prif ffactor o hyd wrth wneud penderfyniadau ar gyfer symud o SCAMHS i AMHS

Ychwanegodd Nia Evans: “Gallai unrhyw un o’r materion hyn wneud y broses o symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn anodd i’n pobl ifanc. Ond yn aml, mae mwy nag un yn digwydd ar unrhyw un adeg.

“Mae gan ein pobl ifanc yr hawl i gael gofal a chymorth gan system iechyd meddwl sydd wedi cael ei rhoi ar waith i’w helpu nhw i wella. Rhaid cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod y systemau cymorth yn gadarn ac yn gwneud y gwaith yr oeddent wedi’u cynllunio i’w wneud.”

Mae Mind Cymru yn gofyn i bobl anfon e-bost at eu Haelod o’r Senedd (AS) i gael gwybod mwy am leisiau’r bobl ifanc hyn nad yw eu profiadau’n cael eu clywed yn aml, a defnyddio’r hashnod #SortiwchYSymud #SortTheSwitch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Megan Abbott, 21, o Orslas (Pen-y-bont ar Ogwr yn wreiddiol) ddiagnosis o iselder, gorbryder ac anhunedd tra oedd o dan SCAMHS. Ar ôl symud i wasanaethau oedolion ym mis Mawrth 2019, bu’n rhaid i Megan addasu i’r newidiadau o fewn y gwasanaeth yn ogystal â newidiadau diagnostig, pryd cafodd ddiagnosis o Awtistiaeth ac Anhwylder Personoliaeth Ffiniol.

Dywedodd hi: “Er bod y symud o SCAMHS i wasanaethau oedolion yn llyfn yn ymarferol, roedd yn naid fawr i mi. Es i o gael apwyntiadau un awr reolaidd gyda seiciatreg bediatrig i sesiynau byr 10 munud yn y gwasanaethau oedolion.

“Roeddwn weithiau’n gweld fy sesiynau yn SCAMHS yn ddi-fudd ond roedd yn dal i fod yn naid fawr yn mynd o gael fy nhrin fel plentyn a chael y sesiynau hir yma, i fynd i’r gwasanaethau oedolion, lle mae gen i sesiynau 10 munud ac yn gadael gyda set wahanol o feddyginiaeth fwyaf amseroedd.

“Mae’n arbennig o anodd mynd o SCAMHS lle mai’r agwedd yw nad yw pobl ifanc yn ddigon hen i wneud eu penderfyniadau eu hunain, i wasanaethau oedolion lle dywedir wrthym ein bod yn gyfrifol am ein hiechyd meddwl a’n lles ein hunain. Nid oes unrhyw gefnogaeth i adael i gleifion addasu i’r newid hwn, ac nid oes unrhyw rybudd i realiti gwasanaethau oedolion chwaith.

“Wrth droi'n 18 oed, rydym yn dod yn oedolion yn gyfreithiol, fodd bynnag mewn termau realistig, nid ydym yn dod yn oedolion yn ein hunain dros nos. Mae angen gwasanaeth i ddarparu gwell gofal i oedolion ifanc er mwyn pontio'r bwlch hwn.

“Cafodd y diffyg cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio hwn effaith fawr arnaf, nid oedd yn newid roeddwn i'n disgwyl. Roeddwn i’n ei chael hi’n eithaf anodd, a byddwn wedi elwa o rywfaint o gymorth ychwanegol i fod yn barod i symud i wasanaethau oedolion.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma, ac mae’n cynnwys beth fyddai’n cael ei ystyried fel symudiad da o SCAMHS i AMHS yn ei olygu i bobl ifanc, a lle gallai’r system bresennol wella.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill er mwyn cyflawni hyn. Gyda chymorth pobl ifanc, bydd Mind Cymru yn parhau i frwydro dros newid yn y maes hwn.

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top