Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sortiwch y Switsh

Mae ein pobl ifanc wedi siarad.

Mae ganddyn nhw hawl i gefnogaeth iechyd meddwl, beth bynnag eu hoed.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym bod y symudiad o wasanaethau arbenigol plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion ddim yn gweithio yng Nghymru.  

Mae rhai’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael, eu bod ar eu pen eu hunain ac yn cael eu hanwybyddu. Mae angen i’w lleisiau newid y system er gwell. Nawr.

Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd meddwl i wrando ar bobl ifanc. A sortio'r switsh.

Gweithredu

Dylai pobl ifanc adael gwasanaethau iechyd meddwl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn cael eu clywed a’u bod yn cael y gofal priodol. Dydy llawer ddim. Mae’n amser i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd meddwl Sortio’r Switsh.

I helpu, gofynnwch i’ch AS sortio'r switsh.

Ebostiwch eich AS

Darganfod mwy

Drwy weithio gyda phobl ifanc, rydym wedi creu adroddiad i rannu storïau ynglŷn â symud o wasanaethau arbenigol plant i wasanaethau oedolion.

Mae’n cynnwys argymhellion brys; o archwiliadau gwybodaeth i wasanaeth iechyd meddwl sy’n cefnogi pobl hyd at 25 oed.

Darllenwch y crynodeb o adroddiad Sortiwch y Switsh

Darllenwch yr adroddiad Sortiwch y Switsh llawn

I Sortio'r Switsh, rhaid i Lywodraeth Cymru: 

  • Wrando ar leisiau pobl ifanc yn SCAHMS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol) a gweithredu
  • Sicrhau bod canllawiau cenedlaethol yn cael eu gweithredu, a bod pobl ifanc yn cael yr help y mae ganddyn nhw hawl iddo
  • Rhoi gwell cefnogaeth i bobl ifanc pan fyddant yn gadael SCAMHS, a helpu i wneud y symudiad i wasanaethau oedolion yn gam cadarnhaol yn eu hadferiad
  • Newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu rhedeg, er mwyn cynnwys lleisiau pobl ifanc yn well.

Beth yw SCAMHS?

Mae SCAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol) yn wasanaethau di-dâl sy’n cael eu rhedeg gan y GIG er mwyn helpu pobl ifanc â’u hiechyd meddwl.

Darllenwch fwy am SCAMHS a’r symudiad o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau oedolion.

Gofynnwch am gefnogaeth a gwybodaeth am iechyd meddwl pobl ifanc.

Rhannwch yr ymgyrch #SortiwchYSwitsh 

Dangoswch i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd meddwl bod yn rhaid iddynt gymryd anghenion iechyd meddwl pobl ifanc o ddifri.

Rhannwch yr ymgyrch hon ar Instagram neu Twitter gan ddefnyddio #SortiwchYSwitsh.

Lawrlwythwch adnoddau #SortiwchYSwitsh:

arrow_upwardYn ôl i'r brig