Beth mae Mind Cymru yn ei wneud?
Mind Cymru yw Mind yng Nghymru. Rydym yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt. Rydym yma i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.
Ein heffaith
Bob blwyddyn, rydyn ni’n helpu miloedd o bobl yng Nghymru i gael y cymorth gorau posibl i’w hiechyd meddwl trwy ein helusennau Mind lleol, siopau manwerthu a'n gwasanaethau gwybodaeth ac ymgyrchu.
Rydym yn mynd i’r afael â rhwystrau at gymorth ac yn lleihau stigma. Rydym yn newid polisïau a systemau. Mae gennym ni’r sgiliau, y profiad a’r arbenigedd i helpu pob un ohonom sydd ei angen.
Dysgwch fwy trwy ddarllen adroddiad effaith blynyddol diweddaraf Ffederasiwn Mind yng Nghymru.

Ymgyrchoedd
Rydym yn ymgyrchu i gyrraedd sefyllfa well i bobl Cymru. Yma, cewch fanylion am ein hymgyrchoedd cyfredol a sut y gallwch gymryd rhan.
Gwybodaeth ddwy-ieithog
Rydym yn cynnig gwybodaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cael cefnogaeth yn eich dewis iaith.
Eich Mind lleol
Mae 16 Mind lleol ar draws Cymru, yn cefnogi oddeutu 36,000 o bobl. Darganfyddwch sut gall eich Mind lleol eich cefnogi chi yn eich cymuned.
Lle alla i gael cymorth iechyd meddwl yng Nghymru?
Mae gennym 16 Mind lleol ar draws Cymru. Mae pob Mind lleol yn wahanol, ond mae pob un ohonynt yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i'w cymuned leol.
Sut ydym yn cael ein llywodraethu?
Yng Nghymru, rydym yn gosod ein hagenda ein hunain ac yn blaenoriaethu ymgyrchoedd a phrosiectau sy'n bwysig i’r bobl sy'n byw yma.
Rydym yn cael ein llywodraethu gan 'Pwyllgor', sef pwyllgor o wirfoddolwyr sy'n helpu ein cyfeirio gan sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.
Ein hymrwymiad i'r Gymraeg
Yn ogystal a darparu ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl yn y Gymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn elusen well i siaradwyr Cymraeg trwy gynyddu’r nifer o aelodau o staff sy’n medru'r Gymraeg.
Darganfyddwch fwy am sut y gallwn ni eich cefnogi chi yn Gymraeg.

Y Straeon Diweddaraf o Gymru
Darllenwch y straeon diweddaraf o Gymru. Mae ein blogwyr yn rhannu eu profiadau o fyw gyda phroblem iechyd meddwl neu weithio ym maes iechyd meddwl.
Pam y gwnes i gerdded 6,600 o filltiroedd i godi arian i Mind
James sy’n egluro sut y gwnaeth o wneud ffrindiau, achub bywyd, a darganfod cariad ar ôl ymgymryd â’r dasg enfawr o gerdded arfordir Prydain.
Pam fy mod yn annog dynion i gymryd pum munud i feddwl er mwyn eu hiechyd meddwl
Mae Louis, o Gasnewydd, yn esbonio pam mae'n meddwl y gallai dynion elwa o neilltuo amser er lles iddyn nhw bob dydd.
Pam dwi’n meddwl y dylai dynion siarad mwy am eu hiechyd meddwl
Ar ôl colli ei frawd drwy hunanladdiad, mae Callum yn annog dynion ifanc eraill i siarad.
Partneriaethau a chydweithrediadau Mind Cymru
Mae Mind Cymru yn gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill.
Mae partneriaethau yn ein helpu i newid meddyliau a gweithio er mwyn gwella iechyd meddwl i bawb. Rydym yn gweithio gyda:
- Y Gymdeithas Strôc - rydym yn gweithio gyda’r Gymdeithas Strôc a goroeswyr strôc, i ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl newydd i bobl sydd wedi cael strôc. Darllenwch yr adroddiad.
- Athletau Cymru - Gyda'n gilydd rydym yn cefnogi iechyd meddwl cymuned redeg Cymru. > Darllenwch ein datganiad i'r wasg
- Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC) - cydweithrediad rhwng elusennau iechyd meddwl a hunanladdiad a hunan-niwed cenedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n profi problem iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu trin â thosturi, bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth yn gyflym ac mor agos at eu cartrefi a phosibl. Mae’r Gynghrair yn cynnwys: Adferiad, Diverse Cymru, Mental Health Matters, Mind Cymru, Papyrus UK: Prevention of Young Suicide, Platfform, Samaritans Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Nia Sinclair ar [email protected] .