Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mind a’r Gymraeg

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen cefnogaeth iechyd meddwl yn Gymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn elusen y gallwch chi droi ati. Mae’r dudalen hon yn amlinellu ambell ffordd y gallwn ni eich cefnogi chi yn Gymraeg, yn ogystal â’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i wella cefnogaeth a gwasanaethau Cymraeg ar draws Cymru.

Gwybodaeth a chefnogaeth

Bellach, gallwch ddarllen ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl yn Gymraeg, ac mae ein holl wybodaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ar gael yn ddwyieithog. Ewch i'n tudalennau gwybodaeth yn Gymraeg am fwy.

Darllenwch ein tudalennau gwybodaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Darllenwch ein tudalennau gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc yn Gymraeg neu Saesneg.

Gallwch hefyd ddarllen blogiau gan Gymry eraill â phrofiad o broblemau iechyd meddwl, ac mae’r blogiau Cymraeg yn cael eu rhannu ar Twitter @MindCymru. Dilynwch ni am y diweddaraf yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ymgyrchu

Mae ymgyrchoedd Mind Cymru i gyd yn ddwyieithog, gan gynnwys ein hymgyrch i wella gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg. Cofrestrwch nawr a gwnewch eich dewis iaith i helpu newid polisi iechyd meddwl yng Nghymru er gwell.

Cofrestrwch i fod yn ymgyrchydd

Cymraeg yn y gweithle

Rydyn ni eisiau mwy o aelodau staff sy’n siarad Cymraeg yn Mind. Byddwn yn hysbysebu swyddi yng Nghymru yn ddwyieithog, gan sicrhau ein bod yn atebol i’n hymrwymiad trwy gynnwys y Gymraeg fel un o’n meini prawf monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwersi Cymraeg i unrhyw aelodau o staff sydd eisiau gwella eu Cymraeg. I gael gwybod mwy am weithio i Mind a’n swyddi gwag presennol, ewch i:

Swyddi a gwirfoddoli

Cynnig Cymraeg

Rydyn ni’n benderfynol o wella’r ffordd rydyn ni’n cefnogi siaradwyr Cymraeg gyda’u hiechyd meddwl, a dyna pam rydyn ni wedi llunio ein Cynnig Cymraeg gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Lawrlwythwch ein rhestr gyflawn o ymrwymiadau yma.

arrow_upwardYn ôl i'r brig