Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cerdded a gwersylla gwyllt i reoli fy iechyd meddwl

Dydd Iau, 16 Tachwedd 2023 Andrew

Mae Andrew, sy'n gerddwr brwd, yn esbonio pam ei fod yn cerdded ac yn gwersylla’n wyllt ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n 177 milltir o hyd, i godi arian i Mind.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rydw i wrth fy modd yn cerdded nawr, ond nid felly oedd hi bob amser. Mae cerdded a’r awyr agored yn weithgareddau cymharol newydd y gwnes i ddechrau ymddiddori ynddyn nhw yn fy 30egau cynnar. Fe ges i fy magu yn Ne Cymru, lle doeddwn i byth yn bell iawn o fryniau tonnog, morlinau creigiog a llwybrau coediog, ond yn f'arddegau, gweithgareddau llai gwledig fel gwylio'r teledu a bwyta creision oedd yn denu fy sylw.

Mae’n debyg bod gwylio’r teledu a chreision wedi fy nghynnal i am lawer mwy o amser nag y dylen nhw fod wedi gwneud, ond fel rydyn ni i gyd yn gwybod, dyw bywyd ddim bob amser yn aros mor syml â hynny. Fel bachgen ifanc, fe wnes i brofi’r holl ofid a’r holl deimladau gorlethol arferol ynghylch cael fy nerbyn a bod yn ddigon da.   Roedd yn hawdd diystyru hyn fel rhywbeth nodweddiadol o’r oedran hwnnw, cyfnod annifyr o angenrheidiol ym mlynyddoedd y glasoed.

Ond dros y blynyddoedd ac yn fy 20au, daeth diystyru meddyliau neu fygu teimladau yn arferiad, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn sgìl y gallwn ei ddefnyddio heb sylweddoli fy mod yn gwneud hynny hyd yn oed. Fe wnaeth hyn helpu yn y tymor byr – gan ganiatáu elfen o gael fy nerbyn yn gymdeithasol – ond roedd yr anochel bob amser ar y gorwel.

Roedd peidio â mynegi fy hun mewn unrhyw ffordd ystyrlon yn golygu bod popeth yn dal i droi yn fy mhen, yn un carbwl annealladwy. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud na phen na chynffon o fy meddwl fy hun, ac yn y pen draw fe rois i'r gorau i drïo. Gan bwyll bach, roeddwn i wedi dysgu nad oedd unrhyw werth yn yr hyn roeddwn i’n ei feddwl nac yn bwy oeddwn i, ac fe wnes i ymbellhau.

Roedd yr undonedd roeddwn i’n ei deimlo yn well na’r poeni anniddig ond, yn anochel, ymhen amser, dechreuodd yr holl deimladau roeddwn i wedi bod yn eu mygu eu mynegi eu hunain ar ffurf pyliau o banig lled-reolaidd, teimlo’n bryderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a hunan-gasineb nad oeddwn i’n gallu ei ysgwyd. Daeth hyn i ben yn fy 30au cynnar pan oeddwn yn byw yn Llundain ac felly, o’r diwedd, fe wnes i benderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mewn gwirionedd, doeddwn i ddim eisiau gwneud dim. Byddai eistedd ar fy mhen fy hun o dan goeden ar lan afon wedi bod yn berffaith. Ond roeddwn i’n sylweddoli na fyddai fy ffrindiau a fy nheulu yn cyd-fynd â hynny. “Dwyt ti ddim yn gwneud dim byd? Pam? Pryd wyt ti’n mynd yn ôl i’r gwaith?”. Dyma’r math o bethau roeddwn i’n dychmygu y bydden nhw’n eu gofyn i mi.

Roeddwn i’n gwybod na allwn i ond gwneud dim byd.  Felly, yn lle hynny, fe wnes i gerdded. Fe wnes i gerdded y Camino de Santiago de Compostela ar draws Ffrainc a Sbaen. Roedden nhw’n ddau fis heriol iawn am nifer o resymau gwahanol ond fe wnaeth cael yr un nod dyddiol hwnnw o gerdded o A i B fy ngalluogi i weld bywyd mewn termau syml eto.

Efallai fod croesi cwpl o wledydd ar droed wedi bod yn orymateb ond nid oedd yn teimlo felly ar y pryd – roeddwn i’n ysu am y ddihangfa, yr heddwch, y cyfle i anadlu gyda holl ddwndwr y byd wedi'i dawelu.

Wrth gwrs, wnaeth hyn ddim datrys fy mhroblemau i gyd, ond fe wnaeth roi'r amser a’r gofod i mi fynd i'r afael â nhw. Erbyn hyn, dyna sut rydw i’n gweld cerdded ar raddfa ehangach - cyfle i droi’r sain i lawr ar y byd a gadael i'r meddyliau lifo heb gael eu hatal yn gyson gan byliau o bryder neu hunan amheuaeth.

A dyna beth arall, mae cerdded yn rhywbeth y gellir ei gyflawni, yn ffordd o gael eich ymreolaeth yn ôl ac o arfer yr ymreolaeth honno. Efallai nad ydy troedio am filltiroedd dros grib yn y glaw yn hawdd, ond mae’n syml. Yn syml o ran y ffaith mai’r cwbl y mae’n rhaid i chi ei wneud ydy rhoi un droed o flaen y llall. Symlrwydd cerdded a gonestrwydd yr elfennau sy’n dod â sadrwydd yn ôl i fywyd rhywun, yn fewnol ac yn allanol. Mae cerdded ym myd natur yn teimlo fel yr ateb i dawelu meddwl prysur.

"Y dylanwad cadarnhaol mae cerdded ym myd natur wedi’i gael ar fy lles meddyliol ydy’r rheswm pam fy mod wedi dewis codi arian i Mind."

Fe fydda i’n codi arian i Mind drwy gerdded a gwersylla’n wyllt ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n 177 milltir o hyd, ym mis Rhagfyr 2023. Rwy’n hoff iawn o fynd ar deithiau cerdded diwrnod ond, o gofio'r adeg ar y flwyddyn, mae’r daith hon yn cyflwyno rhai heriau newydd nad ydw i wedi’u hwynebu o’r blaen o ran y tywydd a’r dirwedd. 

Byddai’n golygu llawer iawn pe baech chi’n gallu fy helpu i godi rhywfaint o arian i gyfrannu at y gwasanaethau lles meddyliol pwysig y mae Mind yn eu darparu ledled y wlad. Ac os hoffech chi ddilyn fy nhaith, gallwch chi ar Instagram yn @JockeyWilson.

 

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig