Cyn i mi gofrestru ar gyfer hunangymorth gyda chefnogaeth, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n boddi
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Janette yn sôn am sut mae’r rhaglen Mind wedi’i helpu, a pham ei bod weithiau’n haws bod yn agored ac yn onest â rhywun nad ydych chi’n ei adnabod.
Mae ein hymgyrch Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ymwneud â’r ffaith mai dim ond dechrau’r daith yw ymwybyddiaeth a nawr mae’n amser gweithredu – boed hynny drwy annog pobl i roi cynnig ar raglen hunangymorth gyda chefnogaeth Mind, gan rannu stori fel mae Janette wedi’i wneud, neu drwy wneud rhywbeth cwbl wahanol. Dysgwch fwy am hunangymorth gyda chefnogaeth yma.
Beth bynnag rydych chi'n penderfynu ei wneud, byddwch yn helpu i ymladd dros iechyd meddwl. Dysgwch sut gallwch chi fod yn rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yma.
Mae sawl peth wedi digwydd yn fy mywyd ers 2020. Fe wnes i golli fy mam i Covid ac yna bu farw fy nain yn fuan wedyn. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cafodd fy nheulu a minnau ein gorfodi i symud i lety brys i ddianc o’n sefyllfa fyw ofnadwy. Bu bron i mi â cholli fy mab. Roedd yn teimlo fel bod un peth drwg ar ôl y llall yn digwydd, a doeddwn i ddim fel pe bawn i’n gallu cael fy hun allan o’r cylch.
Rheoli eich teimladau
Yn y diwedd fe es i weld fy meddyg teulu gan fy mod i wedi bod yn cael rhai problemau parhaus gyda fy iechyd corfforol, ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio at Mind i gael cymorth gyda fy iechyd meddwl.
Cefais fy nghofrestru ar gyfer hunangymorth â chefnogaeth, a dyna pryd y dechreuais i weithio gyda fy ymarferydd Stephanie o Mind Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rhaglen un-i-un dan arweiniad sy’n para am chwe wythnos yw hunangymorth â chefnogaeth. Ac mae o am ddim. Mae Mind yn rhoi’r deunyddiau i chi ddeall a rheoli eich teimladau, ac mae eu hymarferwyr yn defnyddio sgiliau cwnsela ac offer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn y sesiynau. Cyn i mi gael gwasanaeth hunangymorth gyda chefnogaeth Mind, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n boddi.
Yn wreiddiol, roedd fy symptomau’n cynnwys popeth o alar i orbryder ac iselder – ond ar ôl siarad â Stephanie roedd yn ymddangos bod fy holl broblemau’n gysylltiedig â’r menopos, a’r effaith roedd hyn yn ei chael ar fy iechyd meddwl.
Cymerodd dipyn o amser i ddechrau arni ond roedd Stephanie yn hyfryd, a bu'n gweithio gyda mi am chwe wythnos. Roedd ein cyfarfodydd dros y ffôn, ac fe anfonodd hi lyfrynnau ataf i’w darllen ac ymarferion i mi roi cynnig arnyn nhw gartref.
“Rhoddodd Stephen ymarferion anadlu ac ymlacio amrywiol i mi er mwyn helpu i fy nhawelu mewn cyfnodau o orbryder.”
Roedd un ymarfer yn ymwneud â dyddiadur lle roeddwn i’n gallu cofnodi’r holl faterion roeddwn i wedi bod yn cael trafferth ymdopi â nhw, yn ogystal â ffyrdd y gallwn i ddelio â nhw. Roedd hyn yn cynnwys rhestr o sbardunau - y gwnaethom eu hadolygu gyda’n gilydd yr wythnos ganlynol - a siarad amdanynt mewn ffordd oedd yn fy ngalluogi i feddwl pam roedd y sbardunau hyn yn effeithio arna’i, a theimlo fy mod yn gallu eu deall yn well.
Rhoddodd Stephanie ymarferion anadlu ac ymlacio amrywiol i mi er mwyn helpu i fy nhawelu mewn cyfnodau o orbryder a phoeni. Awgrymodd hefyd i mi ddefnyddio dulliau tynnu sylw a chanolbwyntio ar rywbeth arall am eiliad – cyngor cadarnhaol a defnyddiol rydw i’n dal i’w ddefnyddio heddiw.
Mae fy iechyd meddwl yn well nag yr oedd erbyn hyn. Dydy o ddim yn 100%, a dydw i ddim yn meddwl y bydd o byth. Rydw i’n dal i brofi galar ar ôl colli mam ac rydw i’n dal i’w cholli, ond fe wnaeth y gwasanaeth fy helpu drwy gyfnod mor anodd pan oedd yn teimlo bod popeth yn fy nharo ar unwaith.
Roedd yn bwysig i mi ddeall bod fy symptomau o orbryder, iselder a galar i gyd yn gysylltiedig â’r menopos. Nid dim ond symptomau arferol y menopos fel chwysu yn y nos. Ond y teimlad llethol sy’n cael ei achosi gan bob dim – methu cysgu, hunllefau, a phoeni’n ddi-baid. Mae gen i apwyntiad gyda’r meddygon yn fuan i drafod fy symptomau menopos. Fe wnaeth Stephanie fy nghynghori i ysgrifennu popeth rydw i eisiau siarad amdano ar bapur, gan fy mod i’n gwybod y bydd fy meddwl yn mynd yn wag yn yr apwyntiad.
Peidio â chael eich beirniadu
Byddwn yn argymell yn gryf bod pobl eraill yn rhoi cynnig ar hunangymorth â chefnogaeth. Mae siarad â rhywun nad ydych chi’n ei adnabod yn barod yn ddefnyddiol iawn weithiau - mae’n llawer haws bod yn agored ac yn onest gyda dieithryn oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i’ch beirniadu chi. Maen nhw’n mynd i ddweud wrthych chi sut y mae hi a rhoi cyngor diduedd i chi. A fyddwch chi ddim yn ffraeo gyda nhw os oes adegau pan fyddwch chi’n teimlo’n flin neu’n ypset!
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.