Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hunangymorth â chefnogaeth: cefnogaeth iechyd meddwl am ddim

Rydym yn profi lefel uchel iawn o ddiddordeb mewn hunangymorth â chefnogaeth, felly ni fyddwch yn gallu cofrestru ar hyn o bryd. Mesur dros dro yw hwn tra bod capasiti ein hymarferwyr yn llawn. Diolch am fod yn amyneddgar gyda ni.

  • Os oes angen cymorth brys arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Mynnwch help nawr’ ar dop eich sgrin.
  • Mae ein cymuned cymorth cymheiriaid ar-lein, Side by Side, yn darparu lle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed.
  • Mae ein Llinell Wybodaeth yn darparu gwybodaeth a chyfeirio. Gallwch eu ffonio ar 0300 123 3393.
  • Mae ein grwpiau Mind lleol hefyd yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr.

This page is also available in English.

Beth yw hunangymorth â chefnogaeth?

Rhaglen chwe wythnos o hunan help gydag arweiniad yw hunangymorth â chefnogaeth. Mae'r rhaglen am ddim.  Rydyn ni'n rhoi'r deunyddiau i chi ddeall a rheoli'ch teimladau. Ac rydym yn eich ffonio'n rheolaidd i roi cefnogaeth i chi.

Nid oes angen atgyfeiriad meddyg teulu arnoch i gofrestru ar gyfer hunangymorth â chefnogaeth.

Nid gwasanaeth cwnsela yw hwn, ond mae ein hymarferwyr yn defnyddio sgiliau cwnsela yn eu cymorth. Mae'n ymgorffori rhai offer arddull Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ond mae hefyd yn darparu mathau eraill o gefnogaeth.

Nid yw hunangymorth â chefnogaeth yn wasanaeth brys. Os oes angen help arnoch nawr, ewch i'n tudalen am ble i ffeindio help nawr.

Sut mae'n gweithio?

Unwaith rydych chi wedi cofrestru, byddwn yn cysylltu â chi i siarad am beth rydych chi'n ei brofi. Os yw hunangymorth â chefnogaeth yn addas i chi, gyda'n gilydd byddwn yn cytuno ar raglen gymorth. Gall hyn gwmpasu unrhyw un o’r canlynol:

  • Pryder
  • Iselder
  • Hunan-barch
  • Stres
  • Teimlad o unigrwydd
  • Rheoli tymer
  • Galar a cholled
  • Menopos

Os byddwch yn symud ymlaen gyda hunangymorth â chefnogaeth, byddwn yn eich gwahodd i sesiwn 40 munud i drafod yn fanylach pa gymorth rydych yn chwilio amdano.

Bob wythnos byddwn yn galw i weld sut rydych chi'n dod ymlaen a rhoi cymorth. Byddwn hefyd yn anfon deunyddiau atoch i'ch helpu i ddeall a rheoli eich teimladau. Gallai’r rhain gynnwys:

  • esbonio sut a pham rydyn ni'n profi emosiynau anodd
  • dyddiadur meddyliau
  • technegau ymwybyddiaeth ofalgar


Yn eich sesiwn olaf, gyda'n gilydd byddwn yn adolygu sut rydych yn teimlo ac yn siarad am y ffyrdd y mae'r cwrs wedi helpu. Byddwn yn siarad am beth sydd nesaf ac os all Mind eich cefnogi mewn unrhyw ffyrdd eraill.

 

Cofrestrwch heddiw

Sut ydw i'n cofrestru?

Cofrestrwch ar gyfer hunangymorth â chefnogaeth trwy sgwrsio â Limbic, ein cynorthwyydd atgyfeirio rhithwir.
Dylai Limbic fod wedi ymddangos ar eich sgrin yn barod. Os na, cliciwch y botwm crwn gyda blob pinc y tu mewn iddo. Mae ar waelod ochr dde eich sgrin.
Bydd Limbic yn eich arwain trwy'r broses atgyfeirio, gan eich helpu i ddeall a yw hunangymorth â chefnogaeth yn iawn i chi.
Bydd yn cymryd tua 8 munud i'w gwblhau.

“Roedd fy nghynghorwr, Mark o Mind Caerdydd, yn gallu tawelu fy meddwl. Roedd yn braf cael siarad â rhywun nad oedd yn fy adnabod i ac na fyddai’n dweud beth oeddwn i eisiau ei glywed.”

Darllenwch stori Gemma am sut wnaeth Hunangefnogaeth â chymorth ei helpu hi a'i phryder.

Ar gyfer pwy mae e?

  • Bydd angen i chi fyw yng Nghymru a bod dros 18 oed.
  • Nid oes ots os oes gennych chi gynllun triniaeth ar gyfer eich iechyd meddwl eisoes. Yn eich ymgynghoriad cyntaf, bydd ein hymarferydd Mind lleol yn sôn a yw’r rhaglen yn addas i chi. Os oes gennych chi anghenion gwahanol, bydd eich ymarferydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill a allai fod o gymorth.
  • Nid oes ots gennym ba mor 'ddifrifol' yw eich problem. Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn aml yn dweud wrthym nad yw ein problemau yn ddigon difrifol iddynt helpu. Mae hunangymorth â chefnogaeth yn wasanaeth i unrhyw un sy'n teimlo bod eu hemosiynau'n mynd yn drech na nhw.
  • Nid oes angen i chi gael diagnosis o broblem iechyd meddwl i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.

Cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i ddeall a yw hunangymorth â chefnogaeth yn iawn i chi.

Active Monitoring FAQs

Llenwch eich manylion cyswllt ar y wefan hon a bydd un o’n tîm sydd wedi’i hyfforddi’n cysylltu â chi i drafod y gwasanaeth a sut y gallai eich helpu chi.

Mae Monitro Gweithredol yn helpu drwy roi syniad i chi o’ch iechyd meddwl a thrwy ddangos ffyrdd ymarferol i chi ddeall a rheoli eich emosiynau. Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn deall eich teimladau’n well, pam eu bod yn codi, sut i’w rheoli a sut i deimlo fwy mewn rheolaeth.

Gall Monitro Gweithredol weithio ar y cyd â thriniaethau eraill. Bydd ein Hymarferwyr Monitro Gweithredol yn trafod y rhaglen gyda chi, ac ai dyma’r rhaglen iawn i chi, yn eich ymgynghoriad cyntaf. Os oes gennych chi anghenion gwahanol, bydd eich ymarferydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanaethau eraill a allai eich helpu.

Nac oes, gallwch ddechrau ar Monitro Gweithredol drwy lenwi’r ffurflen ar y wefan hon.

Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r prosiect hwn, dim ond yng Nghymru y mae ar gael. Mae manylion y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr ar ein tudalennau gwybodaeth https://www.mind.org.uk/information-support/guides-to-support-and-services

Gwasanaeth yw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fod eu hemosiynau’n mynd yn drech na nhw, a gallai hynny fod am sawl rheswm. Does dim rhaid i chi fod wedi cael deiagnosis o broblem iechyd meddwl i gael y gwasanaeth hwn.

Os ydyn ni'n profi galw mawr ar gyfer y gwasanaeth, falle bydd hi'n cymryd ychydig mwy o amser i gysylltu nag arfer. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch [email protected].

Does dim rhaid i chi dalu i ddefnyddio Monitro Gweithredol. Mae'r gwasanaeth am ddim, diolch i arian Llywodraeth Cymru.

Gallwn. Fe allwn ni roi’r deunyddiau yn y post yn lle eu ebostio os yw’n well gennych chi. Bydd hyn yn cael ei gytuno yn eich galwad ffôn gyntaf gyda’ch ymarferydd Monitro Gweithredol.

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os yn bosibl, byddwn yn cael ymarferydd yn siarad Cymraeg i weithio gyda chi.

Yn anffodus, nid yw un o'r grwpiau Mind lleol yng Nghymru yn gallu cynnig y gwasanaeth yma ar hyn o bryd. Fodd bynnag, maen nhw'n gallu helpu o hyd. Dewch o hyd i'ch Mind lleol

Gwasanaeth hunangymorth un-i-un (dan arweiniad) yw Monitro Gweithredol, nid gwasanaeth cwnsela. Fodd bynnag, mae ein hymarferwyr yn defnyddio sgiliau cwnsela yn eu cefnogaeth.

Mae Monitro Gweithredol yn ymgorffori rhai offer arddull Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ond mae hefyd yn darparu mathau eraill o gefnogaeth.

Ydy'r rhaglen yn gweithio?

Mewn arolwg diweddar:

  • Graddiodd y gwasanaeth 9/10 gan gleientiaid a byddai bron pob un yn ei argymell
  • Dywedodd 84% o bobl fod ganddyn nhw welliant mewn teimladau o bryder
  • Roedd 85% yn teimlo gwelliant mewn teimladau o iselder ysbryd
  • Nododd 83% welliant yn eu lles meddyliol.

Unrhyw gwestiynau?

Rydym bob amser yn hapus i ateb eich cwestiynau. Cysylltwch â ni ar [email protected]

Mae Monitro Gweithredol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda 15 Mind lleol yng Nghymru diolch i arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i’r pandemig Coronafeirws.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Mind Cymru a’n gwaith yng Nghymru, dilynwch ni ar Twitter @MindCymru

arrow_upwardYn ôl i'r brig