Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut beth ydy bod yn ymddiriedolwr dros Mind Aberhonddu a’r Cylch

Dydd Iau, 16 Tachwedd 2023 Eva

Mae Eva wedi bod yn Ymddiriedolwr dros Mind Aberhonddu a’r Cylch ers 11 mis. Yma mae hi'n rhoi disgrifiad tu ôl i'r llenni o'r hyn mae hyn yn ei olygu a pham ei bod hi'n teimlo'n falch o fod wedi manteisio ar y cyfle.

Rhybudd cynnwys - mae'r blog hwn yn sôn am gam-drin rhywiol a dibyniaeth.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am rôl ymddiriedolwr mewn sefydliad elusennol, mae gan y Comisiwn Elusennau ganllawiau defnyddiol yma.

Defnyddiwch ein adnodd dod o hyd i'ch Mind lleol i ddarganfod cyfleoedd i ddod yn ymddiriedolwr neu ffyrdd eraill o gymryd rhan yn eich cymuned.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rydw i’n ymddiriedolwr dros Mind Aberhonddu a’r Cylch ers 11 mis. Mae pob un ohonom yn gwneud gwahaniaeth yn ein ffyrdd unigryw ein hunain, ac mae gan bawb sgiliau a phrofiadau amrywiol. Mae wedi cymryd amser i setlo, ond mae’n bleser bod yn rhan o grŵp mor gefnogol sydd bob amser yno i afael yn fy llaw a’m gwthio i’r cyfeiriad iawn.

Mae’r daith o gefnogi’r mudiad drwy gyfnodau heriol wedi bod yn dymhestlog iawn. Rydyn ni wedi bod yn gefn i’n gilydd, ac mae gennym ni berthynas glos iawn. Ein rôl ni ydy gwneud penderfyniadau ar ran yr elusen. Er bod hyn yn anodd ar adegau, mae hefyd yn anrhydedd. Mae ein hangerdd i gyflawni ein pwrpas, ‘Helpwch fi pan rydw i angen cymorth, er mwyn i mi allu rheoli fy iechyd meddwl a’m lles,’ yn dod â phawb at ei gilydd ac yn ein gwneud yn gryfach.

“Y peth gorau am fod yn ymddiriedolwr ydy ein bod yn ceisio sicrhau bod anghenion pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn cael blaenoriaeth.” 

Rydyn ni’n aml yn gofyn i ni’n hunain – ydyn ni’n gwneud y defnydd gorau o’n staff a’n gwirfoddolwyr? Rydyn ni’n gwneud ein gorau i adolygu pa mor effeithiol ydyn ni.  Rydw i’n teimlo bod hyn yn allweddol i bopeth rydyn ni’n ei wneud – pobl ydyn ni ar ddiwedd y dydd, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau. Pan fyddwn ni’n ansicr am unrhyw beth - rydyn ni’n gofyn am gyngor ac yn gwneud penderfyniadau o safbwyntiau gwybodus. 

Weithiau, rydw i wedi meddwl sut rydw i’n cael dylanwad ar y tîm, ar y sefydliad ac ar yr aelodau sy’n defnyddio ein gwasanaethau.  Pan rydw i’n lleisio fy marn am unrhyw amheuon, rydw i’n dawel fy meddwl fy mod i’n gwneud cyfraniad gwerthfawr. Mae hyn yn golygu cymaint, oherwydd rydw i’n dueddol o amau fy hun ar adegau.

Efallai na fyddwn ni bob amser yn cytuno, ond mae’n deimlad braf ein bod ni’n gallu mynegi unrhyw bryderon. Rydyn ni’n gefn i’r naill â’r llall pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud. Drwy wneud hyn, gallwn ni wasanaethu’r gymuned a chyflawni ein rôl o oruchwylio llywodraethiant strategol, ariannol a chyfreithiol yr Elusen.

Yr hyn sy’n bwysig i mi ydy nad ydyn ni’n colli golwg ar y ffaith bod poen a thrallod emosiynol pobl yn real iawn.

I lawer ohonom, mae ein profiadau o drallod a heriau iechyd meddwl yn ymateb dealladwy i ddigwyddiadau niweidiol mewn bywyd.

Profiad bywyd

Rydw i’n frwd dros fod yn rhan o’r mudiad iechyd meddwl i newid agweddau a lleihau stigma, yn enwedig o ran cam-drin rhywiol a dibyniaeth. Rydw i wedi cael profiad go iawn fy hun o oresgyn trawma yn ymwneud â cham-drin rhywiol yn ystod fy mhlentyndod, ac rydw i wedi cael profiad go iawn o ddibyniaeth yn oedolyn. Am 35 mlynedd, fe wnes i ddewis cofleidio fy hanes fy hun, a dod i delerau â’r gorffennol.

Roedd hyn yn cynnwys ysgrifennu fy nghofiant, ‘Wearing Red, One Woman’s Journey to Sanity’ i adennill rheolaeth ar adrodd fy stori fy hun, ac i greu fy ystyr fy hun. Ysgrifennais y llyfr i ddangos ei bod yn bosib goroesi amgylchiadau trasig, goresgyn y teimlad o gywilydd ar ôl trawma yn ystod plentyndod, a chreu bywyd llwyddiannus yn llawn uniondeb, urddas a hunan-barch.

Mae hyn yn golygu y galla’ i ddod â phersbectif pwysig gyda fy mhrofiad go iawn o heriau iechyd meddwl. Rydw i wedi cael profiad personol o niwed i hunan-barch ac urddas dynol, sy’n gallu cael ei achosi gan ragfarn, gwahaniaethu ac anwybodaeth mewn cymdeithas.

"Rydw i’n teimlo mor lwcus fy mod i’n cael cyfle i roi fy sgiliau, fy amser a’m sylw i rywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon."

Mae gan bob un ohonom yr hawl i leisio ein barn ac i bobl ddeall ein safbwynt ni. Drwy fod yn ymddiriedolwr, mae’n golygu fy mod i’n cael y fraint o fod yn rhan o fudiad sy’n rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud, dal i deimlo ein teimladau a sefyll yn gadarn. Rydyn ni’n fwy pwerus wrth i ni fod yn fwy cysylltiedig. Mae hyn yn ein helpu i deimlo’n llai unig.

Rydyn ni’n rhoi cyfle i bobl gael rhywun i wrando ar eu straeon, drwy empathi a derbyn, ac nid beirniadaeth. Mae’n fraint gallu helpu i wneud hyn yn bosibl. Rydw i’n frwd dros fod yn rhan o sefydliad sy’n cefnogi pobl eraill i ddod o hyd i ystyr i’r hyn sy’n digwydd i ni.

Rydw i’n teimlo’n ffodus fy mod i’n gallu defnyddio fy holl sgiliau, angerdd, egni ac arbenigedd yn fy rôl. Mae’r rôl yn gofyn am lawer o waith ac ymroddiad, ond mae’r ymdrech yn talu ar ei ganfed. Mae’r llwyddiannau calonogol rydyn ni’n rhan ohonynt yn ein cymuned yn rhoi boddhad mawr i ni.

Cefais y fraint o gwrdd â phobl wych, gan gynnwys aelodau, staff ac ymddiriedolwyr. Yn sicr, fe wnes i’r dewis iawn yn gwirfoddoli fel ymddiriedolwr dros Mind Aberhonddu a’r Cylch.

 

Mae Eva yn gweithio fel tywysydd, hyfforddwr a mentor. Mae hi’n hwylusydd hyfforddedig ac yn rhedeg gweithdai ysgrifennu ar gyfer lles i Mind Aberhonddu a’r Cylch fel gwirfoddolwr. Cyn hynny bu’n gweithio fel cyfarwyddwr yr Asiantaeth Adfer Caethiwed, elusen genedlaethol sy’n gweithio gyda phobl sy’n gwella o gaethiwed.

Add signposts here

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig