Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Grwpiau Mind lleol yng Nghymru

Mae pob un o'r 16 Mind lleol yng Nghymru yn wahanol, gan eu bod i gyd yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i anghenion eu cymuned leol ac yn ymateb iddynt.

Ble mae fy Mind lleol?

No results found.

Beth mae grwpiau Mind lleol yng Nghymru yn ei wneud?

Nid yw dull ‘un ateb i bawb’ yn gweithio i iechyd meddwl, a dyna pam mae grwpiau Mind lleol yn llunio eu cymorth ar eich cyfer chi a’ch cymuned. Weithiau gall cymorth olygu therapi, cwnsela neu addysg sy’n newid bywydau – a hynny pan fydd arnoch ei angen fwyaf.

Ac weithiau, y pethau syml sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf: rhannu cyngor a gwybodaeth, siarad am bethau, neu eich cyflwyno i bobl sy’n deall.

Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru gael gwell iechyd meddwl. Dyna pam ein bod ni, a grwpiau Mind lleol yn bodoli.

Mae grwp Mind lleol ym mhob un Awdurdod Lleol yng Nghymru. Ac mae presenoldeb ym mhob un o olion traed y 7 Bwrdd Iechyd Lleol.

Gan fod y gwasanaethau'n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar gymunedau, mae pob Mind lleol yn wahanol. Golygir hyn y gall beth sydd ar gael amrywio o un Mind lleol i’r llall.

Drwy’r amseroedd da a’r drwg, mae grwpiau Mind lleol yn dod â gobaith i gymunedau ledled Cymru. Ac mae ganddyn nhw’r sgiliau, y profiad a’r arbenigedd i helpu pob un ohonom sydd angen cymorth.

“Galla i ddweud yn sicr bod fy Mind lleol nid yn unig wedi fy nghadw'n fyw, ond wedi fy nghadw'n fyw ac yn fy nghartref gyda fy mhlant. Nawr, dwi’n gwybod fy mod i’n haeddu bod yn hapus.”

Nicki, Powys

Sut mae Mind Cymru a grwpiau Mind lleol yn cydweithio?

Drwy weithio gyda grwpiau Mind lleol, gallwn gyrraedd mwy o bobl ac adeiladu Cymru iachach. Rydym yn rhannu gwybodaeth a syniadau. Rydym yn cefnogi ac yn buddsoddi yng ngwaith grwpiau Mind lleol.

Mae ein cynllun strategol tair blynedd, Un Mind yng Nghymru, yn nodi sut y byddwn yn cydweithio fel rhwydwaith i ddod yn fwy cynhwysol ac effeithiol. Gyda’n gilydd gallwn gyrraedd pob cornel o Gymru, gan gynnig gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.

I gael gwybod mwy am ffyrdd o gydweithio neu cyllid Cymru gyfan, cysylltwch â'n Pennaeth Rhwydweithiau (Cymru), Simon Stephens.

Pa effaith mae gwaith grwpiau Mind lleol yn ei gael yng Nghymru?

Beth yw Ffederasiwn Mind?

Rydym yn rhan o deulu sy’n cynnwys ein siopau elusen a rhwydwaith o dros 100 o elusennau Mind lleol ledled Cymru a Lloegr.

Yn unedig yn ein pwrpas, ni fyddwn yn ildio nes bod pawb sy’n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth a pharch.

Sut gallwch chi gefnogi eich Mind lleol?

Elusennau annibynnol yw gwasanaethau Mind lleol, sy'n codi eu harian eu hunain, ac sydd â byrddau eu hunain sy'n gyfrifol am y ffordd y cânt eu rhedeg.

Gallwch helpu eich Mind lleol i wneud mwy drwy godi arian. Mae rhoi yn lleol yn golygu y bydd eich rhodd yn cefnogi eich cymuned.

Gall gwirfoddoli yn eich Mind lleol helpu i gefnogi mwy o bobl yn eich ardal.

Gwirfoddoli

Gall sefydliadau hefyd ymuno â'r frwydr dros iechyd meddwl.

Partneru gyda ni

arrow_upwardYn ôl i'r brig