Mathau o therapïau cyflenwol ac amgen
Mae hwn yn egluro'r gwahanol fathau o therapïau cyflenwol ac amgen, ar gyfer beth y cânt eu defnyddio a'r sgil-effeithiau posibl.
Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am y canlynol:
- 5-HTP (5-hydroxytryptoffan)
- Aciwbigo
- Systemau meddygol amgen
- Aromatherapi
- Meddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis
- Meddyginiaethau llysieuol
- Homeopathi
- Hypnotherapi
- Therapi golau
- Tylino
- Myfyrdod
- Meddwlgarwch
- Adweitheg
- Reiki
- SAMe (S-Adenosyl-Methionin)
- Iachâd ysbrydol a chrefyddol
- Eurinllys trydwll
- Tai chi
- Atchwanegiadau fitaminau a mwynau
- Blancedi wedi'u pwysoli
- Ioga
Os ydych chi eisiau dysgu am therapi nad yw wedi'i restru yma, gofynnwch i'ch meddyg a oes ganddo unrhyw wybodaeth am y math penodol hwnnw o therapi, ac a allai fod yn iawn i chi.
Mae llawer o'r ymchwil sydd wedi'i wneud ar y therapïau hyn yn awgrymu eu bod yn fwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â thriniaethau eraill, yn hytrach na bod yn ddigonol ar eu pen eu hunain. Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaeth neu driniaeth arall a ragnodwyd i chi heb siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gyntaf.
5-HTP (5-hydroxytryptoffan)
Beth yw hwn? Mae 5-hydroxytryptoffan (5-HTP) yn rhywbeth y mae ein cyrff yn ei gynhyrchu'n naturiol i'w helpu i ffurfio serotonin (cemegyn yn yr ymennydd sy'n ymwneud â'n hwyliau). Gellir cymryd 5-HTP hefyd fel atchwanegiad y gallwch ei brynu mewn siopau bwyd iechyd a rhai fferyllfeydd.
Ar gyfer beth y mae’n cael ei ddefnyddio? Iselder ac weithiau gorbryder.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw cyfog, chwydu a chur pen. Fodd bynnag, wrth gymryd gormod o 5-HTP neu ei gymryd gyda chyffuriau gwrth-iselder gall achosi syndrom serotonin. Os oes gennych chi anhwylder deubegynol gall 5-HTP hefyd achosi mania neu hypomania.
Ydy hwn yn gweithio? Mae astudiaethau wedi dangos y gall 5-HTP weithio cystal â chyffuriau gwrth-iselder i rai pobl. Efallai y bydd rhai pobl hefyd yn teimlo'r effeithiau cadarnhaol yn gyflymach na gyda chyffuriau gwrth-iselder eraill. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o ymchwil i'r defnydd hirdymor 5-HTP ac nid yw pawb yn ei gael yn ddefnyddiol. Dylech bob amser siarad â'ch meddyg teulu neu fferyllydd cyn ystyried cymryd 5-HTP.
Aciwbigo
Beth yw hwn? Mae aciwbigo yn golygu gosod nodwyddau mân iawn mewn rhannau penodol o'ch corff. Credir bod hyn yn ysgogi nerfau a chyhyrau a allai ryddhau cemegau naturiol i leddfu poen. Mae'n cael ei ymarfer mewn meddygaeth Orllewinol a Meddygaeth Tsieineaidd Traddodiadol.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Iselder, gorbryder a chwsg. Defnyddir aciwbigo yn aml i leddfu poen cronig, a allai fod yn cyfrannu at orbryder, problemau cysgu neu hwyliau isel.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Weithiau mae pobl yn profi poen, gwaedu neu gleisio lle mae'r nodwyddau'n tyllu'r croen. Dylech siarad â'ch meddyg cyn cael aciwbigo os ydych yn cymryd meddyginiaeth neu os oes gennych broblem iechyd sy'n effeithio ar geulo gwaed, neu os oes gennych alergedd i rai metelau. Dylai aciwbigo gael ei wneud gan weithiwr proffesiynol, fel meddyg neu ymarferydd cofrestredig.
Ydy hwn yn gweithio? Nid yw'n glir a yw aciwbigo yn ddefnyddiol ar gyfer problemau iechyd meddwl ar ei ben ei hun, ond mae rhai pobl yn ei gael yn ddefnyddiol wrth reoli symptomau neu fel rhan o hunanofal. Mae aciwbigo yn cael ei argymell gan y GIG ar gyfer meigryn a phoen cronig, ac mae rhai pobl â phoen cronig yn canfod bod aciwbigo yn helpu gyda'u hiechyd meddwl.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Systemau meddygol amgen
Beth ydyn nhw? Mae rhai triniaethau traddodiadol sy'n mabwysiadu ymagwedd wahanol at ofal iechyd i'r hyn a ddefnyddir gan y GIG. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys Meddygaeth Tsieineaidd Traddodiadol (TCM), Meddygaeth Ayurvedic, Meddygaeth Siddha a Meddygaeth Unani.
Mewn rhai gwledydd, mae'r dulliau hyn yn rhan o ofal meddygol prif ffrwd. Yn aml mae ganddynt syniadau gwahanol i'r rhai a geir yng ngofal iechyd y DU am achosion problemau iechyd meddwl, sut i'w hadnabod a sut i'w trin. Mae'r triniaethau'n cynnwys therapïau cyflenwol ac amgen eraill, megis meddyginiaethau llysieuol, tylino ac aciwbigo.
Ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio? Defnyddir systemau meddygol amgen i drin ystod o broblemau iechyd meddwl.
A oes sgil-effeithiau ac a ydyn nhw’n ddiogel? Mae'r dulliau hyn yn cynnwys ystod eang o arferion a thriniaethau, a fydd yn cael sgil-effeithiau gwahanol, a gall fod risgiau mewn rhai triniaethau. Dylech chi siarad â'ch ymarferydd neu'ch meddyg teulu am y rhain cyn penderfynu cael unrhyw driniaeth.
Ydyn nhw'n gweithio? Mae gan driniaethau mewn systemau meddygol amgen wahanol faint o dystiolaeth yn sail iddynt. Gwneir llawer o ymchwil ar yr arferion hyn mewn gwledydd eraill ac nid oes dealltwriaeth dda bob amser o'r damcaniaethau sy’n sail iddynt yn y DU. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn gweld y dulliau hyn yn ddefnyddiol, yn enwedig os ydynt yn dod o wlad lle mae'r arferion hyn yn fwy cyffredin.
Os nad yw eich problem iechyd meddwl yn gwella neu os yw'n gwaethygu ar ôl defnyddio'r triniaethau hyn, mae'n bwysig i chi siarad â'ch meddyg.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Aromatherapi
Beth yw hwn? Mae aromatherapi yn defnyddio olewau hanfodion (olewau wedi'u tynnu o blanhigion) ar gyfer iachau. Gellir ei gyfuno hefyd â thriniaethau eraill, megis therapi tylino. Mae rhai pobl yn defnyddio olewau hanfodion eu hunain, neu gynhyrchion ag olewau hanfodion fel canhwyllau.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Credir bod gwahanol olewau hanfodion yn ddefnyddiol ar gyfer gwahanol brofiadau. Er enghraifft, defnyddir olew lafant yn gyffredin ar gyfer ymlacio a chwsg. Gall olewau eraill fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwahanol brofiadau.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Mae'n bosibl profi alergeddau neu adweithiau i'r olewau, felly dylech siarad â'r aromatherapydd ymlaen llaw os oes gennych bryderon.
Ydy hwn yn gweithio? Mae llawer o bobl yn gweld aromatherapi yn ddefnyddiol fel rhan o drefn hunanofal neu ar gyfer rheoli symptomau ochr yn ochr â thriniaethau eraill. Mae’n annhebygol o fod yn gallu trin problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Rwy'n hoffi olewau hanfodion sy'n tawelu fel lafant wedi'u diferu ar ddodrefn a thecstilau meddal a dillad.
Meddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis
Beth ydyn nhw? Mae meddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis yn cwmpasu ystod eang o sylweddau, gan gynnwys canabis meddygol ac olew canabidiol (olew CBD).
Rhaid i ganabis meddygol gael ei roi drwy bresgripsiwn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys. Dim ond ar gyfer rhai cyflyrau penodol y caiff ei roi drwy bresgripsiwn, yn bennaf ar gyfer pobl sy'n gwella o gemotherapi, rhai mathau o epilepsi, a phoen cronig.
Mae olew CBD, ar y llaw arall, ar gael i'w brynu'n gyfreithlon o siopau bwyd iechyd a fferyllfeydd. Nid yw'n cynnwys llawer iawn o Tetrahydrocannabinol (THC) (y rhan o ganabis sy'n eich gwneud yn ‘chwil’). Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o olewau CBD yn cynnwys ychydig bach o THC, a bydd brandiau gwahanol yn cynnwys symiau gwahanol.
Ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio? Iselder, gorbryder ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
A oes sgil-effeithiau ac a ydyn nhw’n ddiogel? Gall canabis meddygol achosi newidiadau ymddygiad a rhithweledigaethau, ond gall olew CBD achosi blinder a newidiadau mewn archwaeth. Nid yw'r un o'r rhain yn cael eu hargymell ar gyfer y rhai ohonom sy'n profi seicosis neu sydd â sgitsoffrenia, oherwydd gall THC waethygu'r symptomau. Mae meddu ar ganabis anfeddygol yn anghyfreithlon yn y DU.
Ydyn nhw'n gweithio? Mae tystiolaeth i gefnogi y gall olew CBD a chanabis meddygol fod yn ddefnyddiol ar gyfer gorbryder, ond mae llawer nad ydym yn gwybod am sut y mae’n gweithio o hyd. Mae cynhyrchion CBD i gyd yn cael eu gwneud yn wahanol, sy'n golygu efallai na fyddant i gyd yn gweithio i chi. Mae'n annhebygol ar hyn o bryd y byddwch yn gallu cael presgripsiwn am ganabis meddygol ar gyfer gorbryder, oni bai nad oes unrhyw driniaethau eraill wedi gweithio.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Meddyginiaethau llysieuol
Mae meddyginiaethau llysieuol yn sylweddau sy'n dod o blanhigion, a defnyddir nhw fel ffordd o drin ac atal gwahanol broblemau iechyd.
Gweler ein canllaw i feddyginiaethau llysieuol i gael gwybodaeth fanwl am y rhain.
Rwy'n mwynhau te camomeil. Rwy'n tueddu i'w yfed pan fyddaf o dan straen, yn bryderus, neu am orffwys ac ymlacio. Rwy'n gweld ei fod yn helpu, oherwydd mae diodydd poeth yn lleddfol. Rwy'n hoff iawn o'r arogl hefyd, sy'n teimlo'n gyffyrddus ac yn fy helpu i gysgu.
Homeopathi
Beth yw hwn? Mae homeopathi yn defnyddio sylweddau naturiol gwanhaëdig iawn (wedi'u gwanhau) i drin problemau iechyd corfforol a meddyliol. Mae homeopathiaid yn credu po fwyaf y caiff sylwedd ei wanhau, y mwyaf effeithiol y bydd.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Mae rhai pobl yn gweld bod rhoi cynnig ar feddyginiaethau homeopathig ar gyfer straen, gorbryder ac iselder yn gwneud iddynt deimlo'n well.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Nid oes unrhyw sgil-effeithiau mawr yn gysylltiedig â homeopathi, fodd bynnag mae perygl y gallai eich problem iechyd meddwl waethygu pe baech yn dewis hwn fel eich prif driniaeth neu eich unig driniaeth. Gall rhai cynhwysion a ddefnyddir mewn homeopathi hefyd ryngweithio â meddyginiaethau eraill.
Ydy hwn yn gweithio? Mae llawer o ymchwil wedi'i wneud i homeopathi ac nid oes tystiolaeth i awgrymu y gall homeopathi drin unrhyw gyflyrau iechyd. Mae rhai pobl yn canfod eu bod yn teimlo'n well wrth gael homeopathi, ond nid oes tystiolaeth mai homeopathi oedd achos y gwelliant hwn.
Nid yw'r GIG bellach yn darparu unrhyw wasanaethau homeopathig oherwydd hyn. Os ydych chi'n ystyried homeopathi, argymhellir eich bod chi hefyd yn ystyried triniaethau eraill, gan ei bod yn annhebygol iawn o weithio ar ei ben ei hun.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Hypnotherapi
Beth yw hwn? Mae hypnotherapi yn golygu cael eich rhoi mewn cyflwr ymlaciol dwfn gan hypnotherapydd. Mae yna wahanol fathau o hypnotherapi a gwahanol ffyrdd o gael eich hypnoteiddio. Dylech bob tro fod â rheolaeth lawn o dan hypnosis, a dim ond dulliau rydych chi wedi cytuno arnynt ac yn teimlo'n gyfforddus â nhw y dylai eich therapydd eu defnyddio.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Mae llawer o bobl yn ei gael yn ddefnyddiol wrth reoli symptomau gorbryder, ffobiâu, straen, dicter, a chymelliadau mewn anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Mae rhai pobl yn ei gael yn ddefnyddiol ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD), ond mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gefnogi gan weithiwr proffesiynol cymwys ac o bosibl ochr yn ochr â thriniaethau eraill, fel arall gall waethygu'ch symptomau.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Efallai na fydd hypnotherapi yn addas i chi os ydych wedi cael diagnosis anhwylder personoliaeth neu seicosis (gall wneud symptomau yn waeth), neu os ydych ar fin bod yn dyst mewn treial.
Ydy hwn yn gweithio? Mae hypnotherapyddion yn defnyddio hypnosis i'ch helpu i newid meddyliau ac ymddygiadau digroeso. Maent yn gwneud hyn trwy ddefnyddio awgrymiadau a thrwy eich cefnogi i gynyddu eich hunanymwybyddiaeth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer helpu i newid ymddygiad, ond nid yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn cael eu hypnoteiddio, neu'n canfod ei fod yn gweithio iddyn nhw.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Therapi golau
Mae therapi golau yn defnyddio golau cryf i efelychu golau'r haul a chodi hwyliau. Am wybodaeth ar therapi golau gweler ein tudalen triniaethau ar gyfer anhwylder affeithiol tymhorol.
Yn ogystal â chael ei ddefnyddio ar gyfer anhwylder affeithiol tymhorol, mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer iselder ac episodau iselder mewn anhwylder deubegynol sy'n digwydd ar adegau pan fo llai o olau haul.
Doedd defnyddio blwch golau ddim yn berffaith ond roedd y newid yn amlwg. Newid go iawn. Dechreuais ymdopi'n well â'r dyddiau tywyll a doedd gen i ddim yr awydd llethol i fynd yn ôl i'r gwely ac aros yno.
Tylino
Beth yw hwn? Mae tylino'n golygu gweithio ar feinwe meddal eich corff i helpu i ymlacio, gwella llesiant a phoen corfforol. Mae yna lawer o wahanol fathau o therapi tylino, megis Shiatsu, tylino'r pen Indiaidd, tylino chwaraeon a thylino aromatherapi.
Ar gyfer beth y mae yn cael ei ddefnyddio? Defnyddir tylino'n aml fel arfer llesiant neu hunanofal, yn ogystal ag ar gyfer poen neu anafiadau i'r cyhyrau. Mae rhai pobl hefyd yn gweld tylino'n ddefnyddiol pan fydd eu problem iechyd meddwl yn achosi tensiwn yn y cyhyrau, a all ddigwydd mewn anhwylderau gorbryder neu anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Mae tylino yn arfer diogel yn gyffredinol, ond os oes gennych anaf dylech siarad â'ch therapydd tylino ymlaen llaw.
Ydy hwn yn gweithio? Nid oes llawer o ymchwil ar dylino a phroblemau iechyd meddwl, ond mae llawer o bobl yn ei gael yn ddefnyddiol wrth reoli eu llesiant neu fel rhan o drefn hunanofal.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Rwy'n hoffi ymlacio trwy ddiffodd popeth, cau fy llygaid a cheisio canolbwyntio ar fy anadlu. Yn araf cael gwared ar yr egni negyddol a'r meddyliau o fy niwrnod.
Myfyrdod
Beth yw hwn? Mae yna wahanol fathau o fyfyrdod, ond mae pob un yn anelu at dawelu eich meddwl a'ch rhoi mewn cyflwr o dawelwch, llonyddwch a gorffwys. Gall rhai mathau o fyfyrdod gynnwys meddwlgarwch neu fyfyrdod ag elfen ysbrydol. Mae yna lawer o DVDs, apiau, a fideos ar-lein am ddim a all ddysgu ymarferion myfyrio i chi.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Llesiant, iselder, gorbryder a straen.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Yn gyffredinol mae myfyrdod yn ddiogel, fodd bynnag os ydych chi'n profi ymdeimlad o ddatgysylltiad gallai myfyrdod waethygu eich symptomau.
Ydy hwn yn gweithio? Mae canlyniadau cymysg yn yr ymchwil am fyfyrdod ar gyfer problemau iechyd meddwl, ond mae llawer o bobl yn ei gael yn ffordd ddefnyddiol o reoli teimladau o straen a gorbryder. Mae llawer o bobl hefyd yn ei ddefnyddio ochr yn ochr â thriniaethau eraill fel ffordd o reoli eu hiechyd meddwl a llesiant yn fwy cyffredinol.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Mae myfyrdod, ymarfer corff ac ioga i gyd wedi bod yn ffyrdd defnyddiol o reoli hwyliau a lleihau gorbryder.
Meddwlgarwch
Mae meddwlgarwch yn dechneg fyfyrio y gallwch ei dysgu sy'n cynnwys sylwi ar yr hyn sy'n digwydd yn y presennol, heb farnu. Ei nod yw eich helpu i wella hunanymwybyddiaeth ac i ymdopi'n well â meddyliau a theimladau anodd.
Gweler ein tudalennau meddwlgarwch am wybodaeth fanwl.
Sut y gwnaeth encil meddwlgarwch fy helpu i
Pan roeddwn i’n ymarfer ymlacio dwfn, gan anfon cariad at rannau fy nghorff, un ar y tro, fe wnes i syrthio i gysgu ymhen amser.
Adweitheg
Beth yw hwn? Mae adweitheg yn seiliedig ar y syniad bod pwyntiau gwahanol ar eich traed, dwylo, wyneb a chlustiau yn gysylltiedig â rhannau eraill o'ch corff trwy eich system nerfol. Yn ystod sesiwn nodweddiadol, bydd adweithegydd yn defnyddio ei ddwylo i roi pwysau ysgafn ar y pwyntiau hyn.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Cwsg, gorbryder ac iselder.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Yn gyffredinol mae adweitheg yn ddiogel ac nid oes unrhyw sgil-effeithiau difrifol.
Ydy hwn yn gweithio? Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau iechyd meddwl ar adweitheg yn cael eu gwneud ar bobl sydd hefyd yn profi salwch hirdymor neu gronig, fel canser, neu sy’n ofalwr. Canfuwyd bod adweitheg yn effeithiol wrth reoli cwsg, gorbryder ac iselder yn yr astudiaethau hyn, fodd bynnag, nid yw pawb yn gweld ei fod yn gweithio'n dda iddynt.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Rwy'n hoff iawn o adweitheg. Helpodd fi i dawelu pan oeddwn i mewn cyflwr cymysg.
Reiki
Beth yw hwn? Mae Reiki yn dechneg Japaneaidd lle mae ymarferwyr yn ail-gydbwyso ‘llif egni dros eich corff. Bydd ymarferwyr naill ai'n gosod eu dwylo'n ysgafn arnoch chi neu'n eu hofran uwchben eich corff trwy gydol y driniaeth.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Defnyddir reiki ar gyfer iselder, gorbryder a phroblemau eraill sy'n gysylltiedig â phoen neu salwch cronig.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Nid oes unrhyw sgil-effeithiau sylweddol yn gysylltiedig â reiki.
Ydy hwn yn gweithio? Mae rhai pobl yn gweld reiki yn driniaeth ymlaciol iawn sy'n helpu i wella eu hwyliau. Nid oes llawer o astudiaethau ymchwil mawr ar reiki ar gyfer iechyd meddwl, ond mae rhai astudiaethau'n awgrymu y gall fod yn ddefnyddiol i bobl sydd â gorbryder o ganlyniad i boen cronig.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
SAMe (S-Adenosyl-Methionine)
Beth yw hwn? Mae SAMe yn gemegyn a geir yn naturiol yn y corff sy'n helpu gyda lefelau serotonin, melatonin a dopamin, y cemegau ymennydd sy'n helpu i wella’n hwyliau. Fe'i gelwir hefyd yn ademetionin. Gallwch ei gymryd fel tabled.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Iselder a gorbryder.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw problemau stumog, anhunedd, chwysu, ceg sych a phendro. Gall SAMe ryngweithio â meddyginiaethau eraill neu atchwanegiadau dietegol. Gall hefyd waethygu symptomau mania yn y rhai ohonom sydd ag anhwylder deubegynol.
Ydy hwn yn gweithio? Dangoswyd bod SAMe mor effeithiol â chyffuriau gwrth-iselder i drin iselder yn y tymor byr, ac mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn teimlo ei fod yn gweithio'n gyflymach na chyffuriau gwrth-iselder eraill. Mae'n well gan rai pobl SAMe na chyffuriau gwrth-iselder oherwydd bod ganddo lai o sgil-effeithiau, ond nid yw effeithiau hirdymor SAMe yn hysbys iawn ac nid yw'n gweithio i bawb.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Iachâd ysbrydol a chrefyddol
Beth yw hwn? Mae iachâd ysbrydol a chrefyddol yn cyfeirio at ystod eang o arferion sy'n defnyddio ffydd neu gysylltiad crefyddol i drin cyflwr iechyd. Gall gynnwys defodau, gweddïau, a gwrthrychau crefyddol neu ysbrydol. Gall hefyd gynnwys therapïau cyflenwol ac amgen eraill, megis myfyrdod a ioga.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Defnyddir iachâd ysbrydol a chrefyddol mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl a grwpiau. Mae rhai yn teimlo ei fod yn ffurf dda o gymorth llesiant a hunanofal yn gyffredinol, ond gallai eraill deimlo ei fod yn helpu i wella problem iechyd.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Os oes gan yr unigolyn sy'n arwain yr ymarfer iachâd crefyddol neu ysbrydol ddealltwriaeth dda o broblemau iechyd meddwl a'ch bod yn ei ddefnyddio ochr yn ochr â thriniaethau eraill, gall fod yn brofiad defnyddiol.
Fodd bynnag, mae peth ymchwil yn awgrymu y gall iachâd ysbrydol a chrefyddol wneud i chi deimlo'n waeth, os ydych chi'n ei ddefnyddio yn lle triniaethau eraill a allai weithio'n well i chi. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi wedi cael profiad o drawma yn seiliedig ar grefydd, neu os oes gennych chi sgitsoffrenia neu seicosis.
Ydy hwn yn gweithio? Er nad oes llawer o dystiolaeth i gefnogi sut mae iachâd ysbrydol a chrefyddol yn gweithio, mae llawer o bobl yn gweld y gall ffydd neu ysbrydolrwydd fod yn rhan bwysig o gefnogi eu llesiant.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Fy ffordd i o ymdopi yw trwy weddïo, myfyrio ac iachâd sain.
Eurinllys trydwll
Meddyginiaeth lysieuol yw eurinllys trydwll. Fe'i defnyddir i drin iselder ysgafn a chymedrol.
Am wybodaeth fanwl gweler ein tudalen ar eurinllys trydwll.
Pan allwn i ddim cymryd SSRI mwyach oherwydd sgil-effeithiau, rhoddais i gynnig ar eurinllys trydwll fel dewis arall. Mae'n bendant wedi fy helpu gyda fy iselder ac mae fy hwyliau wedi codi cryn dipyn.
Tai chi
Beth yw hwn? Mae tai chi (a elwir hefyd yn tai chi chuan) yn arfer Tsieineaidd sy'n defnyddio anadlu dwfn ac ymlacio gyda symudiadau sy'n llifo i helpu i wella cydbwysedd, symudiad a llesiant. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i oedolion hŷn neu’r rhai ohonom sydd â chyfyngiadau symudedd, gan ei fod yn hygyrch iawn ar gyfer ystod o lefelau symud.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Defnyddir tai chi yn aml fel rhan o ymarfer llesiant cyffredinol, ac mae rhai yn ei ddefnyddio i helpu i leddfu straen a hwyliau isel.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Mae tai chi yn arfer diogel ar y cyfan ac nid oes ganddo unrhyw sgil-effeithiau arwyddocaol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gymryd rhagofalon os ydych chi’n feichiog, yn dioddef o dorgest, poen cefn neu osteoporosis.
Ydy hwn yn gweithio? Dangoswyd bod tai chi yn fuddiol ar gyfer hwyliau isel a llesiant yn gyffredinol, yn ogystal â helpu i wella cyflyrau corfforol a allai fod yn cyfrannu at eich problem iechyd meddwl.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Atchwanegiadau fitamin a mwynau
Beth ydyn nhw? Mae fitaminau a mwynau yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a'n llesiant. Gallwch gael y rhan fwyaf o fitaminau a mwynau hanfodol o ddeiet cytbwys, ond mae rhai ohonom yn cymryd atchwanegiadau os oes gennym ddiffyg neu rydym yn meddwl y gallant ein helpu i wella problem iechyd benodol.
Ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio? Mae fitaminau a mwynau yn chwarae rhan bwysig yn ein hiechyd cyffredinol. Gall rhai problemau iechyd meddwl gael eu hachosi gan ddiffyg fitaminau a mwynau, a gall cymryd atchwanegiadau neu gynyddu faint o faetholion a gawn yn ein diet helpu. Mae tystiolaeth dda hefyd i awgrymu bod cymryd asidau brasterog omega-3, ochr yn ochr â sefydlogwyr hwyliau yn gallu helpu i leddfu symptomau iselder mewn anhwylder deubegynol.
A oes sgil-effeithiau ac a ydyn nhw’n ddiogel? Mae'r fitaminau a'r mwynau a gewch mewn atchwanegiadau i'w cael yn naturiol mewn bwydydd, a dyna'r ffordd orau i'w cymryd nhw fel arfer. Gall cael gormod o atchwanegiadau fod yn niweidiol i'ch iechyd. Os ydych yn ystyried cymryd atchwanegiadau, siaradwch â fferyllydd neu feddyg teulu.
Ydyn nhw'n gweithio? Oni bai bod eich problem iechyd meddwl yn cael ei hachosi gan ddiffyg fitaminau neu fwynau, maent yn annhebygol o fod yn ddigon ar eu pen eu hunain i helpu eich problem iechyd meddwl. Fodd bynnag, gall gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich fitaminau a'ch mwynau hanfodol bob dydd wella eich llesiant ac iechyd yn gyffredinol. Mae ymchwil hefyd yn cefnogi cymryd fitamin D yn ystod y gaeaf os ydych yn byw yn y DU, a chymryd atchwanegiadau asid brasterog omega-3 i helpu i leddfu symptomau iselder mewn anhwylder deubegynol.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Canllaw’r GIG ar asesu a oes angen atchwanegiadau fitaminau arnoch
Rwyf wedi darganfod bod fitamin D, ymarfer corff rheolaidd, bwyta'n iach a blanced wedi'i chynhesu yn helpu i wella problemau meddwl a chwsg.
Blancedi wedi'u pwysoli
Beth ydyn nhw? Blancedi wedi'u pwysoli yw blancedi sydd wedi'u leinio neu wedi'u gwneud â deunyddiau trwm, fel metel. Fe'u defnyddir i roi pwysau dwfn ar yr unigolyn sy'n eu gwisgo. Gallwch hefyd gael dillad wedi'u pwysoli, megis siacedi.
Ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio? Defnyddir blancedi wedi'u pwysol yn gyffredin i leddfu gorbryder. Mae rhai pobl yn gweld y pwysau o'r blancedi yn cael yr effaith o dawelu. I'r rhai ohonom sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, mae blancedi a dillad wedi'u pwysoli wedi cael eu defnyddio fel rhan o therapi pwysedd dwfn ers amser maith.
A oes sgil-effeithiau ac a ydyn nhw’n ddiogel? Mae blancedi pwysol yn ddiogel ac nid oes unrhyw sgil-effeithiau arwyddocaol. Efallai y byddwch yn eu cael yn anghyfforddus os nad ydych yn hoffi cyffyrddiad corfforol neu rydych yn profi clawstroffobia.
Ydyn nhw'n gweithio? Mae astudiaethau ar flancedi wedi'u pwysoli ar gyfer gorbryder yn gymharol newydd, ond maent yn gadarnhaol. Mae llawer o bobl yn eu gweld nhw’n ddefnyddiol wrth reoli eu symptomau gorbryder neu eu pyliau o banig.
Dwi wedi defnyddio blanced wedi'i phwysoli pan fydda i’n cael trafferth gyda gorbryder ac mae'n help mawr. Rwy'n credu ei bod yn twyllo'ch meddwl i feddwl bod rhywun yn eich cofleidio. Fel bod rhywun yn gofalu amdanoch chi.
Ioga
Beth yw hwn? Mae ioga yn ymarferion ysbrydol a chorfforol sydd wedi'u cynllunio i gynyddu hunanymwybyddiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith ystum y corff, ymarferion anadlu, myfyrdod, seiniau a delweddu. Mae yna lawer o wahanol fathau o ioga sy'n addas ar gyfer ystod o lefelau ffitrwydd.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio? Mae llawer o bobl yn defnyddio ioga fel rhan o hunanofal cyffredinol, ond gall hefyd fod yn effeithiol ar gyfer gorbryder, straen ac iselder.
A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel? Mae ioga yn gyffredinol yn ddiogel, gyda sgil-effeithiau cyfyngedig pan gaiff ei wneud yn gywir. Mae'n syniad da gwneud o leiaf ychydig o ddosbarthiadau gyda hyfforddwr proffesiynol (mewn grŵp neu'n unigol) cyn rhoi cynnig arni ar eich pen eich hun, oherwydd gall gwneud yr ystumiau'n anghywir achosi anafiadau. Ond unwaith y byddwch yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus, mae llawer o lyfrau, DVDs ac adnoddau ar-lein rhad ac am ddim ar gael i'ch arwain chi os ydych chi am wneud yoga ar eich pen eich hun.
Ydy hwn yn gweithio? Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yn gweld ioga o fudd i'w hiechyd meddwl. Yn benodol, gall fod yn effeithiol iawn wrth reoli symptomau gorbryder ac iselder wrth ei ymarfer yn rheolaidd ac ochr yn ochr â thriniaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw rhai pobl ag iselder difrifol yn ei weld yn effeithiol.
Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Mae ioga yn fuddiol iawn yn enwedig wrth symud yn araf gan fy mod yn teimlo mwy o gysylltiad.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.