Meddyginiaethau llysieuol
Mae hwn yn egluro beth yw meddyginiaethau llysieuol, ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio a sut maen nhw'n cael eu trwyddedu.
Beth yw meddyginiaethau llysieuol?
Mae meddyginiaethau llysieuol yn sylweddau sy'n dod o blanhigion. Maent yn dod mewn gwahanol ffurfiau, megis capsiwlau, te, diferion hylif neu eli i'r croen. Gallwch eu cael mewn siopau bwydydd iach, archfarchnadoedd, fferyllfeydd ac oddi wrth ymarferwyr llysieuol.
Gellir cyfeirio at rai fel 'atchwanegiadau'. Gellir cyfeirio at eraill fel 'meddyginiaethau', sy'n golygu eu bod yn anelu at drin, gwella neu atal problem iechyd sydd wedi cael diagnosis.
Yn aml mae meddyginiaethau llysieuol yn rhan o ymagweddau amgen at ofal iechyd, megis meddygaeth Ayurvedic a meddygaeth Tseiniaidd Traddodiadol (TCM).
Ar gyfer beth maen nhw'n cael eu defnyddio ac ydyn nhw'n gweithio?
Mae yna lawer o wahanol fathau o feddyginiaethau llysieuol sy'n anelu at helpu i wella gwahanol gyflyrau iechyd neu wella eich llesiant. Rhai o’r rhai mwyaf cyffredin yn y DU yw'r canlynol:
- meddyginiaethau camomeil, lafant neu driaglog ar gyfer cwsg ac i ymlacio
- eirinllys trydwll ar gyfer iselder
- y diweirlys ar gyfer anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD) a syndrom cyn mislif.
Nid yw pob meddyginiaeth lysieuol wedi bod yn destun yr un lefel o ymchwil, ac mae gan rai ohonynt fwy o dystiolaeth wyddonol i ddangos sut maen nhw'n gweithio nag eraill. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn gweld rhai meddyginiaethau llysieuol yn eu helpu fel rhan o hunanofal neu i reoli symptomau.
Rwy'n mwynhau te camomeil. Rwy'n tueddu i'w yfed pan fyddaf o dan straen, yn bryderus, neu'n awyddus i orffwys ac i ymlacio. Rwy'n gweld ei fod yn helpu, oherwydd mae diodydd poeth yn lleddfol. Dwi'n hoff iawn o'r arogl hefyd, sy'n teimlo'n gyffyrddus ac yn fy helpu i gysgu.
Sut maen nhw'n wahanol i gyffuriau seiciatrig?
Yn wahanol i feddyginiaeth seiciatrig, mae’r rhan fwyaf o feddyginiaethau llysieuol:
- yn seiliedig ar eu defnyddio’n draddodiadol ac yn hirsefydlog (ddim yn seiliedig ar astudiaethau ymchwil wyddonol sy'n defnyddio treialon clinigol)
- ar gael i'w prynu dros y cownter heb bresgripsiwn gan feddyg
- ddim yn cael eu cynnig fel arfer gan feddygon y GIG (oherwydd nad oes digon o dystiolaeth ddibynadwy eu bod yn trin problemau iechyd meddwl yn effeithiol)
- yn cael eu trwyddedu o dan gynllun trwyddedu gwahanol
- yn achlysurol yn cael eu paratoi'n bwrpasol (yn benodol i chi yn seiliedig ar eich anghenion) gan ymarferydd llysieuol.
Rwy'n hoffi olewau hanfodion sy'n tawelu fel lafant wedi'u diferu ar ddodrefn a thecstilau meddal a dillad.
Sut maen nhw’n cael eu trwyddedu?
Mae cynhyrchion sy'n cynnwys cynhwysion llysieuol wedi'u trwyddedu'n wahanol yn dibynnu a ydynt yn cael eu hystyried yn:
- feddyginiaeth lysieuol, megis eurinllys trydwll
- bwyd, megis ambell de llysieuol
- cynnyrch cosmetig, megis eli croen sy'n cynnwys cynhwysion llysieuol.
Nid yw meddyginiaethau llysieuol pwrpasol, sy'n cael eu paratoi gan ymarferwyr llysieuol, yn cael eu trwyddedu.
Mae meddyginiaethau llysieuol a werthir mewn archfarchnadoedd, fferyllwyr a siopau iechyd yn y DU wedi'u trwyddedu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Er mai dyma'r un sefydliad sy'n trwyddedu mathau eraill o gyffuriau, gan gynnwys meddyginiaethau seiciatrig, mae meddyginiaethau llysieuol yn dod o dan gynllun cofrestru gwahanol. Dyma'r Cynllun Cofrestru Meddyginiaethau Llysieuol Traddodiadol (THR).
O dan y cynllun hwn, gellir cofrestru meddyginiaeth heb fynd trwy dreialon clinigol (fel y byddent yn gorfod gwneud ar gyfer cyffuriau ar bresgripsiwn). Mae angen i’r feddyginiaeth ddangos:
- ei bod wedi'i defnyddio fel meddyginiaeth draddodiadol ers amser maith
- yn cael ei defnyddio i drin mân gyflyrau iechyd yn unig.
Dylid marcio pob meddyginiaeth lysieuol trwyddedig gyda'r marc cofrestru a ddangosir yma:
Mae hyn yn dangos bod y feddyginiaeth lysieuol yn ddiogel i safon dderbyniol, ar yr amod ei bod yn cael ei defnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y pecyn. Dylai fod ganddi rif cofrestru hefyd, gan ddechrau gyda'r llythrennau 'THR'. Gallwch ddod o hyd i restr o feddyginiaethau llysieuol sydd wedi eu trwyddedu ar wefan Gov.uk.
Mae rhai cynhwysion llysieuol wedi'u gwahardd yn y DU. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rhain ar wefan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Pryd y gallent fod yn anaddas i mi?
Er bod meddyginiaethau llysieuol ar gael yn hawdd i'w prynu heb bresgripsiwn, efallai na fydd rhai yn addas i chi, neu gallent fod yn niweidiol. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych broblem iechyd corfforol neu feddyliol arall a allai gael ei waethygu trwy gymryd meddyginiaeth lysieuol, yn enwedig cyflwr iechyd sy'n effeithio ar eich arennau neu'ch afu
- rydych yn feichiog neu'n bwydo ar y fron
- rydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill, gan gynnwys meddyginiaethau seiciatrig, gan y gallant ryngweithio'n wael
- mae gennych alergedd i unrhyw un o'r cynhwysion
- rydych yn cymryd gormod o’r meddyginiaethau, neu ddim yn eu cymryd yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y pecyn
- rydych ar fin cael llawdriniaeth (gall rhai meddyginiaethau llysieuol ymyrryd ag anesthetig)
- rydych yn prynu eich meddyginiaeth ar-lein (mae gan wahanol wledydd reolau gwahanol ar reoleiddio cynhyrchion llysieuol ac mae risgiau y gallai'r cynnyrch fod yn ffug, heb drwydded neu wedi'i halogi)
- rydych yn cymryd meddyginiaeth sydd heb drwydded (er enghraifft, mae rhai meddyginiaethau llysieuol Tsieineaidd Traddodiadol ac Ayurvedic didrwydded yn cynnwys lefelau gwenwynig o fercwri a phlwm).
Gall planhigion a meddyginiaethau llysieuol fod yn wych. Gwiriwch gyda'r fferyllfa os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau, i wneud yn siŵr na fyddant yn effeithio'n negyddol ar y meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd.
Beth yw ymarferydd llysieuol?
Mae ymarferwyr llysieuol yn chwarae rhan sefydlog mewn meddygaeth lysieuol, meddygaeth Tsieineaidd Traddodiadol (TCM) a meddygaeth Ayurvedic. Ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw reolau ynghylch pwy all alw eu hunain yn ymarferydd llysieuol. Gallwch ymarfer heb unrhyw brofiad neu gymwysterau cysylltiedig.
Serch hynny, mae nifer o gofrestrau gwirfoddol sy'n gofyn am rai safonau ymarfer ac addysg. Felly, os ydych chi am ddod o hyd i ymarferydd llysieuol, mae'n syniad da dod o hyd i rywun trwy un o'r cofrestrau canlynol:
Paratoadau llysieuol pwrpasol
Ar ôl cynnal ymgynghoriad gyda chi, efallai y bydd ymarferydd llysieuol yn paratoi ei feddyginiaeth lysieuol ei hun i chi ei gymryd. Yn nodweddiadol mae’r rhain yn cael eu gwneud o wahanol rannau o blanhigion, mwynau ac weithiau metelau. Fodd bynnag, oherwydd bod y paratoadau hyn heb eu trwyddedu nid yw'n bosibl bod yn siŵr beth sydd ynddynt, nac ym mha ddos.
Mae'n bwysig trafod unrhyw bryderon â'ch meddyg, fferyllydd neu ymarferydd llysieuol. Er enghraifft, efallai y byddwch am ofyn y canlynol:
- beth sydd yn y cymysgedd
- sut y gallai wneud i chi deimlo
- pa sgil-effeithiau y dylech chi eu disgwyl
- beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n profi sgil-effeithiau na ddywedwyd wrthych amdanynt.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau canlynol:
- beth i'w wybod cyn cymryd meddyginiaeth
- cael y feddyginiaeth sy’n iawn i chi
- ymdopi â sgil-effeithiau
- y Cynllun Cerdyn Melyn (ar gyfer sut i roi gwybod am sgil-effeithiau unrhyw feddyginiaeth, gan gynnwys meddyginiaethau llysieuol).
Mae hefyd gwybodaeth yma gan y GIG am feddyginiaethau llysieuol.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.