Ynglŷn â therapïau cyflenwol ac amgen
Mae hwn yn esbonio beth yw therapïau cyflenwol ac amgen, beth maent yn ei drin, sut maent yn cael eu rheoleiddio, a sut y gallwch chi gael gafael arnynt.
- Beth yw therapïau cyflenwol ac amgen?
- Pam fyddwn i’n rhoi cynnig arnyn nhw?
- Ydyn nhw’n gallu trin problemau iechyd meddwl?
- Ydyn nhw'n gweithio?
- Ydyn nhw'n ddiogel?
- Sut maen nhw’n cael eu rheoleiddio?
- Beth arall ddylwn i ei ystyried cyn dechrau therapi?
- Ble alla i gael therapïau cyflenwol ac amgen?
- Beth os nad ydyn nhw'n gweithio i mi?
Beth yw therapïau cyflenwol ac amgen?
Mae therapïau cyflenwol ac amgen yn cwmpasu llawer o wahanol driniaethau. Mae’r rhain yn cynnwys therapïau sy'n seiliedig ar y corff, therapïau sy'n seiliedig ar fyfyrdod a meddyginiaethau llysieuol, ymhlith eraill.
Mae'r GIG yn cynnig rhai o'r rhain. Mae rhai eraill yn seiliedig ar wahanol syniadau am iachâd a llesiant nad ydym yn clywed amdanynt fel arfer yn y DU.
Gweler ein tudalen ar fathau o therapïau cyflenwol ac amgen am fwy o wybodaeth am rai o'r gwahanol fathau.
Mae rhai camsyniadau am therapïau cyflenwol ac amgen. Mae rhai pobl yn meddwl nad ydynt yn gweithio'n iawn, eu bod nhw’n dwyll, neu nad oes unrhyw dystiolaeth yn sail iddynt. Nid yw hyn bob amser yn wir, ond gall y diffyg gwybodaeth amdanynt a’r diffyg ymchwil glinigol iddynt ei gwneud yn anodd gwybod pa rai a allai weithio i chi.
Fel y cynghorodd fy meddyg, rwy'n cymryd y cyffur gwrth-iselder SSRI bob dydd, ar y cyd ag atchwanegiad haearn, fitaminau B, dim alcohol cyn fy nghylchred ac yn osgoi caffein cymaint â phosibl.
Pam fyddwn i’n rhoi cynnig arnyn nhw?
Mae llawer o resymau y gallech benderfynu rhoi cynnig ar therapïau cyflenwol neu amgen. Er enghraifft:
- Nid ydych chi eisiau'r driniaeth y mae eich meddyg wedi'i chynnig, megis meddyginiaeth seiciatrig neu therapïau siarad.
- Rydych chi eisoes wedi rhoi cynnig ar y triniaethau mae eich meddyg wedi'u cynnig ac nid oeddent yn addas i chi. Er enghraifft, nid ydych wedi dod o hyd i feddyginiaeth seiciatrig sy'n gweithio, neu mae wedi achosi sgil-effeithiau digroeso.
- Rydych chi ar restr aros ar gyfer triniaeth, ond mae angen help arnoch i reoli'ch symptomau ar unwaith.
- Rydych chi eisiau rhoi cynnig ar fwy o opsiynau yn ychwanegol at y triniaethau y mae eich meddyg wedi'u cynnig.
- Nid ydych yn cytuno â dull eich meddyg ac rydych chi eisiau gofalu am eich iechyd meddwl mewn modd arall.
Beth bynnag fo'ch sefyllfa, os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd meddwl gallwch ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu.
Pan na allwn i gymryd y cyffuriau gwrth-iselder SSRI mwyach oherwydd sgil-effeithiau, profais i eurinllys trydwll fel dewis arall. Mae'n bendant wedi helpu i leddfu fy iselder ac mae fy hwyliau wedi codi cryn dipyn.
Ydyn nhw’n gallu trin problemau iechyd meddwl?
Gellir defnyddio therapïau cyflenwol ac amgen fel triniaeth ar gyfer problemau iechyd corfforol a meddyliol. Defnyddir gwahanol therapïau ar gyfer gwahanol broblemau iechyd meddwl.
Yn gyffredinol, mae mwy o ymchwil ar y therapïau hyn ar gyfer problemau cysgu, iselder a gorbryder. Ond bu rhywfaint o ymchwil ar sut y gallai rhai triniaethau helpu problemau iechyd meddwl eraill.
Mae ein tudalen ar fathau o therapïau cyflenwol ac amgen yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr hyn y gallai pob triniaeth helpu i’w drin.
Sylwais i fod rhan fawr o fy ngorbryder yn deillio o'r ffaith nad oeddwn i’n anadlu'n iawn. Helpodd ioga yn aruthrol gyda hyn.
Ydyn nhw'n gweithio?
Fel gyda phob therapi, mae pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol.
Nid oes llawer o dystiolaeth glinigol ar gyfer y therapïau hyn, felly nid yw eich meddyg teulu yn debygol o'u rhoi ar bresgripsiwn. Ond mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn ddefnyddiol i reoli symptomau iechyd meddwl, felly yn yr ystyr hwn maen nhw’n gallu gweithio.
Mae peth ymchwil i sut maen nhw'n gweithio yn awgrymu y gallai hyn fod yn dangos yr effaith plasebo. Yr effaith hwn yw pan rydyn ni'n teimlo'n well ar ôl cymryd meddyginiaeth oherwydd rydyn ni'n disgwyl iddi wneud i ni deimlo'n well. Gall yr effaith hyn ddigwydd gyda thabledi siwgr nad oes ganddyn nhw unrhyw gynhwysion gweithredol. Ond gall fod yn berthnasol i driniaethau eraill hefyd, gan gynnwys meddyginiaethau presgripsiwn neu feddyginiaethau dros y cownter.
Nid yw p'un a yw meddyginiaeth yn cael effaith glinigol bob amser yn bwysig – gall canlyniad teimlo'n well fod yn real iawn ac yn ystyrlon yn ein bywydau.
I gael rhagor o wybodaeth am effeithiolrwydd gwahanol therapïau gweler ein tudalennau ar y canlynol:
Daeth ymarfer corff yn rhan fawr o'm trefn arferol i gadw gorbryder draw, ynghyd â thechnegau meddwlgarwch a meddyginiaeth.
Ydyn nhw'n ddiogel?
Ystyrir bod y rhan fwyaf o therapïau cyflenwol ac amgen yn ddiogel pan gânt eu darparu gan ymarferydd hyfforddedig a phrofiadol.
Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd therapi penodol yn peri risgiau uwch i chi, ac ni fyddent yn cael eu hargymell. Er enghraifft, yn yr amgylchiadau canlynol:
- rydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron
- rydych yn cael unrhyw driniaethau eraill a allai ymyrryd â'r therapi
- mae gennych broblem iechyd corfforol neu feddyliol a allai gael ei gwaethygu gan y therapi
- rydych ar fin cael llawdriniaeth neu driniaeth feddygol arall.
Cyn i chi ddechrau unrhyw driniaeth newydd mae'n syniad da i chi siarad am unrhyw bryderon diogelwch â'ch meddyg a'ch darparwr triniaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi eisoes yn cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth.
Os ydych yn ystyried cymryd meddyginiaeth lysieuol, gweler ein gwybodaeth am pryd gallai meddyginiaethau llysieuol fod yn anaddas i chi. Cofiwch y gall eich fferyllydd lleol hefyd roi cyngor i chi ar bresgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter.
Sut maen nhw’n cael eu rheoleiddio?
Nid oes unrhyw reoleiddio gorfodol ar gyfer y rhan fwyaf o ymarferwyr gofal iechyd cyflenwol yng Nghymru a Lloegr, felly mae'n bosibl ymarfer heb reoleiddio.
Serch hynny, mae sawl math o sefydliad gwirfoddol y gall ymarferwyr ddewis cofrestru â nhw:
- Y Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC). Mae'r Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol yn gweithredu fel rheolydd gwirfoddol ar gyfer y sector. Mae'n cyhoeddi rhestr o therapïau cofrestredig, ac yn cynnal cofrestr gyhoeddus o ymarferwyr sydd wedi cofrestru.
- Cymdeithasau proffesiynol ar gyfer mathau penodol o therapïau. Sefydliadau aelodaeth yw’r rhain sy’n darparu ystod o fuddion a gwasanaethau i ymarferwyr, ac sy’n gweithredu er budd y proffesiwn. Mae gan y rhan fwyaf eu codau ymarfer a'u cofrestrau o ymarferwyr eu hunain.
Mae bob amser yn syniad da dewis therapydd sydd wedi'i gofrestru gyda chorff rheoleiddio neu gymdeithas broffesiynol. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cyrraedd y safonau ymarfer ac addysg sy'n ofynnol gan y sefydliad hwnnw.
Ar gyfer arweiniad ar reoleiddio meddyginiaethau llysieuol, gweler ein gwybodaeth am sut mae meddyginiaethau llysieuol yn cael eu trwyddedu.
Beth arall ddylwn i ei ystyried cyn dechrau therapi?
Dim ond chi all benderfynu a yw y math o driniaeth yn teimlo'n iawn i chi. Ond efallai y bydd yn eich helpu i feddwl am y canlynol:
- Pa fudd ydw i eisiau ei gael ohono – a yw hyn yn realistig?
- Beth yw'r gost – a alla i ei fforddio?
- Faint o amser bydd yn ei gymryd – a oes gennyf i ddigon o amser? A yw'n benagored neu oes terfyn amser?
- A fydd yn rhaid i mi deithio?
- A oes gennyf i unrhyw broblemau iechyd a fyddai'n effeithio ar fy ngallu i wneud y therapi?
- Ydw i'n cael unrhyw driniaethau eraill a fydd yn effeithio ar fy ngallu i wneud y therapi?
- A fyddai modd addasu'r therapi hwn i ddiwallu fy anghenion?
- A fyddai rhywun rwy'n ymddiried ynddo yn gallu dod gyda mi pe na bawn i'n teimlo'n gyfforddus yn mynd ar fy mhen fy hun?
Ble alla i gael therapïau cyflenwol ac amgen?
I ddod o hyd i therapydd cofrestredig gallwch:
- ddefnyddio yr offer chwilio ar wefan y Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC)
- chwilio am restr o ymarferwyr trwy sefydliad sy'n arbenigo yn y therapi penodol. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r sefydliadau hyn ar ein tudalen mathau o therapïau cyflenwol ac amgen.
Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i argymhelliad ar gyfer therapydd lleol trwy y canlynol:
- canolfannau therapi amgen
- sba iechyd
- eich cangen Mind lleol
- eich meddygfa
- eich canolfan gymunedol leol.
Beth os nad ydyn nhw'n gweithio i mi?
Er y gall therapïau cyflenwol neu amgen fod yn ddefnyddiol i rai pobl, nid yw hyn yn wir i bawb. Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar rywbeth ac nad yw wedi helpu, mae'n bwysig peidio â beio'ch hun.
Gall rheoli problem iechyd meddwl fod yn anodd iawn, yn enwedig pan nad ydych chi'n teimlo'n dda. Gall gymryd amser ac efallai na fydd yn syml. Ond mae llawer o bobl yn gweld pan fyddant yn dod o hyd i'r cyfuniad cywir o driniaethau, hunanofal a chymorth, ei bod yn bosibl teimlo'n well.
Gweler ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl i weld opsiynau eraill y gallech eu harchwilio.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.