Hypomania a mania
Mae’r dudalen hon yn egluro hypomania a mania, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth yw hypomania a mania?
Cyfnodau o ymddygiad gorfywiog ac egni uchel yw hypomania a mania a all gael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
- Mae hypomania yn fersiwn llai dwys o mania sydd fel arfer yn para am gyfnod byrrach. Mae hyn fel arfer ychydig ddyddiau, er y gall yr amser amrywio.
- Mae mania yn ffurf fwy difrifol. Fel arfer mae'n para am wythnos neu fwy, oni bai bod triniaeth yn ei stopio.
Efallai y byddwch chi'n profi hypomania neu mania yn unigol. Neu efallai y byddwch yn eu profi fel rhan o broblem iechyd meddwl ehangach. Er enghraifft, anhwylder deubegynol, seicosis ôl-enedigol neu anhwylder sgitsoffaffeithiol.
Efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo bod cyfnodau o hypomania a mania yn bleserus. Neu efallai y byddant yn anghyfforddus, yn ofidus neu'n annymunol.
Rwyf wrth fy modd yn bod yn hypomanig oherwydd rwy'n teimlo fy mod i ar ben y byd ac yn gallu gwneud unrhyw beth dwi eisiau, ond rwy'n ei gasáu oherwydd fy mod i'n teimlo mor ddatgysylltiedig oddi wrth bawb arall.
Hypomania
Mae hypomania fel arfer yn para am ychydig ddyddiau. Gall deimlo'n haws na mania.
Fel arfer, byddwch yn gallu parhau â'ch gweithgareddau dyddiol heb i'r rhain gael eu heffeithio'n rhy wael. Ond gall pobl eraill sylwi ar newid yn eich hwyliau a'ch ymddygiad. Gall fod yn brofiad anodd neu annymunol.
Gall symptomau hypomania gynnwys y canlynol:
Sut y gallech deimlo
- Hapus, ewfforig neu ymdeimlad o les
- Cyffrous iawn, fel na allwch gael eich geiriau allan yn ddigon cyflym
- Anniddig a chynhyrfus
- Mwy o egni rhywiol
- Yn hawdd tynnu eich sylw, fel petai eich meddyliau ar wib, neu na allwch ganolbwyntio
- Mwy o hunan-barch neu hunanhyder
Sut y gallech chi ymddwyn
- Bod yn fwy egnïol nag arfer
- Siarad llawer neu siarad yn gyflym iawn
- Bod yn gyfeillgar iawn
- Cysgu ychydig iawn
- Gwario arian yn ormodol
- Colli swildod cymdeithasol neu gymryd risgiau
Mae popeth yn llachar ac yn uchel iawn ac mae popeth y tu mewn i fy mhen yn symud yn gyflym iawn. Rwy'n ddig gyda phawb oherwydd nad oes neb yn siarad nac yn gwneud pethau mor gyflym â mi. Mae'n anhygoel ond yn ofnadwy ar yr un pryd... mae fel petai fy mod i yn fy myd lliwgar anhygoel fy hun ond mae pawb arall yn dal i fod yn sownd yn yr un llwyd, diflas arferol.
Mania
Mae mania yn cael effaith sylweddol ar eich gallu i wneud eich gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae'n gallu tarfu arnynt neu eu stopio’n llwyr. Mae mania difrifol yn ddifrifol iawn, ac yn aml mae angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae cyfnodau o mania fel arfer yn para am wythnos neu fwy, oni bai eu bod yn cael eu stopio gan driniaeth.
Gall symptomau mania gynnwys y canlynol:
Sut y gallech deimlo
- Hapus, ewfforig neu ymdeimlad o les
- Hynod gyffrous, fel na allwch gael eich geiriau allan yn ddigon cyflym
- Anniddig a chynhyrfus
- Mwy o egni rhywiol
- Yn hawdd tynnu eich sylw, fel petai eich meddyliau ar wib, neu na allwch ganolbwyntio
- Hyderus neu anturus iawn
- Fel petai nad oes modd eich cyffwrdd neu eich niweidio
- Fel y gallwch gyflawni tasgau corfforol a meddyliol yn well na'r arfer
- Fel petai eich bod yn deall, yn gweld neu'n clywed pethau na all pobl eraill wneud
Sut y gallech chi ymddwyn
- Bod yn fwy egnïol nag arfer
- Siarad llawer, siarad yn gyflym iawn, neu beidio â gwneud synnwyr i bobl eraill
- Bod yn gyfeillgar iawn
- Dweud neu wneud pethau sy'n amhriodol ac allan o gymeriad
- Cysgu ychydig iawn neu ddim o gwbl
- Bod yn anghwrtais neu'n ymosodol
- Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- Gwario arian yn ormodol neu mewn ffordd sy'n anarferol i chi
- Colli swildod cymdeithasol
- Cymryd risgiau difrifol gyda'ch diogelwch
Dechreuodd fy lleferydd fynd yn gyflym iawn... Roeddwn yn ymosodol ac roeddwn i'n meddwl y gallwn ddatrys problemau'r byd ar fy mhen fy hun. Do'n i ddim yn cysgu, prin yn bwyta nac yfed ac roedd gen i gymaint o egni, byddwn i’n camu o gwmpas yr ystafell.
Ar ôl cyfnod o hypomania neu mania
Ar ôl episod hypomanig neu manig, efallai y byddwch:
- Yn teimlo'n anhapus iawn neu'n teimlo cywilydd am y ffordd rydych chi wedi ymddwyn
- Wedi gwneud ymrwymiadau neu wedi ymgymryd â chyfrifoldebau sydd bellach yn teimlo'n anymarferol
- Heb lawer o atgofion clir o'r hyn a ddigwyddodd pan oeddech yn hypomanig neu'n manig, neu ddim o gwbl.
- Yn teimlo'n flinedig iawn ac angen llawer o gwsg a gorffwys
- Yn teimlo fel eich bod wedi gwthio botwm 'ailosod', ac fel eich bod yn berson gwahanol nag yr oeddech cyn yr episod
Os ydych chi'n profi hypomania neu mania fel rhan o broblem iechyd meddwl arall, efallai y gwelwch fod cyfnod o iselder yn dilyn yr episod. Er enghraifft, os ydych chi'n profi anhwylder deubegynol neu anhwylder sgitsoffaffeithiol.
Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd yn ei olygu i gael eich derbyn i’r ysbyty
Roeddwn i'n ecstatig am yr hyn roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi ei ddarganfod, gan feddwl y byddai llawer o bobl yn dod i'r tŷ ac roedd angen eu bwydo.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.