Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hypomania a mania

Mae’r dudalen hon yn egluro hypomania a mania, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd am gefnogi rhywun maen nhw'n ei adnabod gyda hypomania neu mania.

 

Cychwyn sgwrs

Gallech geisio cael sgwrs onest â nhw am eu hypomania neu mania, a sut mae'n effeithio arnyn nhw.

Gofynnwch gwestiynau iddynt am eu profiadau a gwrandewch ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Drwy siarad yn agored, gallwch ddysgu mwy am y sefyllfa.

Gall hyn hefyd helpu i feithrin ymddiriedaeth, fel eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad am eu profiadau ac yn gallu gofyn am help.

Gofynnwch beth allwch chi ei wneud

Os yw rhywun wedi profi hypomania neu mania o'r blaen, yn aml bydd ganddynt syniad o'r hyn sy'n eu helpu a beth sydd ddim yn helpu.

Gofynnwch sut y gallwch chi helpu. Os nad ydyn nhw'n gwybod, fe allech chi gynnig helpu drwy archwilio opsiynau gyda'ch gilydd.

Dysgwch beth yw eu sbardunau a’u harwyddion rhybudd

Pan fyddant yn teimlo'n dda, gallech siarad â nhw am eu sbardunau a'u harwyddion rhybudd.

Gallai hyn eich helpu i'w cefnogi i osgoi pethau a allai sbarduno episod. Ac i sylwi ar unrhyw arwyddion rhybudd yn gynnar, fel y gallwch gynnig unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt.

Edrychwch ar ein gwybodaeth am sbardunau ac arwyddion rhybudd i ddysgu rhagor.

Mae edrych allan am batrymau, siarad, aros yn ymlaciedig ac yn gefnogol yn hanfodol.

Gwnewch gynllun ar gyfer episodau hypomanig neu manig

Gallech eu helpu i gynllunio pa gefnogaeth y gallwch ei chynnig yn ystod cyfnod hypomanig neu manig. Gall hyn helpu’r ddau ohonoch i deimlo'n fwy parod ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd.

Gallech drafod syniadau fel:

  • Mwynhau bod yn greadigol gyda'ch gilydd
  • Cynnig ail farn am brosiectau neu ymrwymiadau, i'w helpu i ystyried a ydynt yn gwneud gormod o bethau
  • Helpu rheoli arian tra eu bod yn sâl, os hoffent i chi wneud hynny
  • Eu helpu i gadw trefn arferol, gan gynnwys prydau bwyd a phatrymau cysgu rheolaidd

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Gallai hefyd helpu i wneud cynllun argyfwng sy'n esbonio beth i'w wneud os byddant yn mynd yn sâl iawn.

Gallai hyn gynnwys sut i adnabod arwyddion argyfwng, pwy i gysylltu â nhw a beth allwch chi ei wneud i helpu. Ac fe allech chi drafod pa fath o amgylchiadau allai olygu bod angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty.

Gallwch gytuno ar y cynllun ymlaen llaw, a chadw copi ysgrifenedig.

Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau

Efallai y byddwch yn chwilio am arwyddion eu bod yn profi mania neu hypomania.

Mae hyn yn gwbl ddealladwy. Ond efallai nad dyma'r ffordd fwyaf defnyddiol i'w cefnogi.

Cofiwch ei bod yn bosibl i unrhyw un ddangos amrywiaeth o emosiynau ac ymddygiad, tra'n dal i deimlo'n sefydlog yn gyffredinol. A cheisiwch beidio â chymryd yn ganiataol bod unrhyw newid mewn hwyliau yn arwydd bod rhywun yn sâl. Os nad ydych yn siŵr, siarad â nhw yw'r ffordd orau o wirio.

Os yw'r bobl o fy amgylch yn poeni a yw newidiadau yn symptomatig o ailwaeledd, rwy'n eu hannog i ofyn, nid tybio.

Ceisiwch gydnabod eu profiadau

Os ydyn nhw'n profi mania, efallai y byddan nhw'n gweld, clywed neu'n credu pethau nad ydynt yn wir. Os bydd hyn yn digwydd, gallai fod yn ddryslyd i chi. Efallai y byddan nhw hefyd yn teimlo'n ddig, yn flin neu'n ddryslyd os nad ydych chi'n rhannu eu credoau neu brofiadau.

Ceisiwch gofio bod yr hyn sy'n teimlo'n real iddyn nhw yn real yn ystod yr adegau hynny. Gall helpu os ydych yn ceisio:

  • Cadw mor ymlaciedig ag y gallwch
  • Gadael iddyn nhw wybod, er nad ydych chi'n rhannu'r gred, eich bod chi'n deall ei fod yn teimlo'n real iddyn nhw
  • Canolbwyntio ar eu cefnogi gyda sut maen nhw'n teimlo, yn hytrach na chadarnhau neu herio eu realiti

Mae'r hyn sy'n teimlo'n real yn real iddo yn y foment honno. Mae'n helpu pan dwi'n parchu hynny ac yn ei gysuro yn hytrach na thrio esbonio dyw e ddim yn 'real' i bawb arall.

Rhowch wybod iddynt os ydych chi'n poeni

Os ydych chi'n poeni eu bod yn mynd yn sâl, ceisiwch fynd i'r afael â hyn gyda nhw'n ofalus. Ceisiwch beidio â chynhyrfu, gan osgoi eu beirniadu na'u cyhuddo.

Gallech egluro eich bod wedi sylwi ar newidiadau yn eu hymddygiad a pham ei fod yn eich poeni. Gofynnwch a ydyn nhw wedi sylwi arno hefyd. Os yw hyn wedi digwydd o'r blaen, atgoffwch nhw o hyn ac eglurwch y patrwm a welwch chi.

Os ydyn nhw'n dweud eu bod nhw'n iawn, gallech chi awgrymu i weld sut mae pethau'n mynd a siarad amdano eto mewn ychydig ddyddiau.

Trafodwch ymddygiad heriol

Os yw rhywun yn sâl iawn, efallai y byddant yn ymddwyn mewn ffordd anodd ac efallai na fyddant yn gweld eu hymddygiad fel problem.

Os bydd hyn yn digwydd, mae'n iawn i chi osod ffiniau. Er enghraifft, y byddwch chi'n gorffen y sgwrs os ydyn nhw'n anghwrtais neu'n ymosodol gyda chi. Neu na fyddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw syniadau neu gynlluniau mawreddog yr ydych yn poeni a allai ddod i ben yn wael.

Byddwch yn gefnogol ar ôl episod

Os yw rhywun wedi bod yn sâl, efallai y byddant yn teimlo cywilydd o'u hymddygiad. Rhowch sicrwydd iddynt eu bod yn dal i fod yn bwysig i chi a'ch bod yn deall bod yr ymddygiad hwn yn rhan o'u hypomania neu mania.

Os ydynt yn poeni y gallai eu hymddygiad gael effeithiau tymor hir, gallech gynnig eu helpu i ddatrys hyn. Gallai hyn fod trwy helpu gyda chynllun ariannol, neu siarad am sut i wella perthnasoedd sydd wedi cael eu heffeithio.

Helpwch nhw i gael cymorth

Gall cael y gofal a'r cymorth cywir fod yn anodd ac yn rhwystredig. Gallech ofyn a ydyn nhw eisiau eich help gyda hyn.

Er enghraifft, gallech gynnig ymchwilio i driniaethau, syniadau hunan-ofal neu grwpiau cymorth lleol. Neu fe allech chi eu helpu i ddod o hyd i eiriolwr iechyd meddwl.

Gofalwch amdanoch eich hun

Gall fod yn anodd cefnogi rhywun sy'n sâl. Ac mae'n gyffredin i deimlo wedi’ch gorlethu weithiau. Ceisiwch gofio gofalu am eich iechyd meddwl eich hun hefyd. Gallwch chi:

  • Gosod ffiniau a pheidio â chymryd gormod o gyfrifoldeb. Os byddwch yn mynd yn sâl, efallai na fyddwch yn gallu cynnig cymaint o gefnogaeth. Gall hefyd helpu i fod yn realistig ynghylch faint o gefnogaeth y gallwch ei gynnig. 
  • Rhannu eich rôl gofalu gydag eraill, os gallwch. Yn aml mae'n haws cefnogi rhywun os nad ydych chi'n ei wneud ar eich pen eich hun.
  • Siarad ag eraill am sut rydych chi'n teimlo. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi rannu manylion am y person rydych chi'n ei gefnogi. Ond gall siarad am eich teimladau eich hun gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu chi i deimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi hefyd.

Edrychwch ar ein tudalennau am sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall i gael mwy o awgrymiadau ar yr hyn y gallwch ei wneud, a ble y gallwch fynd am gefnogaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig