Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hypomania a mania

Mae’r dudalen hon yn egluro hypomania a mania, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Hunan-ofal ar gyfer hypomania a mania

Gall delio â hypomania neu mania deimlo'n anodd iawn. Ond mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt er mwyn helpu rheoli eich hwyliau a gofalu am eich lles.

Efallai y bydd yn helpu i roi cynnig ar yr awgrymiadau hyn:

Efallai y bydd rhai ohonom yn gweld y syniadau hyn yn ddefnyddiol, ond cofiwch fod gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl ar wahanol adegau. Rhowch gynnig ar yr hyn rydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag ef yn unig.

Dewch i adnabod eich hwyliau, sbardunau ac arwyddion rhybudd

Monitro eich hwyliau

Gall helpu i gadw golwg ar eich hwyliau dros gyfnod o amser. Gallech roi cynnig ar ddefnyddio dyddiadur hwyliau. Mae llawer o’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim, fel MoodPanda neu eMoods. Os yw eich mania neu hypomania yn rhan o anhwylder deubegynol, gallech roi cynnig ar ddyddiadur hwyliau Bipolar UK.

Roeddwn i'n meddwl fy mod i bob amser yn iawn a bod pawb arall bob amser yn anghywir. Roeddwn i'n fywiog ac roedd fy hyder yn uchel iawn. Yn y gwaith, byddwn yn cwblhau tasgau ar yr un pryd ac yn teimlo bod y gwaith yn hawdd. Dechreuais wario llawer o arian hefyd a byddwn yn gwario bron fy holl gyflog.

Deall eich sbardunau

Efallai y byddwch yn sylwi y gall rhai mathau o ymddygiad, profiad neu sefyllfa sbarduno pwl manig neu hypomanig. Er enghraifft, efallai bydd eich hwyliau yn newid ar ôl noson hwyr.

Gall deall y patrymau hyn eich helpu i gymryd camau i osgoi sbardun, neu leihau ei effaith.

Dysgu eich arwyddion rhybudd

Efallai y byddwch yn sylwi bod patrwm i'r ffordd rydych chi'n teimlo neu'n ymddwyn cyn episod. Gallai hyn gynnwys newidiadau o ran pa mor dda rydych chi'n cysgu, eich awydd am fwyd, neu sut rydych chi'n gwario arian.

Gall bod yn ymwybodol bod eich hwyliau yn dechrau newid eich helpu i sicrhau bod gennych gefnogaeth. Ac y gallwch ganolbwyntio ar ofalu amdanoch eich hun.

Gall sbardunau ac arwyddion rhybudd fod yn wahanol i bawb. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i weithio allan beth yw eich rhai chi. Gall hefyd helpu i drafod unrhyw arwyddion rhybudd gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw, fel y gallan nhw eich helpu.

Gwneud cynllun hunanreoli

Pan fyddwch yn iach, gwnewch gynllun ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud os byddwch yn dechrau mynd yn hypomanig neu’n manig. Gallech gynllunio sut i reoli eich symptomau ac atal pethau rhag gwaethygu.

Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar rai syniadau i ddarganfod beth sy'n gweithio i chi. Er enghraifft:

  • Ewch i'r gwely, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n flinedig
  • Ceisiwch osgoi alcohol a chaffein
  • Ceisiwch fwyta'n rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo’r awydd
  • Ceisiwch osgoi gweithgareddau ysgogol
  • Ceisiwch osgoi amgylcheddau swnllyd, llachar neu brysur ac ewch i rywle tawel ac ymlaciol
  • Gwnewch weithgareddau sy’n eich ymlacio neu’n eich cysuro
  • Gwnewch ymarferion ymlacio neu anadlu dwfn
  • Meddyliwch am sut i reoli eich sefyllfa ariannol
  • Ceisiwch ohirio gwneud penderfyniadau bywyd mawr
  • Dylech osgoi sefyllfaoedd lle gallech gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus, fel gyrru'n anghyfrifol neu gymryd cyffuriau hamdden

Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus faint o gyswllt cymdeithasol dwi’n ei gael - gall gormod fy wneud i deimlo’n uchel. Mae'n rhaid i mi ddechrau dweud 'na' i ofynion.

Cymryd camau ymarferol

Cadwch at drefn arferol

Gall cael trefn arferol eich helpu i deimlo'n fwy ymlaciedig os yw eich hwyliau yn uchel. A gall eich helpu i deimlo'n fwy sefydlog yn gyffredinol. Gallai eich trefn arferol gynnwys:

  • Gweithgareddau o ddydd i ddydd, er enghraifft pryd fyddwch yn bwyta prydau bwyd ac yn mynd i gysgu
  • Amser i ymlacio neu wneud meddwlgarwch
  • Amser ar gyfer diddordebau a chynlluniau cymdeithasol
  • Cymryd unrhyw feddyginiaeth ar yr un pryd bob dydd – gall hyn hefyd eich helpu i reoli sgîl-effeithiau a sicrhau bod gennych lefel gyson o feddyginiaeth yn eich system

Rheoli straen

Gall straen achosi cyfnodau hypomanig neu manig. Mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt er mwyn sicrhau nad ydych chi'n teimlo dan straen. Ac mae yna ffyrdd o ofalu amdanoch eich hun pan fyddwch chi'n teimlo dan straen.

Edrychwch ar ein tudalennau am reoli straen am ragor o wybodaeth.

Rheoli eich cyllid

Efallai eich bod yn poeni am sut y byddwch yn rheoli eich sefyllfa ariannol pan fyddwch yn cael pwl manig neu hypomanig. Efallai y byddwch yn teimlo fel hyn, yn enwedig os ydych wedi gwario mwy o arian nag yr oeddech yn bwriadu ei wneud yn ystod episod blaenorol.

Efallai y bydd yn helpu i ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i gyfyngu ar eich gwariant yn ystod episod. Efallai y byddwch hefyd yn ystyried gwneud atwrneiaeth arhosol, i benodi rhywun yn ffurfiol a all eich helpu i reoli eich sefyllfa ariannol os byddwch yn sâl eto. Gweler ein tudalennau ar atwrneiaeth arhosol i gael gwybodaeth am hyn ac i weld a yw’n iawn i chi.

Os yw pryderon ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl, ewch i'n tudalennau am arian ac iechyd meddwl i gael awgrymiadau a allai helpu. Gallwch hefyd gysylltu â'r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael cyngor ariannol diduedd am ddim am ddyled.

Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer argyfwng

Pan fyddwch yn cael argyfwng iechyd meddwl, gall fod yn anodd rhoi gwybod i eraill pa fath o help sydd ei angen arnoch. Gall helpu i wneud cynllun argyfwng tra byddwch yn iach.

Gall y cynllun hwn nodi'r hyn yr hoffech i ddigwydd yn ystod argyfwng, a sut yr hoffech gael eich trin. Gweler ein tudalen am gynllunio ar gyfer argyfwng am ragor o wybodaeth.

Mae gen i larwm ar fy ffôn felly dwi'n cymryd fy meddyginiaeth ar yr un pryd bob dydd.

Gofalu amdanoch eich hun

Ceisiwch reoli eich cwsg

Efallai y bydd llawer ohonom â hypomania neu mania yn cael trafferth cysgu yn ystod episod. Gallai cael cwsg gwael hefyd sbarduno episod.

Os gallwch wella'ch cwsg, gall hyn eich helpu i gadw'ch hwyliau yn sefydlog neu fyrhau episod. Hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n flinedig, ceisiwch fynd i'r gwely ar eich amser arferol. Edrychwch ar ein tudalennau am ymdopi â phroblemau cysgu am ragor o awgrymiadau.

Meddyliwch am weithgarwch corfforol

Gall ymarfer corff ysgafn, fel ioga neu nofio, ein helpu i ymlacio a rheoli straen. A gallai ymarfer corff mwy dwys helpu llosgi rhywfaint o egni. Ond efallai y bydd rhai ohonom yn gweld y gall ymarfer corff dwys sbarduno pwl hypomanig neu manig, neu wneud episod yn waeth.

Os ydych chi eisiau bod yn fwy heini, ceisiwch ddod o hyd i fath o ymarfer corff sy'n gweithio orau i chi. Gallai hyn gynnwys monitro sut mae eich hwyliau yn ymateb i wahanol fathau o ymarfer corff.

Edrychwch ar ein tudalennau am weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl am ragor o wybodaeth, gan gynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau y gallech roi cynnig arnynt.

Siarad â phobl rydych yn ymddiried ynddynt

Gall helpu i siarad â phobl rydych yn ymddiried ynddynt am eich iechyd meddwl, sut mae'n effeithio arnoch chi a sut y gallant eich cefnogi. Dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt:

Siaradwch am sut rydych chi'n teimlo

Gall helpu i siarad am eich profiadau o episodau blaenorol tra byddwch yn teimlo'n dda. Gallai hyn gynnwys trafod yr hyn sy’n ddefnyddiol i chi gan bobl eraill a pheidio.

Er enghraifft, efallai yr hoffech ddweud: ‘Mae’n rhwystredig eich bod chi'n meddwl fy mod i'n hypomanig bob tro rydw i'n hapus neu'n cael diwrnod da.' Neu: 'Mae'n ddefnyddiol iawn pan fyddwch chi'n sylwi nad ydw i wedi bod yn cysgu llawer ac yn fy atgoffa i gael noson dda o gwsg.'

Cynnwys pobl yn eich cynllun hunan-ofal

Gall helpu i gynnwys pobl rydych yn ymddiried ynddynt wrth gynllunio sut i ofalu amdanoch eich hun, a beth i'w wneud os ydych chi'n sâl. Er enghraifft, gallech ofyn a ydynt wedi gweld unrhyw batrymau neu ymddygiadau o gwmpas yr adegau y byddwch yn mynd yn sâl. Gall hyn eich helpu i ddeall eich sbardunau neu eich rhybuddio.

Neu efallai eich bod eisoes yn ymwybodol o'ch arwyddion rhybudd ond yn ei chael hi'n anodd eu hadnabod. Gallech siarad â rhywun am eich arwyddion rhybudd, a gofyn iddynt roi gwybod i chi os ydynt yn eu gweld yn datblygu. Efallai y byddant yn sylwi ar bethau nad ydych chi’n sylwi arnynt, neu’n gallu awgrymu strategaethau nad ydych wedi meddwl amdanynt.

Gallech siarad am ba fath o amgylchiadau a allai olygu bod angen mwy o gymorth arnoch. Er enghraifft, pa fath o sefyllfa allai olygu bod angen i chi fynd i'r ysbyty.

Y peth anoddaf i'w esbonio yw'r meddyliau ar wib pan dwi'n manig. Mae fel petai gen i bedwar ymennydd ac maen nhw i gyd ar garlam... gall fod yn frawychus ond hefyd yn ewfforig ar yr un pryd.

Rhowch gynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid

Gall gwneud cysylltiadau â phobl sydd â phrofiadau tebyg neu gyffredin helpu. Gallech geisio siarad â phobl eraill sydd wedi profi hypomania neu mania, i rannu eich teimladau, profiadau a syniadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun.

Ewch i'n tudalen ar ddod o hyd i gymorth cymheiriaid i ddarganfod sut i gael mynediad ato. Gallech hefyd gysylltu â Llinell Wybodaeth Mind neu eich cangen Mind lleol i weld pa gymorth sydd yn eich ardal, neu ymweld â chymuned cymorth cymheiriaid ar-lein, fel Side by Side Mind.

Os ydych chi'n chwilio am gefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein, mae gan ein tudalennau am gadw'ch hun yn ddiogel ar-lein awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich lles.

Ymweld â choleg adfer

Gall hefyd helpu i weld a oes gan eich ardal leol goleg adfer. Mae colegau adfer yn cynnig cyrsiau am iechyd meddwl ac adferiad mewn amgylchedd cefnogol. Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr lleol ar wefan Mind Recovery Net.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig