Hypomania a mania
Mae’r dudalen hon yn egluro hypomania a mania, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Beth sy'n achosi hypomania a mania?
Nid oes un rheswm unigol neu glir pam y gallai rhywun fynd yn hypomanig neu'n manig. Mae'n ymddangos ei fod yn gyfuniad o ffactorau tymor hir a thymor byr, sy'n wahanol o berson i berson.
Dyma rai achosion posibl o hypomania neu mania:
- Lefelau uchel o straen
- Newidiadau mewn patrymau cysgu neu ddiffyg cwsg
- Defnyddio alcohol neu gyffuriau hamdden
- Newidiadau tymhorol – er enghraifft, mae rhai pobl yn fwy tebygol o brofi hypomania a mania yn ystod y gwanwyn
- Newid sylweddol yn eich bywyd, fel symud tŷ neu fynd trwy ysgariad
- Genedigaeth – gweler ein tudalen ar seicosis ôl-enedigol am ragor o wybodaeth
- Colled neu brofedigaeth
- Trawma a cham-drin
- Amodau bywyd anodd – er enghraifft, problemau gydag arian, tai neu unigrwydd
- Fel sgîl-effaith meddyginiaeth
- Symptom o salwch corfforol neu gyflwr niwrolegol
- Hanes teuluol – os oes gennych aelod o'r teulu sy'n profi hwyliau deubegynol, rydych yn fwy tebygol o brofi mania neu hypomania
Mae rhai o'r rhain yn ffactorau tymor hir a allai eich gwneud yn fwy tebygol o brofi hypomania neu mania yn gyffredinol. Tra bod eraill yn ffactorau mwy uniongyrchol a allai sbarduno episod.
Bydd episod hypomanig arferol i mi yn dechrau gyda noson heb lawer o gwsg, efallai dwy i dair awr, yna'r noson nesaf mae'n debyg na fyddaf yn cysgu o gwbl.
Fel sgîl-effaith meddyginiaeth
Gall rhai meddyginiaethau achosi hypomania neu mania fel sgîl-effaith. Gallai hyn fod naill ai pan fyddwch chi'n eu cymryd neu fel symptom diddyfnu pan fyddwch chi'n stopio.
Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau corfforol ac iechyd meddwl, gan gynnwys rhai gyffuriau gwrth-iselder.
Os ydych chi'n poeni am effeithiau unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd neu wedi rhoi'r gorau i'w chymryd, trafodwch hyn gyda'ch meddyg.
Roeddwn i’n byw gyda dysmorffia am 10 mlynedd ac yn y pen draw cefais fy nhrin â gwrthiselyddion ac roeddwn i’n bryfoclyd, anwadal, anllad, dadleuol ac ymosodol. Pan wnes i roi'r gorau i'r driniaeth, nid oeddwn i’n profi hyn rhagor.
Symptom o salwch corfforol neu gyflwr niwrolegol
Gall rhai afiechydon corfforol a chyflyrau niwrolegol achosi hypomania a mania. Mae hyn yn cynnwys lupus, enseffalitis, dementia, anaf i'r ymennydd, tiwmorau'r ymennydd a strôc.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y driniaeth gywir, dylai eich meddyg bob amser wirio a allai fod achos corfforol i'ch hypomania neu mania cyn i chi gael diagnosis.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.