Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrth-iselder

Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Pwy all roi presgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder?

Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gallu rhoi presgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder i chi yn cynnwys:

  • eich meddyg teulu
  • seiciatrydd
  • nyrs-bresgripsiynydd arbenigol
  • fferyllydd arbenigol

Gall llawer o gyffuriau gwrth-iselder gael eu rhoi ar bresgripsiwn gan eich meddyg. Fodd bynnag, dim ond os ydych yn cael eich goruchwylio gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, fel seiciatrydd, y gellir rhoi rhai ohonynt ar bresgripsiwn.

Mae’r tudalennau gwybodaeth hyn fel arfer yn cyfeirio at ‘eich meddyg’ yn rhoi’r feddyginiaeth hon ar bresgripsiwn. Nhw yw’r bobl fwyaf tebygol o roi presgripsiwn i chi am y cyffuriau hyn.

Bûm ar feddyginiaeth am chwe mis. Fe helpodd i godi’r niwl a rhoi’r egni yr oedd ei angen arnaf i fynd i’r afael â gwraidd fy iselder. Does dim cywilydd mewn cymryd meddyginiaeth i drin salwch.

Y tabŵ am dabledi

Gwyliwch Hannah yn siarad am sut y gwnaeth cyffuriau gwrth-iselder ei helpu hi.

Sut mae cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio?

Gall cyffuriau gwrth-iselder drin symptomau iselder neu broblemau iechyd meddwl eraill. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn ymdrin â’r achosion. Bydd meddygon yn aml yn eu rhoi ar bresgripsiwn ynghyd â therapi siarad, i’ch helpu i ymdrin ag achosion eich problemau iechyd meddwl.

Efallai y gwelwch fod rhai mathau o gyffuriau gwrth-iselder yn gweithio’n well nag eraill ar gyfer eich symptomau. Neu efallai y gwelwch nad yw cyffuriau gwrth-iselder yn addas i chi. Gweler ein tudalen ar sut y gall cyffuriau gwrth-iselder helpu i ddarganfod mwy.

Beth yw’r wyddoniaeth y tu ôl i gyffuriau gwrth-iselder?

Mae cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio trwy hybu gweithgarwch cemegau penodol yn yr ymennydd, neu wneud i’r gweithgarwch bara’n hirach. Mae hyn yn cynnwys noradrenalin a serotonin, y credir eu bod yn ymwneud â rheoleiddio eich hwyliau.

Niwrodrosglwyddyddion yw noradrenalin a serotonin. Mae hyn yn golygu mai cemegau ydyn nhw sy’n trosglwyddo negeseuon rhwng celloedd nerfol yn eich ymennydd, a rhwng nerfau ac organau eraill yng ngweddill eich corff.

Trwy achosi newid i gemeg eich ymennydd, gall cyffuriau gwrth-iselder godi eich hwyliau. Fodd bynnag, nid yw cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio i bawb. Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol bod iselder yn cael ei achosi gan anghydbwysedd cemegol sy’n cael ei gywiro gan gyffuriau gwrth-iselder.

Pa fathau gwahanol o gyffuriau gwrth-iselder sydd i’w cael?

Mae yna sawl math gwahanol o gyffuriau gwrth-iselder. Ar y cyfan, byddant yn effeithio ar yr un cemegau yn yr ymennydd ac yn achosi effeithiau tebyg. Serch hynny, gall rhai pobl ymateb i rai cyffuriau gwrth-iselder yn well nag eraill. Yn ogystal, gall y gwahanol gyffuriau achosi sgil-effeithiau gwahanol.

Y gwahanol fathau yw:

Gweler ein tudalen ar gymharu cyffuriau gwrth-iselder am restr o’r holl gyffuriau gwrth-iselder, wedi’u grwpio yn ôl categorïau gwahanol. Neu gweler ein rhestr A–Z o gyffuriau gwrth-iselder am wybodaeth fanwl am gyffuriau gwrth-iselder unigol.

Atalyddion ailafael serotonin dethol (SSRIs)

Ynglŷn ag SSRIs:

  • Mae SSRIs yn gweithio’n bennaf trwy rwystro ailafael serotonin i’r gell nerfol a’i rhyddhaodd. Mae hyn yn golygu bod y serotonin yn gweithredu’n hirach ar eich ymennydd a’ch corff.
  • Efallai y gwelwch fod sgil-effeithiau SSRIs yn haws ymdopi â nhw na chyffuriau gwrth-iselder eraill. Serch hynny, gall yr effeithiau hyn deimlo’n annymunol yn yr un modd, yn enwedig pan fyddwch yn dechrau cymryd y cyffuriau am y tro cyntaf.
  • SSRIs yw’r math mwyaf cyffredin o gyffuriau gwrth-iselder a roddir ar bresgripsiwn yn y DU.

Atalyddion ailafael serotonin a noradrenalin (SNRIs)

Ynglŷn ag SNRIs:

  • Mae SNRIs yn gweithio mewn ffordd debyg i SSRIs. Ond, maent hefyd yn cael effaith sylweddol ar ailafael noradrenalin, yn ogystal ag ailafael serotonin.
  • Fel gydag SSRIs, efallai y gwelwch eich bod yn gallu cymryd SNRIs heb deimlo gormod o sgil-effeithiau diangen. Serch hynny, gall eu sgil-effeithiau fod yn annymunol yn yr un modd.
  • Weithiau bydd SNRIs yn cael eu ffafrio ar gyfer trin iselder a gorbryder mwy difrifol.

Cyffuriau trichylchol

Ynglŷn â chyffuriau trichylchol:

  • Fel SNRIs, mae cyffuriau trichylchol yn effeithio ar ailafael noradrenalin a serotonin, gan wneud i’r effeithiau ar yr ymennydd a’r corff bara’n hirach.
  • Mae cyffuriau trichylchol hefyd yn effeithio ar rai cemegau eraill yn y corff. Gall hyn olygu eu bod yn fwy tebygol o achosi sgil-effeithiau annymunol na chyffuriau gwrth-iselder eraill.
  • Cânt eu galw’n gyffuriau ‘trichylchol’ oherwydd eu hadeiledd cemegol, sydd â thri chylch.

Atalyddion monoamin ocsidas (MAOIs)

Ynglŷn ag MAOIs:

  • Mae MAOIs yn gweithio trwy ei gwneud hi’n anoddach i ensym o’r enw monoamin ocsidas ddadelfennu noradrenalin a serotonin. Mae hyn yn achosi i noradrenalin a serotonin aros yn weithredol yn hirach yn yr ymennydd a’r corff.
  • Gall MAOIs ryngweithio’n beryglus â rhai mathau o feddyginiaeth a bwyd. Os ydych yn cymryd MAOIs, mae angen i chi ddilyn deiet gofalus. A dylech bob amser wirio gyda meddyg neu fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth newydd ochr yn ochr ag MAOIs.
  • Dim ond arbenigwr ddylai roi MAOIs ar bresgripsiwn. Mae’n annhebygol y cewch MAOI ar bresgripsiwn oni bai eich bod wedi rhoi cynnig ar bob math arall o gyffuriau gwrth-iselder, ac nad oes yr un ohonynt wedi gweithio i chi. Mae hyn oherwydd y rhyngweithiadau peryglus sy’n bosibl gydag MAOIs.

Cyffuriau gwrth-iselder eraill

Mae yna nifer o gyffuriau gwrth-iselder eraill ar gael nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau uchod. I gael rhagor o wybodaeth am y cyffuriau gwrth-iselder hyn, gweler ein tudalen ar gymharu cyffuriau gwrth-iselder.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig