Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrth-iselder

Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Pam y byddwn eisiau cymharu cyffuriau gwrth-iselder?

Gall deall mwy am y gwahanol gyffuriau gwrth-iselder sydd ar gael eich helpu i siarad â’ch meddyg am yr hyn sy’n iawn i chi, gan gynnwys y canlynol:

  • Os ydych wedi cael problemau gyda math arbennig o gyffur gwrth-iselder ac eisiau ei osgoi. Er enghraifft, os ydych wedi cael problemau gyda chyffuriau trichylchol ac yn dymuno newid i SSRI.
  • Os yw hanner oes y cyffur yn bwysig i chi. Er enghraifft, os ydych yn poeni am effeithiau diddyfnu a byddai’n well gennych gael cyffur gyda hanner oes hirach. I gael gwybodaeth am ystyr hanner oes a pham ei fod yn bwysig, gweler ein tudalen esbonio hanner oes meddyginiaeth. Os ydych yn cymryd cyffur gwrth-iselder MAOI, gweler ein gwybodaeth yn esbonio pam mae hanner oes yn golygu rhywbeth gwahanol i rai MAOIs penodol.
  • Os ydych yn cael problemau llyncu, neu yn methu â chymryd tabledi, a’ch bod angen eich meddyginiaeth ar ffurf wahanol.
  • Os oes gennych unrhyw gyfyngiadau deietegol, megis bod yn llysieuol, neu os oes gennych alergedd neu anoddefiad i rai cynhwysion.

Cofiwch: nid yw cyffuriau yn gweithio yr un ffordd i bawb, ac mae’n bwysig dod o hyd i feddyginiaeth sy’n gweithio i chi. Gweler ein tudalen ar dderbyn y feddyginiaeth gywir am ragor o wybodaeth.

Cyffuriau gwrth-iselder yn ôl enw generig a nodweddion allweddol

Gall pob un o’r cyffuriau hyn gael eu hadnabod yn ôl sawl enw gwahanol, yr ydym wedi’u rhestru isod o dan y colofnau ‘Enwau generig’ ac ‘Enwau masnachol (DU)’. Gweler ein tudalen ar enwau cyffuriau am ragor o wybodaeth.

Drag or scroll this table to view full contents

Enw generig

Enwau masnachol (DU)

Math o gyffuriau gwrth-iselder

Y ffurf sydd ar gael

Hanner oes

Ystyriaethau deietegol

agomelatine

Valdoxan

arall

  • tabledi

1 i 2 awr

amherthnasol

amitriptyline

amherthnasol 

cyffuriau trichylchol

  • tabledi
  • hylif

9 i 25 awr

  • gall tabledi cynnwys lactos

citalopram

Cipramil

SSRI

  • tabledi
  • diferion trwy'r geg

oddeutu 36 awr

  • gall tabledi cynnwys lactos

clomipramine

amherthasol

cyffuriau trichylchol

  • capsiwlau

12 i 36 awr

  • yn cynnwys lactos
  • yn cynnwys gelatin

dosulepin

Prothiaden, Thaden

cyffuriau trichylchol

  • tabledi
  • capsiwlau

oddeutu 50 awr (ychydig dros 2 ddiwrnod)

  • gall capsiwlau  cynnwys gelatin

doxepin

Sinepin

cyffuriau trichylchol

  • capsiwlau

3 i –80 awr (1.5 i 3.3 diwrnod)

  • yn cynnwys  lactos
  • yn cynnwys  gelatin

duloxetine

Cymbalta

SNRI

  • capsiwlau

8 i 17 awr

  • yn cynnwys gelatin
  • gall gynnwys  lactos

escitalopram

Cipralex

SSRI

  • tabledi
  • diferion trwy'r geg

oddeutu 30 awr

amherthnasol

fluoxetine

Prozac, Prozep, Oxactin

SSRI

  • tabledi
  • capsiwlau
  • hylif
  • tabledi gwasgaradwy

96 i 144 awr (4 i 6 diwrnod)

  • capsiwlau yn cynnwys gelatin

fluvoxamine

Faverin

SSRI

  • tabledi

17 i 22 awr

amherthnasol

imipramine

amherthnasol

cyffuriau trichylchol

  • tabledi
  • hylif

oddeutu 19 awr

  • tabledi yn cynnwys lactos
  • tabledi yn cynnwys gelatin

isocarboxazid

amherthnasol

MAOI

  • tabledi

oddeutu 36 awr (gall yr effeithiau bara 2 i 3 wythnos ar ôl diddyfnu)

  • yn cynnwys lactos
  • yn cynnwys gelatin
  • angen cyfyngiadau bwyd

lofepramine

Lomont

cyffuriau trichylchol

  • tabledi
  • hylif

12 i 24 awr

  • yn cynnwys lactos

mianserin

n/a

arall

  • tablets

6 i 39 awr

amherthnasol

mirtazapine

Zispin

arall

  • tabledi
  • hylif
  • tabledi gwasgaradwy

20 i 40 awr

  • tabledi yn cynnwys  lactos

moclobemide

Manerix

MAOI cildroadwy

  • tabledi

2 i 4 awr

  • yn cynnwys lactos
  • angen cyfyngiadau bwyd

nortriptyline

Allegron

cyffuriau tricylchol

  • tabledi
  • capsiwlau
  • hylif

oddeutu 36 awr

  • tabledi a chapsiwlau yn cynnwys lactos
  • capsiwlau yn cynnwys gelatin

paroxetine

Seroxat

SSRI

  • tabledi
  • hylif

oddeutu 24 awr

  • gall y tabledi cynnwys lactos

phenelzine

Nardil

MAOI

  • tabledi

11 i 12 awr (gall yr effeithiau bara 2 i 3 wythnos ar ôl diddyfnu)

  • angen cyfyngiadau bwyd

reboxetine

Edronax

arall

  • tabledi

oddeutu 13 awr

amherthnasol

sertraline

Lustral

SSRI

  • tabledi

22 i 36 awr

amherthnasol

tranylcypromine

Parnate

MAOI

  • tabledi

oddeutu 2 awr (gall yr effeithiau bara tua 2 wythnos ar ôl diddyfnu)

  • yn cynnwys gelatin
  • angen cyfyngiadau bwyd

trazodone

Molipaxin

arall

  • tabledi
  • capsiwlau
  • hylif

5 i 13 awr

  • tabledi a chapsiwlau yn cynnwys lactos
  • capsiwlau yn cynnwys gelatin

trimipramine

Surmontil

cyffuriau trichylchol

  • tabledi
  • capsiwlau

oddeutu 23 awr

  • yn cynnwys lactos
  • capsiwlau yn cynnwys gelatin

venlafaxine

Alventa XL, Amphero XL, Depefex XL, Efexor XL, Foraven XL, Majoven XL, Politid XL, Sunveniz XL, Tonpular XL, Venaxx XL, Vencarm XL Venladex XL, Venlablue XL,  Venlalic XL, Venlasoz XL, Vensir XL, Venzip XL, ViePax XL

SNRI

  • tabledi
  • capsiwlau
  • toddiant trwy'r geg

4 i 7 awr

  • gall gynnwys lactos
  • gall gynnwys gelatin

vortioxetine

Brintellix

arall

  • tabledi
  • diferion trwy'r geg
oddetu 66 awr  amherthnasol

Cymharu cyffuriau gwrth-iselder fesul math

Drag or scroll this table to view full contents

Cymharu cyffuriau gwrth-iselder yn ôl hanner oes

Gweler ein tudalen ar hanner oes am wybodaeth am yr hyn mae'n ei olygu a pham ei fod yn bwysig.

Mae rhai MAOIs, a elwir yn 'MAOIs anwrthdroadwy', yn gweithio mewn ffordd wahanoli gyffuriau gwrth-iselder eraill. Maent yn achosi newidiadau i gemeg eich ymennydd a all bara am sawl wythnos ar ôl i chi roi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth. Mae hyn yn golygu gall eu heffeithiau bara am ychydig wythnosau'n hirach na hanner oes biolegol y cyffur.

Y MAOIs anwrthdroadwy sydd wedi'u cynnwys isod yw isocarbocsasid, ffenelsin a thranylcypromin.

Drag or scroll this table to view full contents
Hanner-oes Enw cyffuriau
1 i 2 awr agomelatine
oddeutu 2 awr (gall yr effeithiau bara tua 2 wythnos ar ôl diddyfnu) tranylcypromine
2 i 4 awr moclobemide
4 i 7 awr venlafaxine
5 i 13 awr trazodone
6 i 39 awr mianserin
8 i 17 awr duloxetine
9 i 25 awr amitriptyline
11 i 12 awr (gall yr effeithiau bara 2–3 wythnos ar ôl diddyfnu) phenelzine
12 i 24 awr lofepramine
12 i 36 awr clomipramine
oddeutu 13 awr reboxetine
17 i 22 awr fluvoxamine
oddeutu 19 awr imipramine
20 i 40 awr mirtazapine
22 i 36 awr sertraline
oddeutu 23 awr trimipramine
oddeutu 24 awr paroxetine
oddeutu 30 awr escitalopram
33 i 80 awr (1.5 i 3.3 diwrnod)  doxepin
oddeutu 36 awr citalopram
oddeutu 36 awr (gall yr effeithiau bara 2- 3 wythnos ar ôl diddyfnu) isocarboxazid
oddeutu 36 awr nortriptyline
oddeutu 50 awr (ychydig dros 2 ddiwrnod) dosulepin
oddeutu 66 awr vortioxetine
96 i 144 awr (4 i 6 diwrnod) fluoxetine

 

Cymharu cyffuriau gwrth-iselder yn ôl ystyriaethau deietegol

Efallai y bydd gan rai brandiau o gyffuriau unigol gyfyngiadau deietegol eraill nad ydynt wedi’u rhestru yn y tablau isod. Os ydych yn pryderu am hyn, gallwch wirio’r daflen wybodaeth i gleifion (PIL) sydd wedi’i chynnwys yn y blwch gyda’ch meddyginiaeth. Bydd y daflen yn cynnwys rhestr lawn o gynhwysion eich meddyginiaeth.

Drag or scroll this table to view full contents
Ystyriaeth dietegol Cyffuriau y mae hyn yn berthnasol iddynt
Yn cynnwys lactos
Yn cynnwys gelatin
Angen cyfyngiadau bwyd

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig