Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrth-iselder

Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Pa effeithiau diddyfnu y gall cyffuriau gwrth-iselder eu hachosi?

Gall pob cyffur gwrth-iselder achosi effeithiau diddyfnu. Mae’r rhain yn symptomau a all ddigwydd pan fyddwch yn lleihau eich dos neu’n rhoi’r gorau i gymryd y cyffur.

Mae’r dudalen hon yn rhestru rhai o’r effeithiau diddyfnu posibl ar gyfer gwahanol fathau o gyffuriau gwrth-iselder. Ni fyddwch o reidrwydd yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn, ond mae llawer o bobl yn cael rhai ohonynt:

Effeithiau diddyfnu SSRIs ac SNRIs

Symptomau a all deimlo’n newydd i chi

  • pendro neu fertigo
  • teimladau fel sioc drydanol yn y pen
  • symptomau tebyg i’r ffliw
  • problemau gyda symud, megis problemau gyda chydbwysedd neu gerdded, neu symudiadau anfwriadol
  • aflonyddwch synhwyraidd, fel arogli rhywbeth nad yw yno
  • crampiau stumog
  • breuddwydion rhyfedd
  • tinitws (canu yn yr clustiau)

Symptomau a allai deimlo fel eich problem wreiddiol

Effeithiau diddyfnu cyffuriau trichylchol

  • gorbryder
  • curiad calon cyflym neu afreolaidd
  • symptomau tebyg i ffliw, fel cyhyrau poenus, oerfel, cur pen, cyfog (teimlo’n sâl) a chwysu
  • anhunedd (methu cysgu)
  • pwysedd gwaed isel
  • problemau gyda symud, megis problemau gyda chydbwysedd neu gerdded, neu symudiadau anfwriadol
  • aflonyddwch
  • orgasm digymell
  • breuddwydion rhyfedd

Effeithiau diddyfnu MAOIs

  • cynnwrf
  • anhawster meddwl
  • cwsg aflonydd
  • cysgadrwydd eithafol
  • rhith-weld pethau
  • anniddig
  • profiadau seicotig, megis lledrithiau paranöig
  • problemau symud
  • breuddwydion rhyfedd
  • ansefydlogrwydd

Roeddwn i’n poeni am fethu â rhoi’r gorau iddyn nhw… Gwnaeth fy meddyg fy helpu i ddod oddi arnyn nhw mewn ffordd reoledig, ac ar wahân i un bennod anodd yn union ar ôl i mi roi’r gorau i’w cymryd, rydw i wedi bod yn eithaf da ers hynny.

A all newid cyffuriau gwrth-iselder helpu gyda diddyfnu?

Os ydych chi wedi bod yn cymryd cyffur gyda hanner oes byr, efallai y byddwch yn cael problemau gyda symptomau diddyfnu. Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn bosibl i chi newid i gyffur tebyg, ond gyda hanner oes hirach. Efallai y bydd y cyffur hwn yn haws i chi roi’r gorau iddo. Er enghraifft, gall hyn fod yn newid o SSRI gyda hanner oes byr i SSRI arall gyda hanner oes hirach.

I gymharu hanner oes yr holl gyffuriau gwrth-iselder, gweler ein tudalen ar gymharu cyffuriau gwrth-iselder.

Pan feddyliais y dylwn i drio ymdopi heb y cyffur gwrth-iselder, ni lwyddais i roi’r gorau iddyn nhw, a oedd yn rhywbeth yr oeddwn i’n hynod o lym ar fy hun yn ei gylch… Bûm arnyn nhw wedyn nes roeddwn i wedi bod yn iach am nifer o flynyddoedd, ac yna, gyda chymorth fy meddyg teulu, lleihawyd y feddyginiaeth a medrais roi’r gorau iddyn nhw.

Mwy o wybodaeth am effeithiau diddyfnu

Gallwch gael gwybodaeth am effeithiau diddyfnu cyffuriau gwrth-iselder penodol o restr A–Z o gyffuriau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF). Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg neu fferyllydd am unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych am effeithiau diddyfnu cyffuriau gwrth-iselder.

Ar ein tudalennau ar roi’r gorau i feddyginiaeth seiciatrig, cewch ragor o wybodaeth am roi’r gorau i’ch meddyginiaeth. Mae hyn yn cynnwys help i wneud y penderfyniad p’un ai i roi’r gorau, a sut i roi’r gorau i’ch meddyginiaeth yn ddiogel. Os penderfynwch roi’r gorau i’ch meddyginiaeth, mae ein tudalen ar ddewisiadau amgen i gyffuriau gwrth-iselder yn rhoi syniadau ar reoli eich iechyd meddwl heb feddyginiaeth.

Cofiwch: eich penderfyniad chi yw parhau neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth, ac mae gennych yr hawl i newid eich meddwl.

 

Pum awgrym ar gyfer pryd yr hoffech roi’r gorau i’ch meddyginiaeth

Gwyliwch Katherine o’n tîm gwybodaeth yn rhoi ei phum awgrym gwych ar gyfer pryd i roi’r gorau i’ch meddyginiaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig