Cyffuriau gwrth-iselder
Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Pa sgil-effeithiau y gall cyffuriau gwrth-iselder eu hachosi?
Mae gan bob cyffur gwrth-iselder sgil-effeithiau posibl. Mae’r rhain yn amrywio rhwng y gwahanol fathau o gyffuriau gwrth-iselder, a rhwng pob cyffur unigol. Mae’r dudalen hon yn cwmpasu’r canlynol:
- Pa sgil-effeithiau all gael eu hachosi gan bob math o gyffur gwrth-iselder?
- Sut gallai’r sgil-effeithiau hyn effeithio arnaf i?
Mae rhai o’r sgil-effeithiau a restrir isod yn eithaf cyffredin, ond mae eraill yn brin. Efallai na fyddwch yn gweld llawer o’r effeithiau hyn. Efallai y byddwch hefyd yn gweld rhai sgil-effeithiau pan fyddwch yn dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder, ond yn eu teimlo’n llai ar ôl ychydig wythnosau.
Chi sydd i benderfynu a oes gan y cyffur gwrth-iselder fwy o fanteision i chi nag unrhyw sgil-effeithiau negyddol. Dylai eich meddyg allu eich helpu gyda’r penderfyniad hwn. Efallai y gall ein tudalennau ar ymdopi â sgil-effeithiau a chael y feddyginiaeth gywir helpu hefyd.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffuriau gwrth-iselder unigol o restr A–Z o gyffuriau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF). Fel arall, gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd am unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych am sgil-effeithiau.
Cymerodd amser hir i mi gymryd SSRI, yn bennaf gan fy mod wedi fy nychryn gan y sgil-effeithiau a restrwyd, ond gwnaeth fy meddyg fy argyhoeddi o’r diwedd bod fy iselder yn llawer gwaeth [na’r sgil-effeithiau].
Pa sgil-effeithiau all gael eu hachosi gan bob math o gyffur gwrth-iselder?
Dyma’r sgil-effeithiau y gall pob math o gyffuriau gwrth-iselder eu hachosi. Mae’r rhestrau’n mynd o’r rhai mwyaf cyffredin ar y brig i’r lleiaf cyffredin ar y gwaelod ar gyfer pob math o gyffur gwrth-iselder, gyda dolenni i ragor o wybodaeth isod:
SSRIs ac SNRIs
Effeithiau gwrthfysgarinig
Sgil-effeithiau a achosir gan newidiadau i lefel y cemegyn asetylcolin yn eich corff yw effeithiau gwrthfysgarinig. Weithiau gelwir yr effeithiau hyn yn effeithiau gwrthgolinergig.
Os yw lefel eich asetylcolin yn newid, gall hyn gael effeithiau ar draws y corff. Mae’r effeithiau hyn yn cynnwys:
- golwg aneglur
- dryswch a chynnwrf
- rhwymedd, a all fygwth bywyd os na chaiff ei drin
- anhawster gwneud dŵr
- cysgadrwydd
- ceg sych, a all achosi pydredd dannedd yn y tymor hir
- trafferthion cael codiad
- rhith-weld pethau
- croen poeth neu sych, a chwysu llai
- pwysedd cynyddol yn y llygad
- pwysedd gwaed isel (mae cymryd bàth poeth yn cynyddu’r risg hon)
- cyfog (teimlo’n sâl)
- curiad calon cyflym a rhythm calon cynhyrfus
Gwaedu gastroberfeddol
Sgil-effaith brin rhai cyffuriau gwrth-iselder SSRI yw gwaedu y tu mewn i’ch system gastroberfeddol, sy’n cynnwys eich stumog a’ch coluddion.
Mae’r risg o waedu gastroberfeddol yn uwch ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig pobl dros 80 oed. Os ydych chi dros 80 oed, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi cyffur gwrth-iselder gwahanol i chi er mwyn osgoi’r risg hon.
Hypomania neu fania
Gall cyffuriau gwrth-iselder sbarduno hypomania neu fania mewn rhai pobl. Gall hyn ddod i ben os byddwch yn rhoi’r gorau i gymryd y cyffur gwrth-iselder. Ond, weithiau gall fod yn arwydd o anhwylder deubegynol. Yn yr achos hwn, efallai y cewch ddiagnosis newydd a meddyginiaeth wahanol.
Ar ein tudalen ar gael eich llais wedi’i glywed, mae awgrymiadau ar gyfer trafod eich diagnosis gyda’ch meddyg os ydych yn teimlo nad yw’n cyd-fynd â’ch profiad o iechyd meddwl.
Syndrom malaen cyffuriau niwroleptig (NMS)
Mae NMS yn anhwylder niwrolegol prin ond difrifol, sy’n golygu ei fod yn effeithio ar eich system nerfol.
Mae fel arfer yn digwydd fel sgil-effaith cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Ond, gall ddigwydd weithiau gyda chyffuriau gwrth-iselder. Os bydd yn digwydd, mae fel arfer yn datblygu’n gyflym dros 24 i 72 awr.
Symptomau NMS yw:
- chwysu neu dwymyn, gyda thymheredd uchel
- cryndod (ysgwyd), anhyblygedd (teimlo’n anystwyth a methu symud eich cyhyrau) neu golli symudiad
- anhawster siarad a llyncu
- curiad calon cyflym, anadlu cyflym iawn a newidiadau mewn pwysedd gwaed
- newidiadau mewn ymwybyddiaeth, gan gynnwys dryswch, syrthni neu fynd i goma
Tymheredd uchel ac anhyblygedd fel arfer yw’r symptomau cyntaf i ymddangos. Mae hyn yn golygu y gall NMS weithiau gael ei ddrysu â haint. Ond gall NMS fod yn beryglus iawn os na chaiff ei ganfod a’i drin. Mewn achosion prin, gall fod yn angheuol.
Os ydych yn poeni y gallai fod gennych symptomau NMS, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu ar frys neu ffonio 999 am ambiwlans.
Beth yw’r driniaeth ar gyfer NMS?
Os bydd gennych NMS, mae’n debyg y bydd angen triniaeth arnoch yn yr ysbyty, lle gall meddygon atal eich meddyginiaeth a lleihau eich twymyn.
Defnyddir rhai dulliau eraill o drin, er nad yw’r dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r rhain mor gryf. Gall y dulliau hyn gynnwys defnyddio’r canlynol:
- meddyginiaeth i ymlacio’ch cyhyrau
- meddyginiaeth i wrthsefyll yr effeithiau cemegol y credir iddynt achosi NMS
- therapi electrogynhyrfol (ECT)
Gall y symptomau bara am ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, ar ôl rhoi’r gorau i’r feddyginiaeth sy’n eu hachosi. Mae llawer o bobl sydd wedi cael NMS unwaith yn mynd ymlaen i’w gael eto.
Os bydd gennych NMS, dim ond os ydyn nhw’n hanfodol i’ch iechyd meddwl y dylech gymryd cyffuriau gwrth-iselder wedi hynny. Yn ogystal, dylech gael y dos isaf posibl sy’n dal i roi’r effeithiau cadarnhaol.
Syndrom serotonin
Mae hwn yn gyflwr prin ond difrifol a all fod yn angheuol. Gall ddigwydd gydag unrhyw gyffur gwrth-iselder, ond mae’n fwy tebygol gydag SSRI. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych yn cymryd SSRI ochr yn ochr â rhai cyffuriau eraill, megis cyffur gwrth-iselder arall neu lithiwm.
Dyma rai o symptomau mwyaf cyffredin syndrom serotonin. Os cewch y symptomau hyn, dylech ofyn am gyngor ar unwaith gan eich meddyg teulu neu arbenigwr sy’n ymwneud â’ch gofal. Gallwch hefyd gysylltu â GIG 111 yn Lloegr neu GIG 111 Cymru neu Galw Iechyd Cymru (0845 46 47) yng Nghymru am gyngor meddygol brys:
- cur pen
- cyfog (teimlo’n sâl)
- dolur rhydd
- tymheredd uchel, crynu a chwysu
- cryndodau, cyhyrau’n plycio ac atgyrchau gor-ymatebol
- cynnwrf, dryswch a rhith-weld pethau
- curiad calon cyflym a phwysedd gwaed uchel
Mae’r rhain yn rhai o symptomau prin NMS, ond os cewch chi nhw mae’n argyfwng meddygol. Os oes gennych y symptomau hyn, dylech chi neu rywun arall ffonio 999 a gofyn am ambiwlans i fynd â chi i’r ysbyty:
- confylsiynau (ffitiau)
- curiad calon afreolaidd (arhythmia)
- coma (colli ymwybyddiaeth)
Mae gan y GIG dudalen ar sgil-effeithiau cyffuriau gwrth-iselder sy’n cynnwys gwybodaeth am syndrom serotonin a beth i’w wneud os cewch symptomau.
Problemau rhywiol
Mae problemau rhywiol yn sgil-effeithiau posibl cyffuriau gwrth-iselder. Mae’r symptomau’n amrywio ar gyfer gwahanol bobl, ond gallant gynnwys y canlynol:
- oedi mewn cael orgasm
- methu â chael orgasm
- orgasm digymell
- oedi cyn bwrw had
- llai o awydd rhywiol
Os oes gennych chi bidyn, efallai y byddwch yn cael y problemau canlynol:
- codiad yn methu
- priapaeth (codiad poenus sy’n para am sawl awr) Os cewch chi briapaeth, mae angen sylw meddygol brys. Cysylltwch â’ch meddyg teulu am apwyntiad brys neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys.
Weithiau gall y sgil-effeithiau hyn barhau ar ôl i chi roi’r gorau i’r cyffur, efallai am beth amser. Os bydd eich sgil-effeithiau yn para am gyfnod, efallai y byddwch am adrodd amdanynt gan ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn
Syndrom secretu hormon gwrthddiwretig yn amhriodol (SIADH)
Mae SIADH yn sgil-effaith rhai cyffuriau gwrth-iselder. Mae’n digwydd yn bennaf gyda chyffuriau trichylchol, SSRIs ac SNRIs. Mae’n sgil-effaith brin ond difrifol a all fod yn angheuol.
Fasopresin yw un o’r hormonau sy’n rheoli cynhyrchu wrin yn eich corff. Fe’i gelwir hefyd yn hormon gwrthddiwretig. Mae SIADH yn gwneud i’ch corff secretu gormod o fasopresin. Mae hyn yn achosi i’ch corff ddal gafael ar ddŵr, sy’n gostwng lefel y sodiwm yn eich corff.
Gelwir y cyflwr hwn yn hyponatremia. Gall arwain at y canlynol:
- dryswch
- confylsiynau (ffitiau)
- rhith-weld pethau
- coma (colli ymwybyddiaeth)
- problemau cof, anhawster canolbwyntio, cysgadrwydd a chwympo. Mae hyn yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf.
Teimladau am ladd eich hun
Mae posibilrwydd y gallai cymryd cyffur gwrth-iselder wneud i chi deimlo eich bod am ladd eich hun. Gall ddigwydd hyd yn oed os nad oeddech wedi profi teimladau hunanladdol o’r blaen.
Daw’r sgil-effaith hon yn bennaf gyda chyffuriau gwrth-iselder SSRI. Fodd bynnag, mae’n risg sy’n dod gyda phob cyffur gwrth-iselder.
Mae rhai pobl yn credu y gallai cyffuriau gwrth-iselder eich gwneud yn fwy tebygol o weithredu ar deimladau hunanladdol. Mae hyn oherwydd bod cyffuriau gwrth-iselder yn gallu cynyddu eich lefelau egni a chymhelliant, a all fod yn isel iawn tra byddwch yn isel eich ysbryd. Yn gynnar yn eich triniaeth, efallai y bydd gennych fwy o egni a chymhelliant cyn i’ch teimladau o iselder ddechrau codi. Gallai hyn olygu bod gennych ddigon o egni i weithredu ar gymhellion hunanladdol.
Dim ond damcaniaeth yw hon. Nid llawer o bobl sy’n cymryd cyffuriau gwrth-iselder sy’n profi teimladau hunanladdol. Os cewch y teimladau hyn, nid yw bob amser yn golygu y byddwch yn gweithredu arnynt.
Er hyn, mae’n dal yn bwysig cael cymorth. Gallwch siarad â’ch meddyg am sut yr ydych yn teimlo. Gallwch hefyd droi at ein tudalen ar driniaeth a chefnogaeth ar gyfer teimladau hunanladdol am ffyrdd eraill o gael cymorth.
Pydredd dannedd ac iechyd y geg
Gall unrhyw gyffuriau sy’n achosi ceg sych hefyd achosi pydredd dannedd os byddwch yn eu cymryd am amser hir. Gyda chyffuriau gwrth-iselder trichylchol y mae’r sgil-effaith hon yn fwyaf cyffredin.
Gallwch siarad â’ch deintydd os ydych yn pryderu am hyn. Gall y deintydd roi cyngor ar sut i ofalu am eich dannedd ac iechyd y geg tra byddwch yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.