Cyffuriau gwrth-iselder
Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Beth yw’r dewisiadau amgen i gyffuriau gwrth-iselder?
Os nad ydych am gymryd cyffuriau gwrth-iselder, mae llawer o driniaethau amgen y gallwch roi cynnig arnynt. Mewn gwirionedd, os cewch ddiagnosis o iselder ysgafn, mae canllawiau ar gyfer trin iselder y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod meddygon yn cynnig triniaethau eraill i chi cyn meddyginiaeth.
Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder, efallai y byddwch hefyd am ddefnyddio opsiynau eraill o ran triniaeth a chymorth, yn ogystal â’ch meddyginiaeth.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am rai o’r dewisiadau amgen cyffredin i gyffuriau gwrth-iselder. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi eu defnyddio yn lle eich meddyginiaeth, neu ochr yn ochr â nhw:
Therapïau siarad
Mae canllawiau NICE ar gyfer trin iselder yn argymell bod meddygon yn cynnig math o therapi siarad neu gwnsela i chi. Yn aml, therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) fydd hyn. Gellir cynnig therapi yn lle cyffuriau gwrth-iselder, neu yn ychwanegol atynt.
Gweler ein tudalennau ar therapi siarad a chwnsela am wybodaeth am y mathau eraill o therapi sydd ar gael.
Ymwybyddiaeth ofalgar
Ffordd o roi eich sylw llawn i’r foment bresennol yw ymwybyddiaeth ofalgar. Mae rhai astudiaethau’n dangos y gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar helpu i reoli iselder.
Mae rhai therapïau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar strwythuredig hefyd wedi’u datblygu i drin problemau iechyd meddwl yn fwy ffurfiol. Er enghraifft, mae NICE yn argymell therapi gwybyddol yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer rheoli iselder.
Therapïau celfyddydol a chreadigol
Mae therapïau celfyddydol a chreadigol yn eich helpu i fynegi eich teimladau trwy bethau fel paentio, gwaith clai, cerddoriaeth neu therapi drama. Gallant eich helpu i ymdrin â’ch symptomau, yn enwedig os ydych yn ei chael yn anodd siarad am sut yr ydych yn teimlo.
Ecotherapi
Math o driniaeth therapiwtig sy’n cynnwys gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur yw ecotherapi. Gall hyn gynnwys gweithio ar brosiect cadwraeth neu arddio. Gallwch hefyd gerdded neu feicio trwy goetir neu ardaloedd eraill byd natur.
Therapïau cyflenwol ac amgen
Mae rhai pobl yn gweld bod therapïau cyflenwol ac amgen yn helpu i reoli eu symptomau. Er enghraifft, gall hyn fod yn aromatherapi, adweitheg neu aciwbigo. Gall therapïau cyflenwol hefyd helpu i reoli rhai o sgil-effeithiau meddyginiaeth, os penderfynwch barhau â nhw.
Gall rhai meddyginiaethau llysieuol ryngweithio â chyffuriau gwrth-iselder a mathau eraill o feddyginiaeth. Felly os ydych yn ystyried cymryd meddyginiaeth lysieuol ochr yn ochr ag unrhyw feddyginiaeth, siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd i weld a ydyw hyn yn ddiogel.
Eurinllys
Defnyddir eurinllys weithiau fel meddyginiaeth lysieuol i drin symptomau iselder a gorbryder. Mae ar gael i’w brynu heb fod angen presgripsiwn.
Mae peth ansicrwydd ynghylch effeithiau eurinllys, yn ogystal â’r dos cywir i’w gymryd a sut y mae’n rhyngweithio â meddyginiaethau eraill. Mae’n well ceisio cyngor gan eich meddyg cyn ei gymryd, yn enwedig os ydych eisoes yn cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth.
Cefnogaeth gan gymheiriaid
Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn eich galluogi i wneud cysylltiadau â phobl sydd â phrofiadau tebyg i’ch rhai chi. Os hoffech roi cynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid, gallech wneud y canlynol:
- cysylltu â llinell wybodaeth Mind neu gangen Mind yn lleol i weld pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal chi
- rhoi cynnig ar gymuned cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein, megis y gymuned Side by Side gan Mind
Yr hyn sy’n fy helpu i yw rhedeg, deiet iach a Pilates. Mae gen i hefyd ffrindiau a grŵp cymorth dwi’n ymddiried ynddyn nhw.
Gofalu am eich iechyd corfforol
- Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei fwyta a’i yfed. Gall bwyta deiet cytbwys a maethlon helpu i reoli rhai o’ch symptomau. Gall yfed digon o ddŵr hefyd helpu eich lles meddyliol. Gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau am ragor o wybodaeth. Os oes gennych berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, gall ein tudalennau ar broblemau bwyta helpu.
- Ceisiwch fod yn fwy egnïol. Mae llawer o bobl yn gweld bod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i godi eu hwyliau, yn rhoi hwb i’w lefelau egni, ac yn cadw eu traed ar y ddaear. Gweler ein tudalennau ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl am ragor o wybodaeth.
- Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cael digon o gwsg deimlo’n anodd weithiau. Fodd bynnag, mae cael digon o gwsg da yn ddefnyddiol iawn i’ch iechyd meddwl. Gweler ein tudalennau ar broblemau cysgu am ragor o wybodaeth.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.