Cyffuriau gwrth-iselder
Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.
View this information as a PDF (new window)
Cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Mae’r dudalen hon yn cwmpasu’r canlynol:
Datblygais iselder ôl-enedigol difrifol ac OCD dim ond tri diwrnod ar ôl genedigaeth fy merch. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu gadael y tŷ ac roeddwn i’n meddwl am ladd fy hun… Helpodd fy meddyginiaeth gwrth-iselder yn fawr, a rhoddodd yr arf i mi fedru meddwl eto. Dwi wir yn teimlo ei bod wedi achub fy mywyd.
Beth yw risgiau a manteision cymryd cyffuriau gwrth-iselder wrth fod yn feichiog neu’n bwydo ar y fron?
Mae yna rai risgiau o gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd neu wrth fwydo ar y fron. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Namau geni posibl. Mae tystiolaeth bod cymryd SSRIs yn gynnar yn y beichiogrwydd yn cynyddu ychydig ar y risg y bydd eich babi’n datblygu namau ar y galon, spina bifida neu wefus hollt.
- Mwy o risg o gamesgor a genedigaeth gynamserol.
- Risg ychydig yn uwch o golli gwaed ar ôl genedigaeth. Os byddwch yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder SSRI neu SNRI yn y mis cyn rhoi genedigaeth, mae cynnydd bach yn eich risg o waedu’n drwm yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl geni (a elwir yn waedlif ôl-enedigol).
- Symptomau diddyfnu yn eich babi newydd-anedig. Mae cymryd unrhyw gyffur gwrth-iselder yn hwyr yn y beichiogrwydd yn peri risg y bydd eich babi newydd-anedig yn cael symptomau diddyfnu. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys:
- Gydag SSRIs ac SNRIs: crynu, ffyrfder cyhyrau gwael, methu â chrio’n uchel, anhawster anadlu, siwgr gwaed isel (a all achosi ffitiau), a phwysedd gwaed uchel yn yr ysgyfaint.
- Gyda chyffuriau trichylchol: curiad calon cyflym, anniddigrwydd, sbasmau cyhyrau, bod yn aflonydd, diffyg cwsg, twymyn a ffitiau.
- Os ydych yn bwydo ar y fron, gall cyffuriau gwrth-iselder gael eu trosglwyddo i’ch babi trwy laeth y fron. Mae’n bosibl y gallai’r lefelau ddod yn ddigon uchel i’ch babi gael sgil-effeithiau o’r feddyginiaeth.
- Os ydych yn dymuno bwydo ar y fron, dylech osgoi cymryd docsepin (sinepin).
- Nid yw cyffuriau fel arfer yn cael eu profi’n glinigol ar unrhyw un sy’n feichiog. Nid oes llawer o dystiolaeth ynghylch pa mor ddiogel yw cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd. Mae gan gyffuriau mwy newydd fwy o risgiau ‘na wyddys amdanynt’ na chyffuriau sydd wedi bod o gwmpas yn hirach. Mae hyn oherwydd bod gwyddonwyr wedi cael llai o amser i gasglu tystiolaeth amdanynt.
Gall fod manteision hefyd i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod y cyfnod hwn:
- Efallai eich bod eisoes yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder pan fyddwch yn feichiog. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n bryderus ynghylch mynd yn anhwylus neu’n methu ag ymdopi os byddwch yn rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder. Gall hyn olygu eich bod yn penderfynu mai’r peth gorau i chi a’ch babi yw parhau i’w cymryd, fel eich bod yn ddigon iach i ofalu am eich babi.
- Neu efallai y cewch gynnig cyffuriau gwrth-iselder i helpu i drin problem y byddwch yn ei datblygu yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl rhoi genedigaeth, megis iselder ôl-enedigol neu gynenedigol.
Gall eich meddyg eich helpu i gydbwyso’r risgiau posibl i’ch baban yn erbyn manteision cymryd eich meddyginiaeth. Mae hyn i’ch helpu i wneud eich penderfyniad eich hun ynghylch yr hyn sydd orau i chi. Fodd bynnag, mae’n ddealladwy os ydych yn teimlo’n ansicr am hyn. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi geisio cymorth pellach yn ystod yr amser hwn.
Pan es i’n feichiog, roeddwn i’n ofnus o fethu â gofalu am blentyn yn y cyflwr meddwl yr oeddwn i ynddo. Felly, rhoddais gynnig ar gyffuriau gwrth-iselder. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth gystal ag y gallwn ar ôl eu cael.
Beth alla i ei wneud i deimlo bod gennyf fwy o reolaeth?
Gall bod yn feichiog deimlo weithiau fel eich bod yn rhoi’r gorau i reolaeth ar eich corff eich hun. Gall hyn achosi straen, ond mae llawer o gamau cadarnhaol y gallwch eu cymryd:
- Mae cynllunio eich beichiogrwydd yn rhoi mwy o opsiynau i chi yn gynnar. Mae hefyd yn brofiad cyffredin i ddarganfod eich bod yn feichiog heb ei gynllunio. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae’n bwysig cofio bod gennych yr un hawliau â phawb arall. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i ddewis a ddylech cymryd meddyginiaeth ai peidio, ac i ddweud eich dweud mewn penderfyniadau am eich triniaeth.
- Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gynted ag y gallwch. Gallai hyn fod gyda’ch meddyg neu fydwraig, neu arbenigwr iechyd meddwl. Po gynharaf y dechreuwch siarad â rhywun am eich opsiynau, y mwyaf mewn rheolaeth y byddwch yn debygol o deimlo. Ar gyfer beichiogrwydd a gynlluniwyd, mae hyn cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu eich bod am ddechrau ceisio beichiogi. Ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio, mae hyn cyn gynted ag y credwch y gallech fod yn feichiog.
- Ceisiwch gymorth pellach, i drafod eich opsiynau a phenderfynu’r hyn sy’n iawn i chi.
- Os penderfynwch aros ar eich meddyginiaeth, gofynnwch i’ch meddyg sut y gallwch leihau unrhyw risgiau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu rheoli eich symptomau yn effeithiol ar ddos llai.
- Os byddwch yn penderfynu rhoi’r gorau i’ch meddyginiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wneud yn ddiogel. Gweler ein tudalennau ar roi’r gorau i’ch meddyginiaeth am ragor o wybodaeth. Mae gwybodaeth am opsiynau triniaeth a chymorth eraill ar gyfer eich iechyd meddwl ar ein tudalen ar ddewisiadau amgen i gyffuriau gwrth-iselder.
Cymorth pellach yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Gall fod yn anodd dod i benderfyniad yr ydych chi’n teimlo’n gyfforddus ag ef am yr hyn sy’n iawn i chi a’ch baban. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi archwilio’r opsiynau hyn am gymorth ychwanegol:
- Siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo. Os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny, gall helpu i drafod eich teimladau gyda rhywun fel partner neu ffrind agos.
- Apwyntiadau bydwraig. Gallwch siarad â’ch bydwraig am sut yr ydych yn teimlo trwy gydol eich beichiogrwydd. Gall bydwraig hefyd helpu i sicrhau eich bod yn cael digon o gymorth gan eich ymwelydd iechyd ar ôl i chi roi genedigaeth. Ar ein tudalen ar siarad â’ch meddyg teulu, ceir awgrymiadau o ran cael sgyrsiau am eich iechyd meddwl gydag unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol, gan gynnwys eich bydwraig. Dylai eich meddyg fod mewn cysylltiad â’ch bydwraig a’ch tîm cyn geni drwy gydol eich beichiogrwydd.
- Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig cymorth i’ch helpu i gadw’n iach yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch gael eich cyfeirio at y gwasanaethau hyn gan weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’ch gofal, fel eich meddyg.
- Cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein. Gall fod yn ddefnyddiol siarad â phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg i’ch rhai chi. Mae gan Netmums rwydwaith ar-lein cefnogol ar gyfer pob rhiant a darpar riant. Gallwch hefyd siarad am eich profiadau ag eraill ar gymuned ar-lein gefnogol Mind, sef Side by Side. Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl ar-lein i gael gwybodaeth am ddefnyddio’r rhyngrwyd os ydych yn teimlo’n agored i niwed.
- Sefydliadau arbenigol. Gall sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant a’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron hefyd ddarparu gwybodaeth a chymorth ar feichiogrwydd, bwydo ar y fron ac iechyd meddwl.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein tudalennau ar fod yn rhiant â phroblem iechyd meddwl. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ofalu amdanoch eich hun, gofalu am eich plant, a mathau eraill o gymorth sydd ar gael i rieni. Gall ein gwybodaeth ar broblemau iechyd meddwl amenedigol hefyd helpu.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.