Cyffuriau gwrth-iselder
Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Sut gall cyffuriau gwrth-iselder fy helpu?
Ar y dudalen hon:
Os ydych yn teimlo iselder
Os ydych yn teimlo iselder, gallwch wynebu’r canlynol:
- teimlo’n isel iawn llawer o’r amser
- diffyg mwynhad bellach yn y pethau yr ydych yn eu mwynhau fel arfer
- ei chael yn anodd siarad â phobl am sut yr ydych yn teimlo
- ei chael yn anodd gofalu amdanoch eich hun a chyflawni tasgau o ddydd i ddydd
- hunan-niweidio neu gael teimladau hunanladdol, yn enwedig os oes gennych iselder difrifol
Gall cymryd cyffuriau gwrth-iselder helpu i godi eich hwyliau. Gall hyn eich helpu i deimlo’n fwy abl i wneud pethau nad ydynt yn teimlo’n bosibl tra’ch bod yn isel eich ysbryd. Gall hyn gynnwys defnyddio mathau eraill o gymorth ar gyfer eich iechyd meddwl. Gweler ein tudalen ar driniaethau ar gyfer iselder i ddod o hyd i opsiynau eraill a allai fod o gymorth.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cynhyrchu canllawiau ar yr arferion gorau mewn gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer rhoi cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn i bobl â lefelau gwahanol o iselder. Mae’r canllawiau hyn yn awgrymu’r canlynol:
- Os cewch ddiagnosis o iselder difrifol, mae eich meddyg yn fwy tebygol o gynnig cyffur gwrth-iselder i chi. Mae hyn oherwydd bod cyffuriau gwrth-iselder yn fwy tebygol o fod yn effeithiol ar gyfer iselder difrifol. Efallai y cynigir cyffuriau gwrth-iselder i chi ochr yn ochr â thriniaethau eraill.
- Os cewch ddiagnosis o iselder ysgafn i gymedrol, mae eich meddyg yn debygol o gynnig triniaethau eraill cyn cyffuriau gwrth-iselder. Er enghraifft, gallai hyn fod yn therapi siarad megis therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Mae canllawiau NICE yn argymell nad cyffuriau gwrth-iselder yw’r driniaeth gyntaf na’r brif driniaeth ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol. Mae hyn oherwydd y gall sgil-effeithiau annymunol y feddyginiaeth fod yn fwy na’r buddion.
- Efallai y bydd rhai meddygon yn cynnig cyffuriau gwrth-iselder i chi ochr yn ochr â thriniaethau eraill ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol. Neu efallai y byddant yn eu cynnig yn lle triniaethau eraill. Dylai eich meddyg bob amser drafod eich opsiynau gyda chi, i’ch helpu i benderfynu pa driniaeth sy’n gweithio orau i chi. Ar ein tudalen ar yr hyn i feddwl amdano cyn cymryd cyffuriau gwrth-iselder, cewch wybodaeth a allai eich helpu gyda’r penderfyniad hwn.
Os ydych yn teimlo gorbryder
Os oes gennych chi ffurf o orbryder neu ffobia, gallai cyffur gwrth-iselder eich helpu i deimlo’n ddigyffro ac yn fwy abl i ymdrin â phroblemau eraill. Gallai hefyd eich helpu i deimlo’n fwy abl i elwa o driniaethau eraill ar gyfer gorbryder, megis therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).
Unwaith i mi ddechrau cymryd [cyffur gwrth-iselder], dechreuais deimlo’n well. Yna llwyddais i ddechrau gweld seicolegydd a gweithio ar y materion sydd wedi’u gwreiddio’n ddyfnach.
Pa mor fuan y byddant yn dechrau gweithio?
Mae profiad pawb o feddyginiaeth yn wahanol. Mae’r rhan fwyaf o gyffuriau gwrth-iselder yn cymryd wythnos i bythefnos i ddechrau gweithio. Serch hynny, efallai y byddwch yn teimlo rhai buddion yn gynt na hyn, fel cwsg gwell.
Siaradwch â’ch meddyg os nad ydych yn teimlo unrhyw fudd ar ôl cymryd cyffur gwrth-iselder yn rheolaidd am bythefnos neu bedair wythnos, neu os ydych yn teimlo’n waeth. Mae’n bosibl y bydd cyffur gwrth-iselder gwahanol yn fwy addas i chi.
Roeddwn i mewn tipyn o dwll cyn i mi ddechrau fy nghyffuriau gwrth-iselder. Ar ôl brwydro dryw’r pythefnos cyntaf, dechreuais weld y goleuni ar ddiwedd yr hyn a oedd wedi bod yn dwnnel hir iawn.
Sut brofiad yw cymryd cyffuriau gwrth-iselder?
Mae profiad pawb o gyffuriau gwrth-iselder yn wahanol. Gwrandewch ar Chris, Georgia, Mark, Cathy, Rose, Jess a Liz yn adrodd eu storïau yn y fideos hyn.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.