Cyffuriau gwrth-iselder
Mae’r adran hon yn egluro beth yw cyffuriau gwrth-iselder, sut maen nhw’n gweithio, sgil-effeithiau posibl, a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Beth sydd angen i mi ei wybod cyn cymryd cyffuriau gwrth-iselder?
Cyn cymryd cyffuriau gwrth-iselder, efallai y byddwch am wybod am rai o’r risgiau o’u cymryd. Mae gan bob meddyginiaeth ryw fath o risg a gallant effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Ond, mae yna rai rhesymau cyffredin dros fod yn ofalus ynglŷn â chymryd cyffuriau gwrth-iselder.
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- os ydych yn cymryd cyffuriau eraill
- os ydych yn yfed alcohol
- os ydych o dan 18 oed
- os oes gennych rai cyflyrau meddygol penodol
- os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron (gweler ein tudalen ar gymryd cyffuriau gwrth-iselder wrth fod yn feichiog neu’n bwydo ar y fron am ragor o wybodaeth).
Gallwch gael gwybodaeth am risgiau cyffuriau gwrth-iselder penodol o restr A–Z o gyffuriau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF). Efallai y gall ein tudalen ar yr hyn y dylech ei wybod cyn cymryd meddyginiaeth seiciatrig hefyd helpu gyda’r penderfyniad hwn.
Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg neu fferyllydd am unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych ynghylch risgiau gwrth-iselder.
Os ydych yn cymryd cyffuriau eraill
Dylech siarad â’ch meddyg am unrhyw gyffuriau eraill y byddwch yn eu cymryd cyn i chi ddechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon ac unrhyw beth rydych chi wedi’i brynu o’r fferyllfa neu ar-lein, fel cyffuriau lladd poen neu feddyginiaethau llysieuol.
Mae hyn oherwydd y gall gwahanol gyffuriau ryngweithio â’i gilydd, a all weithiau gael effeithiau andwyol ar eich iechyd. Os cymerwch fwy nag un cyffur ar y tro, gall y rhyngweithiadau hefyd wneud sgil-effeithiau pob cyffur yn waeth.
Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sy’n hysbys o ran sut mae meddyginiaethau yn rhyngweithio â chyffuriau gwrth-iselder unigol o restr A–Z y BNF o ryngweithiadau cyffuriau. Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg neu fferyllydd am hyn.
Os ydych yn yfed alcohol
Dylech wirio gyda’ch meddyg neu fferyllydd a ydyw’n ddiogel yfed alcohol gyda’r cyffur gwrth-iselder a roddwyd i chi ar bresgripsiwn.
Mae hyn yn bennaf oherwydd bod alcohol yn rhyngweithio â’r rhan fwyaf o gyffuriau gwrth-iselder. Os byddwch yn yfed alcohol tra byddwch yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder, gall y rhyngweithiad hwn wneud y canlynol:
- gwneud i chi deimlo’n fwy cysglyd nag y byddech chi o gymryd y feddyginiaeth ar ei phen ei hun
- effeithio ar eich gallu i gyflawni rhai tasgau, fel gyrru
- eich gwneud yn fwy tueddol o gwympo a drysu (mae hyn yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf).
Os ydych o dan 18 oed
Os ydych o dan 18 oed, gallai’r wybodaeth hon eich helpu i benderfynu a ydych am gymryd cyffuriau gwrth-iselder:
- Efallai na fydd cyffuriau gwrth-iselder wedi cael eu hymchwilio’n llawn na’u profi’n glinigol ar bobl o dan 18 oed. Mae hyn yn golygu bod llai o wybodaeth ar gael am y manteision a’r risgiau posibl.
- Os ydych o dan 18 oed a bod eich meddyg yn rhoi cyffur gwrth-iselder i chi, dylai fod yn ofalus iawn ynglŷn â’r dos. Mae hyn yn cynnwys cyfrifo am eich maint corfforol.
- Nid yw pob cyffur gwrth-iselder wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio gan bobl o dan 18 oed yn y DU.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cynhyrchu canllawiau ar drin iselder mewn plant a phobl ifanc. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi argymhellion ynghylch pa gyffuriau gwrth-iselder y gellir eu rhoi i blant, pryd y dylid eu rhoi, a phwy a all eu rhoi.
Os oes gennych gyflyrau meddygol penodol
Os oes gennych rai problemau meddygol hirdymor, efallai na fydd eich meddyg yn rhoi rhai cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn i chi. Mae gan y GIG dudalen ar bethau pwysig i’w hystyried cyn cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ba gyffuriau gwrth-iselder efallai na fydd yn addas os oes gennych wahanol fathau o gyflwr meddygol.
Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg os ydych yn poeni am sut y gall cyffuriau gwrth-iselder effeithio ar eich iechyd cyffredinol, gan gynnwys unrhyw gyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.