Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder deubegynol 

Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.

Beth yw anhwylder deubegynol?

Mae anhwylder deubegynol yn broblem iechyd meddwl sy'n effeithio'n bennaf ar eich hwyliau. Os oes gennych anhwylder deubegynol, mae'n debygol y byddwch chi'n cael adegau pan fyddwch chi'n dioddef:

  • Episodau manig neu hypomanig, sy'n golygu teimlo'n uchel
  • Episodau o iselder, sy'n golygu teimlo'n isel
  • Rhai symptomau seicotig o bosibl yn ystod episodau manig neu iselder

Efallai y byddwch chi'n clywed y gwahanol brofiadau hyn yn cael eu galw yn episodau neu gyflyrau hwyliau. Gallwch ddarllen mwy amdanynt ar ein tudalen hwyliau a symptomau deubegynol.

Yn dibynnu ar y ffordd rydych chi'n dioddef yr hwyliau hyn, a pha mor ddifrifol y maen nhw'n effeithio arnoch chi, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi diagnosis o fath o anhwylder deubegynol penodol i chi.

Mae'n chwyddwr emosiynol: pan fydd fy hwyliau'n uchel rwy'n teimlo'n llawer mwy cyflym, doniol, call a bywiog na neb arall; pan fydd fy hwyliau'n isel mae dioddefaint y byd i gyd yn faich ar fy nghefn.

Sut beth yw byw gydag anhwylder deubegynol?

Yn y fideo hwn, mae Laura, Steve a Joe yn siarad am eu profiadau o fyw gydag anhwylder deubegynol.

Gweler trawsgrifiad y fideo fel PDF (yn agor mewn ffenestr newydd)

Anhwylder deubegynol – stori Siobhan

Yn y podlediad hwn, mae Siobhan yn sôn am ei phrofiadau o anhwylder deubegynol.

Rhybudd cynnwys: mae'r podlediad hwn yn sôn am hunanladdiad, ond nid yw'n cynnwys manylion am ddulliau.

Darllenwch drawsgrifiad o'r podlediad

Cewch fwy o wybodaeth am bodlediadau Mind neu tanysgrifiwch i'n podlediad ar iTunes neu Audioboom.

Anhwylder deubegynol a'r stigma

Mae llawer ohonom wedi clywed am anhwylder deubegynol, ond nid yw hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn deall y diagnosis yn llawn.

Efallai y gwelwch fod gan rai pobl:

  • Camsyniadau amdanoch chi
  • Delwedd negyddol neu anghywir o anhwylder deubegynol

Gall hyn deimlo'n annifyr iawn, yn enwedig os yw'r unigolyn sy'n meddwl fel hyn yn ffrind, yn gydweithiwr, yn aelod o'r teulu, neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun a does dim rhaid i chi ddioddef pobl sy'n eich trin yn wael.

Efallai yr hoffech chi feddwl am yr opsiynau canlynol:

  • Dangoswch yr wybodaeth hon i bobl. Gallai eu helpu nhw i ddeall yn well beth mae eich diagnosis anhwylder deubegynol yn ei olygu.
  • Cymerwch fwy o ran yn eich triniaeth. Gallwch gael llais am eich triniaeth, sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a chymryd camau os nad ydych yn hapus â'ch gofal. Am arweiniad, gweler ein tudalennau ceisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl.
  • Cewch wybod eich hawliau chi. Gall y gyfraith eich helpu mewn rhai sefyllfaoedd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau  hawliau cyfreithiol.
  • Cymerwch gamau gweithredu gyda Mind. I gael manylion am ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan i helpu i herio'r stigma, gweler ein tudalen ymgyrchu.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen stigma a chamsyniadau am iechyd meddwl.

Yr hyn sy’n fy helpu fwyaf yw parhau i sylweddoli a derbyn nad yw’r ffordd mae fy anhwylder deubegynol yn amlygu ei hun, a’r symptomau rwy’n eu harddangos, yn nodweddion personoliaeth nac yn ‘ymddygiad gwael’.

Beth mae deubegynol yn ei olygu?

Mae dwy ran i’r gair deubegynol:

  • Deu, sy’n golygu ‘dau’
  • Begynol, sy'n golygu ‘hollol gyferbyn’

Mae’r term deubegynol yn cyfeirio at y ffordd y gall eich hwyliau newid rhwng dau gyflwr gwahanol iawn - mania ac iselder. Yn y gorffennol, roedd pobl yn arfer cyfeirio at anhwylder deubegynol fel iselder manig. Efallai y byddwch yn dal i glywed pobl yn defnyddio'r term hŷn hwn heddiw.

Ond gall y ddau derm arwain at gamddealltwriaeth. Gall pobl feddwl ei fod yn golygu cael newid hwyliau rhwng mania difrifol ac iselder. Ond mae anhwylder deubegynol yn llawer mwy cymhleth na hyn.

Gall episodau hwyliau amrywio o iselder difrifol i fania ac unrhyw beth yn y canol. Weithiau gall eich episodau deimlo'n ddwys ac ar adegau eraill efallai y byddwch chi'n teimlo'n sefydlog. Ac efallai na byddwch chi byth yn dioddef episodau o hwyliau penodol. Er enghraifft, ni fydd pawb ag anhwylder deubegynol yn dioddef mania.

Gall rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd ddefnyddio'r term anhwylder affeithiol deubegynol. Mae ‘affeithiol’ yn golygu bod yr anhwylder yn ymwneud â hwyliau neu emosiynau.

A dweud y gwir, mae’r term deubegynol yn gallu bod ychydig yn gamarweiniol, oherwydd nid wyf yn meddwl bod yna bob amser ddau begwn, sef iselder a bod yn fanig.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig