Anhwylder deubegynol
Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.
Triniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol
Y ddau brif fath o driniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol yw meddyginiaeth a therapïau siarad.
Bydd yr union gyfuniad o driniaethau a gynigir yn dibynnu ar p'un a ydych yn rheoli episod hwyliau ar hyn o bryd, neu'n rheoli eich iechyd meddwl yn y tymor hwy.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r canlynol:
Pa driniaeth allai fy helpu i reoli episod cyfredol?
Mae eich triniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol fel arfer yn dibynnu ar ba fath o episod rydych chi'n ei brofi.
Yn ystod episodau o iselder:
- Mae eich meddyg yn debygol o gynnig meddyginiaeth i chi. Gallai hyn fod yn feddyginiaeth newydd neu'n newid i'ch meddyginiaeth anhwylder deubegynol presennol.
- Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig triniaeth seicolegol strwythuredig i chi, a ddefnyddir i drin iselder, megis therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).
Yn ystod episodau manig neu hypomanig:
- Mae eich meddyg yn debygol o gynnig meddyginiaeth i chi. Gallai hyn fod yn feddyginiaeth newydd neu'n newid i'ch meddyginiaeth anhwylder deubegynol presennol.
- Mae'n annhebygol y bydd eich meddyg yn cynnig triniaeth siarad os ydych chi'n dioddef episod manig neu hypomanig ar hyn o bryd.
Gweler ein tudalennau iselder neu hypomania a mania am ragor o wybodaeth am y triniaethau hyn, ac awgrymiadau ar sut i ofalu amdanoch eich hun.
Pan fydd fy hwyliau'n gostwng, mae therapi gwybyddol ymddygiadol yn fy helpu i ymdopi i ryw raddau, ond nid yw'n fy helpu i ddod allan o'r cyflwr hwn ac nid yw'n atal y newidiadau mewn hwyliau – dyna beth mae fy meddyginiaeth yn ei wneud.
Pa driniaeth allai fy helpu mewn argyfwng?
Efallai y bydd angen i chi gael mynediad at wasanaethau mewn argyfwng:
- Os ydych chi'n dechrau teimlo'n sâl iawn
- Os yw episod hwyliau yn para am amser hir
- Os nad yw eich triniaeth reolaidd yn helpu
Gall gwasanaethau mewn argyfwng gynnwys:
- Cymorth brys, megis mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys
- Cymorth gan dîm triniaeth yn y cartref i ddatrys argyfwng (CRHT)
- Cael eich derbyn i'r ysbyty
Am ragor o wybodaeth am eich opsiynau mewn argyfwng, gweler ein tudalennau gwasanaethau mewn argyfwng.
Pa driniaeth allai fy helpu yn y tymor hwy?
Nod triniaeth hirdymor yw eich helpu i gynnal hwyliau sefydlog a rheoli eich symptomau. Wrth i chi ddechrau teimlo'n fwy sefydlog, gallai'r rhan fwyaf o'ch cymorth ddod oddi wrth y tîm iechyd meddwl cymunedol neu'ch meddyg teulu. Ond dylai eich meddyg teulu hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwr iechyd meddwl.
Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol weithio gyda chi i’ch helpu i nodi:
- Nodau adfer emosiynol a chymdeithasol clir. Gallwch weithio tuag at y rhain, myfyrio arnynt yn rheolaidd, a'u hadolygu gyda'ch meddyg.
- Cynllun mewn argyfwng. Mae hwn yn eich helpu i wybod beth i'w wneud os byddwch chi'n dioddef unrhyw rai o'ch arwyddion rhybudd cynnar neu sbardunau, neu'n dechrau teimlo'n ofidus iawn.
- Sut rydych chi'n teimlo o ddydd i ddydd. Mae'n helpu i fod yn ymwybodol o'r ffordd orau o reoli'ch hwyliau a sylwi ar unrhyw newidiadau.
- Cynllun meddyginiaeth. Mae hwn yn cynnwys diwrnodau lle gallwch chi adolygu eich dos, pa mor dda mae'r feddyginiaeth yn gweithio, ac unrhyw sgil-effeithiau.
Os ydych yn derbyn therapi siarad, efallai y byddwch chi'n gosod rhai o'r nodau hyn gyda'ch therapydd. Dylech rannu'r nodau hyn gyda'ch meddyg teulu. Efallai y byddwch hefyd am eu rhannu ag eraill yn eich bywyd, fel eich teulu, ffrindiau, partner neu ofalwr.
Mae 13 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi fynd i’r ysbyty neu gael fy rhoi mewn ysbyty meddwl, ac rydw i wedi gwneud mor dda. Mae fy meddyginiaeth yn gweithio.
Therapïau siarad ar gyfer anhwylder deubegynol
Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig un o nifer o therapïau siarad i'ch helpu i reoli anhwylder deubegynol yn y tymor hwy. Gall y rhain gynnwys:
- Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Mae hwn yn edrych ar sut mae eich teimladau, eich meddyliau a'ch ymddygiad yn dylanwadu ar ei gilydd a sut gallwch chi newid y patrymau hyn.
- Therapi rhyngbersonol. Yn canolbwyntio ar eich perthynas â phobl eraill. Mae'n edrych ar sut mae eich cydberthnasau yn effeithio ar eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad – a sut maen nhw'n effeithio ar eich cydberthnasau.
- Therapi ymddygiadol i barau. Yn canolbwyntio ar adnabod a cheisio datrys problemau emosiynol rhwng partneriaid.
- Addysg seicolegol unigol. Mae'n cynnwys ymyriad byr i'ch helpu i nodi sbardunau, sylwi ar arwyddion rhybuddio, a datblygu strategaethau ymdopi.
- Addysg seicolegol grŵp. Mae'n cynnwys gweithio mewn grŵp o bobl sy'n rhannu profiadau. Ei nod yw meithrin gwybodaeth am anhwylder deubegynol a hunanreolaeth. Mae'n cael ei harwain gan therapydd hyfforddedig.
- Therapi sy'n canolbwyntio ar y teulu. Mae'n cynnwys gweithio fel teulu i edrych ar nodweddion ymddygiadol, nodi risgiau, a meithrin sgiliau cyfathrebu a datrys problemau.
Mae rhai o'r triniaethau hyn ar gael yn ehangach nag eraill. Gall hefyd ddibynnu ar yr hyn yr ydych chi a'ch meddyg yn cytuno fyddai fwyaf defnyddiol i chi.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau therapïau siarad.
Sut gall therapïau siarad helpu yn y tymor hwy?
Yn y tymor hwy, gall therapïau siarad ar gyfer anhwylder deubegynol eich helpu i wneud y canlynol:
- Deall eich anhwylder deubegynol, gwneud synnwyr ohono, neu ddod o hyd i ystyr ynddo
- Myfyrio ar effaith anhwylder deubegynol trwy gydol eich bywyd
- Adnabod arwyddion rhybudd cynnar a symptomau
- Datblygu strategaethau i ymdopi â symptomau cynnar, sbardunau ac episodau
- Gwneud cynllun ar gyfer argyfwng
- Gosod nodau a chynlluniau ar gyfer cadw'n iach
Mewn llawer o ffyrdd mae bod mor gydnaws â fy ymennydd yn ddefnyddiol iawn; yn aml, gallaf weld newid hwyliau yn eithaf cynnar, a all fy helpu i geisio ei atal rhag mynd allan o reolaeth.
Therapi electrogynhyrfol ar gyfer anhwylder deubegynol
Dim ond mewn amgylchiadau eithafol y dylai meddygon ystyried therapi electrogynhyrfol (ECT) fel opsiwn triniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cynhyrchu canllawiau ar yr arferion gorau mewn gofal iechyd. Maent yn cynghori y gallai meddygon ystyried therapi electrogynhyrfol os ydych yn bodloni’r ddau faen prawf canlynol:
- Rydych chi'n dioddef cyfnod hir a difrifol o iselder, neu gyfnod hir o fania.
- Nid yw triniaethau eraill wedi gweithio, neu mae'r sefyllfa'n peryglu bywyd.
Os teimlwch eich bod yn y sefyllfa hon, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg. Rhaid iddo esbonio therapi electrogynhyrfol mewn ffordd glir a hygyrch cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau.
Gweler ein tudalennau therapi electrogynhyrfol i ddarganfod mwy. Mae ein tudalennau ar gydsynio i gael triniaeth a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 hefyd â gwybodaeth am driniaeth, cydsynio a'ch hawliau.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.