Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder deubegynol

Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.

Beth fydd angen i'm meddyg ei wybod?

Er mwyn helpu i benderfynu pa feddyginiaeth i'w chynnig, efallai y bydd angen i'ch meddyg ymchwilio i ffactorau fel:

  • Eich symptomau presennol. Er enghraifft, os ydych chi'n dioddef episod manig, hypomanig, iselhaol neu gymysg ar hyn o bryd.
  • Eich symptomau yn y gorffennol. Megis y mathau o episodau hwyliau yr ydych wedi eu dioddef, a pha mor hir y maent wedi para.
  • Sut rydych chi wedi ymateb i driniaethau yn y gorffennol.
  • Y risg o episod arall. Gallai hyn gynnwys yr hyn sydd wedi sbarduno episodau yn y gorffennol.
  • Eich iechyd corfforol. Yn benodol, os oes gennych chi broblemau arennau, problemau pwysau neu ddiabetes.
  • Pa mor debygol ydych chi o gadw at drefn feddyginiaeth.
  • Eich rhyw a'ch oedran. Yn benodol, a ydych chi'n gallu beichiogi.
  • Mewn pobl hŷn, prawf o brosesau meddyliol. Er enghraifft, y prawf a ddefnyddir i wneud diagnosis o ddementia.

Cyn i chi gymryd unrhyw feddyginiaeth

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, sicrhewch fod yr holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch gennych i deimlo'n hyderus am eich penderfyniad.

I gael arweiniad ar yr hyn y gallech fod eisiau ei wybod cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth, gweler ein tudalennau canlynol:

Gwrthseicotigau ar gyfer anhwylder deubegynol

Os ydych chi'n dioddef episod manig neu hypomanig ar hyn o bryd, mae eich meddyg yn debygol o ragnodi gwrthseicotig i chi.

Mae eich meddyg hefyd yn debygol o ragnodi gwrthseicotigau os byddwch yn dioddef symptomau seicotig mewn episod o fania neu iselder difrifol.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy’n llunio canllawiau ar yr arferion gorau mewn gofal iechyd – yn argymell y gwrthseicotigau canlynol:

  • haloperidol - a elwir hefyd yn Dozic, Haldol, Haldol Decanoate, Serenace
  • olanzapine - a elwir hefyd yn Zalasta, Zyprexa, ZypAdhera
  • quetiapine - a elwir hefyd yn Atrolak, Biquelle, Ebesque, Seroquel, Tenprolide, Zaluron
  • risperidone - a elwir hefyd yn Risperdal, Risperdal Consta

Os na fydd eich gwrthseicotig cyntaf yn gweithio, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig un arall o'r rhestr uchod. Os na fydd yr ail yn gweithio, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig lithiwm i’w gymryd ynghyd â'r gwrthseicotig.

Os byddwch yn cymryd gwrthseicotig, bydd angen i chi gael archwiliadau iechyd rheolaidd gyda'ch meddyg.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau cyffuriau gwrthseicotig.

Lithiwm ar gyfer anhwylder deubegynol

Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi lithiwm fel triniaeth hirdymor ar gyfer anhwylder deubegynol. Gall helpu i wneud y canlynol:

Yn nodweddiadol, mae’n driniaeth hirdymor, fel arfer wedi'i rhagnodi am o leiaf chwe mis.

Er mwyn i lithiwm fod yn effeithiol, rhaid i'r dos fod yn gywir. Bydd angen gwiriadau gwaed ac iechyd rheolaidd arnoch wrth gymryd lithiwm, i sicrhau bod y lefelau'n iawn i chi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n dudalen lithiwm.

Roeddwn i’n sâl iawn. Yna newidiodd fy seiciatrydd fy meddyginiaeth. Dechreuais gymryd lithiwm ac fe weithiodd i mi. Dechreuais deimlo'n well yn eithaf cyflym.

Cyffuriau gwrth-ddirdynnol ar gyfer anhwylder deubegynol

Mae tri chyffur gwrth-ddirdynnol, a ddefnyddir i sefydlogi hwyliau, wedi'u trwyddedu i drin anhwylder deubegynol:

  • carbamazepine - a elwir hefyd yn Tegretol. Mae hyn weithiau'n cael ei ragnodi i drin episodau o fania. Gellir ei ragnodi os yw lithiwm yn aneffeithiol neu'n anaddas i chi. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen carbamazepine.
  • falproad - a elwir hefyd yn Depakote, Epilim. Gellir defnyddio hwn i drin episodau o fania ac fel arfer mae'n driniaeth hirdymor. Gellir ei ragnodi os yw lithiwm yn aneffeithiol neu'n anaddas i chi. Mae'n annhebygol y bydd eich meddyg yn rhoi falproad ar bresgripsiwn i chi os byddwch yn gallu beichiogi. Mae hyn oherwydd y gall arwain at risgiau sylweddol yn ystod beichiogrwydd. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn diweddaru ei hargymhellion ar ddefnyddio falproad. Ond os ydych chi'n cymryd falproad ar hyn o bryd, mae'n bwysig parhau i'w gymryd oni bai fod eich meddyg yn dweud fel arall wrthych. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen falproad.
  • lamotrigin - a elwir hefyd yn Lamictal. Mae hwn wedi'i drwyddedu i drin iselder difrifol mewn anhwylder deubegynol, ond nid yw NICE yn ei argymell ar gyfer trin mania. Os ydych chi'n feichiog ac yn cymryd lamotrigin, mae NICE yn argymell archwiliadau rheolaidd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen lamotrigin.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau am sefedlogi hwyliau.

Gall meddyginiaeth helpu i gadw’ch hwyliau’n gyson, ond hap a damwain yw hi.

Cyffuriau gwrth-iselder ar gyfer anhwylder deubegynol

Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig math o feddyginiaeth gwrth-iselder i chi, fel atalyddion ailafael serotonin-benodol (SSRIs). Gellir cynnig gwrthiselyddion ar y cyd ag un o'r meddyginiaethau a ddisgrifir uchod.

Cofiwch: holwch eich meddyg neu'r fferyllydd bob amser cyn cymryd unrhyw feddyginiaethau gyda'i gilydd, neu yn dilyn ei gilydd yn agos. Gallai'r meddyginiaethau ryngweithio'n wael â'i gilydd.

Er enghraifft, gall cyfuno lithiwm ag SSRIs gynyddu'r risg o sgil-effeithiau fel syndrom serotonin.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau cyffuriau gwrth-iselder

Cymerodd bron i 11 mlynedd o fyw gyda’r anhwylder cyn i mi ddod o hyd i’r feddyginiaeth gywir i gadw fy episodau i ffwrdd a sefydlogi fy hwyliau’n iawn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig