Anhwylder deubegynol
Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.
Hwyliau a symptomau deubegynol
Mae gan bawb ohonom newidiadau yn ein hwyliau, ond gydag anhwylder deubegynol gall y newidiadau hyn deimlo'n ofidus iawn a chael effaith fawr ar eich bywyd.
Efallai y byddwch yn teimlo bod eich hwyliau uchel ac isel yn eithafol, a bod y newidiadau yn eich hwyliau yn llethol. Ac efallai y byddwch chi'n teimlo ac yn ymddwyn yn wahanol iawn, yn dibynnu ar eich hwyliau. Gall hyn fod yn anodd ac yn ddryslyd.
Gelwir y newidiadau hyn mewn hwyliau weithiau episodau hwyliau neu gyflyrau hwyliau. Nid yw pawb yn dioddef episodau hwyliau yn yr un ffordd neu am yr un faint o amser.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r canlynol:
Episodau manig a hypomanig
Mae episodau manig a hypomanig - neu fania a hypomania - i gyd yn golygu teimlo'n uchel.
Mae episodau manig a hypomanig yn debyg o ran sut y gallant wneud i chi deimlo neu ymddwyn. Ond mae rhai gwahaniaethau allweddol:
- Difrifoldeb y symptomau. Mae mania difrifol yn ddifrifol iawn ac yn aml mae angen triniaeth mewn ysbyty. Gall hypomania newid eich hwyliau neu ymddygiad yn amlwg, ond mae'n llai difrifol na mania.
- Effaith ar eich bywyd. Gall episodau manig effeithio ar eich gallu i wneud eich gweithgareddau bob dydd - yn aml yn tarfu arnynt neu'n eu hatal yn llwyr. Gall episodau hypomanig amharu ar eich bywyd, ond efallai y byddwch yn dal i deimlo y gallwch weithio neu gymdeithasu.
- Hyd yr episod. Er mwyn i'r episod hwyliau gael ei ddosbarthu fel mania, mae angen iddo bara am wythnos neu fwy. Ar gyfer hypomania, mae angen iddo bara am bedwar diwrnod neu fwy. Ond gall episodau manig a hypomanig bara'n hirach o lawer na hyn.
- Mathau o symptomau. Mae’n bosibl y byddwch yn fwy tebygol o brofi symptomau difrifol gyda mania, fel ymddygiadau o gymryd risgiau mwy eithafol. Gall episodau manig gynnwys weithiau symptomau seicotig, fel rhithweledigaethau neu weld lledrithiau Nid yw episodau hypomanig byth yn cynnwys y rhain.
Gall mania a hypomania fod yn anodd iawn eu dioddef a'u rheoli. P'un a ydych chi'n dioddef mania neu hypomania, neu os nad ydych chi'n siŵr beth rydych chi'n ei ddioddef, mae bob amser yn iawn i chi geisio cymorth.
Y peth anoddaf i’w esbonio yw fy meddyliau'n rasio pan dwi’n fanig. Mae fel bod gen i bedwar ymennydd ac maen nhw i gyd yn goryrru … gall fod yn frawychus ond hefyd yn ewfforig ar yr un pryd.
Teimladau
Yn ystod episod manig neu hypomanig, efallai y byddwch chi'n teimlo fel a ganlyn:
- Yn hapus, yn llawen neu gydag ymdeimlad o lesiant
- Yn gyffrous iawn neu wedi cynhyrfu’n afreolus
- Fel nad ydych chi’n gallu cael eich geiriau allan yn ddigon cyflym
- Yn flin neu'n gynhyrfus
- Yn fwy egnïol yn rhywiol
- Bod eich sylw’n cael ei dynnu'n hawdd - fel bod eich meddyliau'n rasio neu allwch chi ddim canolbwyntio
- Yn hyderus neu anturus
- Yn anorchfygol neu fel na allwch chi gael eich niweidio (yn fwy tebygol mewn mania)
- Fel eich gallu cyflawni tasgau corfforol a meddyliol yn well nag arfer
- Bod angen llai o gwsg nag arfer arnoch chi
- Yn gallu canolbwyntio’n dda iawn neu fod yn benderfynol iawn i gwblhau tasgau neu brosiectau penodol
Ymddygiadau
Yn ystod episod manig neu hypomanig, fe allech chi:
- Fod yn fwy egnïol nag arfer
- Siarad llawer, siarad yn gyflym iawn, neu ddim yn gwneud synnwyr i bobl eraill
- Bod yn gyfeillgar iawn i eraill
- Dweud neu wneud pethau anaddas ac sydd ddim yn unol â'ch cymeriad
- Cysgu ychydig iawn neu ddim o gwbl
- Ymddwyn yn anfoesgar neu'n ymosodol
- Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- Gwario arian yn ormodol neu mewn ffordd sy'n anarferol i chi
- Colli swildod cymdeithasol
- Cymryd risgiau gyda'ch diogelwch
Ar ddiwrnodau ‘uchel’ dwi’n clebran pymtheg i’r dwsin ag unrhyw un, i’r pwynt lle mae’n cythruddo pobl, a dwi’n methu aros yn llonydd.
Sut fydda i'n teimlo wedyn?
Ar ôl episod manig neu hypomanig, efallai y byddwch:
- Yn teimlo'n anhapus iawn neu'n gywilyddus am y ffordd y gwnaethoch chi ymddwyn
- Wedi gwneud ymrwymiadau neu wedi cymryd cyfrifoldebau sydd bellach yn teimlo fel rhai na ellir eu rheoli
- Yn cofio ond ychydig bethau yn glir o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod eich episod, neu'n cofio dim byd o gwbl
- Yn teimlo'n flinedig iawn a bod angen llawer o gwsg a gorffwys arnoch
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau hypomania a mania.
Episodau o iselder
Mae episodau o iselder yn gyfnodau o deimlo'n isel. Maent yn para o leiaf bythefnos ond gallant bara llawer yn hirach, weithiau am fisoedd. Fel episodau manig neu hypomanig, gallant amharu'n ddifrifol ar eich bywyd bob dydd. Efallai y bydd angen meddyginiaeth neu fynd i aros yn yr ysbyty ar gyfer iselder difrifol.
Mae rhai pobl yn gweld y gall episodau iselder deimlo'n fwy anodd delio â nhw nag episodau manig neu hypomanig. Gall y cyferbyniad rhwng eich hwyliau uchel ac isel wneud i'ch iselder ymddangos yn ddyfnach fyth.
Teimladau
Yn ystod cyfnod o iselder, efallai y byddwch chi'n teimlo:
- Yn isel, yn ofidus neu'n ddagreuol
- Wedi blino neu'n swrth
- Â dim diddordeb mewn pethau rydych chi'n eu mwynhau fel arfer
- Â hunan-barch isel a diffyg hyder
- Yn euog, yn ddiwerth neu’n anobeithiol
- Yn gynhyrfus a dan straen
- Fel na allwch ganolbwyntio ar unrhyw beth
- Hunanladdol
Ymddygiadau
Yn ystod episod o iselder, efallai y byddwch:
- Yn peidio â gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau fel arfer
- Yn cael trafferth cysgu, neu’n cysgu gormod
- Yn bwyta rhy ychydig neu ormod
- Yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- Yn mynd i'ch cragen neu’n osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol
- Yn treulio llawer o amser yn meddwl am bethau sy'n peri gofid neu am bethau anodd (a elwir hefyd yn synfyfyrio)
- Yn osgoi cysylltu neu ymateb i bobl
- Yn llai egnïol yn gorfforol nag arfer
- Yn ceisio hunan-niweidio neu’n rhoi cynnig ar hunanladdiad
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau iselder.
Gall yr isafbwyntiau fod yn wastad ac yn amddifad o liw, neu'n ddwys ac yn arteithiol. Weithiau yn llawn o gythreuliaid, a phoen mewnol mor ddrwg fel na allai dim byd ffisegol eich brifo.
Episodau cymysg
Episod cymysg, a elwir weithiau yn gyflwr cymysg, yw pan fyddwch chi'n teimlo'n uchel ac yn isel.
Efallai y byddwch chi'n dioddef symptomau iselder, yn ogystal â mania neu hypomania, ar yr un pryd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo'n llawn egni ac yn fyrbwyll, wrth hefyd deimlo'n ofidus neu'n ddagreuol. Neu efallai y byddwch chi'n teimlo'n gynhyrfus iawn neu â theimladau pigog.
Efallai y byddwch hefyd yn profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn gyflym iawn ar ôl y llall, sef o fewn yr un diwrnod neu yn yr un awr.
Gall fod yn arbennig o anodd ymdopi ag episod cymysg, oherwydd:
- Gall fod yn anoddach gweithio allan beth rydych chi'n ei deimlo
- Gall fod yn anoddach nodi pa gymorth sydd ei angen arnoch chi
- Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anoddach rheoli'ch emosiynau ac yn fwy blinedig
- Efallai y bydd eich ffrindiau, teulu neu feddyg yn ei chael hi'n anodd gwybod beth yw'r ffordd orau i'ch cefnogi chi
- Efallai y byddwch yn fwy tebygol o weithredu ar sail meddyliau a theimladau hunanladdol
Yr episodau cymysg yw’r gwaethaf. Y rhai mwyaf anrhagweladwy a'r mwyaf peryglus, rwy’n ei chael hi’n anodd eu hesbonio.
Symptomau seicotig
Nid yw pawb sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol yn dioddef seicosis, ond mae’n rhywbeth y mae rhai pobl yn ei brofi. Mae'n fwy cyffredin yn ystod episodau manig, ond gall hefyd ddigwydd yn ystod episodau o iselder.
Gall y mathau hyn o brofiadau deimlo'n real iawn i chi ar y pryd, a all ei gwneud hi'n anodd deall pryderon pobl eraill amdanoch.
Gall symptomau seicotig gynnwys:
- Gweld lledrithiau, megis paranoia
- Rhithweledigaethau, megis clywed lleisiau
Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau seicosis.
Yna gyda'r mania daw’r paranoia, y cysgodion, y lleisiau, y meddwl bod rhywun y tu ôl i mi yn fy nilyn i bob man dwi'n mynd iddo, yn barod i fy nghipio.
Cyfnodau sefydlog neu niwtral
Mae'n gyffredin cael cyfnodau sefydlog neu niwtral rhwng episodau. Nid yw hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw emosiynau yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n golygu nad ydych chi'n profi mania, hypomania neu iselder ar hyn o bryd, neu eich bod chi'n rheoli'ch symptomau'n effeithiol.
Efallai y byddwch chi'n teimlo'n sefydlog am flynyddoedd rhwng episodau. Neu efallai y bydd eich cyfnodau o sefydlogrwydd yn llawer byrrach.
Gall cyfnodau sefydlog deimlo fel rhyddhad. Ond gallant hefyd deimlo'n heriol yn eu ffordd eu hunain. Efallai y byddwch yn teimlo'r canlynol:
- Yn hapus, yn ddigynnwrf neu'n ysgafnach eich calon
- Yn poeni am fynd yn sâl eto
- Ag embaras neu’n euog am bethau a wnaethoch neu a ddywedasoch pan oeddech yn sâl
- Fel bod gennych chi lawer i'w ddatrys neu i ddal i fyny arno
- Fel bod yn rhaid i chi ‘ddod yn ôl i fywyd normal’ ar unwaith
- Eich bod chi’n gweld eisiau elfennau o'ch bywyd neu'ch personoliaeth o'r adeg pan oeddech yn sâl
- Yn ansicr a ddylid parhau gyda meddyginiaeth neu driniaeth arall
Mae’n llawer anoddach dod i delerau â bod yn sefydlog nag y gallwn i fod wedi dychmygu. Mae hunaniaeth a ffordd o fyw ‘newydd’ yn frwydr ar ôl treulio cymaint o flynyddoedd yn meddwl bod y da a'r drwg sy’n gysylltiedig ag anhwylder deubegynol yn ‘normal’.
Pa mor aml mae episodau deubegynol yn digwydd?
Mae episodau deubegynol yn digwydd ar adegau gwahanol i wahanol bobl. Gall yr amlder ddibynnu ar lawer o bethau, megis:
- Eich union ddiagnosis anhwylder deubegynol.
- Pa mor dda y gallwch reoli eich symptomau.
- Sut byddech chi yn bersonol yn diffinio episod.
- A allai sefyllfaoedd neu brofiadau penodol ysgogi episodau. Er enghraifft, efallai y gwelwch y gallai cysgu ychydig iawn neu fynd trwy ddigwyddiad bywyd llawn straen achosi episod manig.
Gall hyd episodau hwyliau amrywio hefyd. Gallant bara am ychydig wythnosau neu lawer mwy. Gall yr hyn sy'n arferol i chi hefyd newid dros amser.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.