Anhwylder deubegynol
Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.
Sut mae rhoi diagnosis o anhwylder deubegynol?
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r canlynol:
Beth fydd fy meddyg yn ei ofyn i mi?
Er mwyn gwneud diagnosis o anhwylder deubegynol, bydd eich meddyg yn gofyn i chi am y canlynol:
- Faint o symptomau rydych chi'n eu dioddef
- Pa fathau o episodau hwyliau rydych chi'n eu dioddef
- Pa mor hir y mae eich episodau hwyliau yn para
- Faint o episodau hwyliau rydych chi wedi'u cael
- Pa mor aml mae eich episodau hwyliau yn digwydd
- Sut mae eich symptomau'n effeithio ar eich bywyd
- Hanes eich teulu
Gall hefyd:
- Ofyn i chi gadw dyddiadur o'ch hwyliau i'ch helpu chi i adnabod patrymau a sbardunau.
- Gwirio eich iechyd corfforol. Er enghraifft, gall rhai cyflyrau fel problemau thyroid achosi symptomau tebyg i fania.
Ar ôl cael diagnosis cywir, roeddwn i'n gwybod yr achos. Deallais fy mod yn rhywun â salwch. Nid methiant oeddwn i, nid yn unigolyn drwg.
Pa mor hir y bydd diagnosis yn ei gymryd?
Gan fod anhwylder deubegynol yn golygu newidiadau yn eich hwyliau dros amser, efallai y bydd eich meddyg am eich arsylwi am ychydig cyn gwneud diagnosis.
Bydd eich meddyg am fod yn ofalus ei fod yn rhoi'r diagnosis cywir i chi. Mae gan anhwylder deubegynol rai symptomau sy’n gyffredin â phroblemau iechyd meddwl eraill, megis:
- Iselder
- Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
- Anhwylder straen ôl-drawmatig
- Anhwylder affeithiol sgitsoffrenig
- Sgitsoffrenia
Oherwydd hyn, gall gymryd amser hir i gael diagnosis cywir – weithiau gall gymryd blynyddoedd.
Y drafferth gydag anhwylder deubegynol yw y gall fynd heb gael diagnosis weithiau. Nid ydych chi'n ymweld â'r meddyg i ddweud wrtho eich bod chi'n teimlo'n eithriadol o hapus. Bod gennych chi gymaint o egni ac y gallwch chi goncro'r byd (yn llythrennol).
Heriau wrth gael diagnosis
Gall symptomau anhwylder deubegynol orgyffwrdd â phroblemau iechyd meddwl eraill. Gall gwahanol bobl brofi neu arddangos eu symptomau mewn gwahanol ffyrdd. Ac nid yw gweithwyr proffesiynol bob amser yn ei gael yn iawn.
Oherwydd hyn, mae’n bosibl:
- Na byddwch yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol pan fyddwch yn teimlo y dylech gael un.
- Byddwch yn cael diagnosis o broblem iechyd meddwl wahanol, nad ydych yn cytuno ag ef.
- Byddwch yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol sydd yn eich barn chi yn anghywir.
Hyd yn oed os credwch fod eich diagnosis yn gywir, efallai y byddwch yn dal i deimlo nad yw'n cyd-fynd yn llwyr â'ch profiadau.
Os ydych chi'n anhapus neu'n bryderus am eich diagnosis, mae'n bwysig trafod hyn gyda'ch meddyg.
Gallwch wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed, ceisio ail farn, a chymryd camau os nad ydych chi'n hapus â'ch meddyg. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau:
Cefais ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol yn gyntaf oherwydd bod y symptomau’n gorgyffwrdd â rhai anhwylder deubegynol 2 ac Anhwylder Personoliaeth Ffiniol.
Driver and Vehicle Licensing Agency (DVLA)
This is a government department that maintains registers of drivers and vehicles in Great Britain.
Visit our full listing of Legal TermsCyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.