Anhwylder deubegynol
Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.
Cefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol
Mae gweld rhywun rydych chi'n poeni amdano yn mynd trwy symptomau anhwylder deubegynol yn gallu teimlo'n ofidus. Ond gallwch gynnig cymorth mewn llawer o ffyrdd, wrth hefyd ofalu am eich llesiant eich hun.
Mae'r dudalen hon yn ymdrin â sut y gallwch wneud y canlynol:
Bod yn agored am anhwylder deubegynol
Gall bod yn agored i siarad a gwrando ar brofiadau rhywun ei helpu i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi a'i dderbyn. Gallech roi cynnig ar y canlynol:
- Rhoi gwybod iddo eich bod am ddeall beth mae’n mynd drwyddo, yn hytrach na cheisio trwsio pethau iddo.
- Gofyn cwestiynau agored er mwyn cael dysgu mwy am sut mae’n teimlo. Er enghraifft, ‘Sut brofiad ydyw cael anhwylder deubegynol?’ neu ‘Beth sydd angen i mi ei ddeall amdano?’
- Ceisio osgoi lleihau ei brofiadau. Er enghraifft, gallai dweud pethau fel ‘mae pawb yn mynd trwy gyfnodau anodd’ wneud i rywun deimlo nad ydych chi wedi deall pa mor anodd yw pethau iddo.
- Gwrando yn hytrach na rhoi cyngor.
Gallwch ddysgu mwy am y profiadau hyn drwy ddarllen blogiau gan deulu a ffrindiau ar wefan Bipolar UK.
Dysgu am arwyddion rhybuddio a sbardunau
Mae gan y rhan fwyaf o bobl rai arwyddion rhybuddio eu bod ar fin episod hwyliau. Bydd gan lawer o bobl sbardunau hefyd, megis straen, a all gychwyn episod. Ceisiwch:
- Siarad â nhw am eu harwyddion rhybuddio, gan archwilio'r hyn y gallant fod.
- Rhoi gwybod iddynt os ydych chi wedi sylwi ar ymddygiadau sy'n aml yn digwydd cyn episod. Er enghraifft, gallech chi ddweud, ‘Rwyf wedi sylwi eich bod wedi bod yn cysgu llai, ac rwy'n poeni y gallech fod yn mynd yn sâl.’
- Deall beth yw eu sbardunau a sut y gallwch chi helpu i'w hosgoi neu eu rheoli.
Mae cadw llygad am batrymau, siarad, ac aros yn llonydd a chefnogol yn hanfodol.
Gwneud cynllun ar gyfer cyfnodau anodd
Pan fyddant yn teimlo'n dda, ceisiwch siarad â nhw am y cymorth y gallwch ei gynnig yn ystod episod hwyliau. Gall hyn eich helpu i deimlo'n fwy sefydlog a rheoli'r hyn sy'n digwydd.
Gallech drafod syniadau fel:
- Nodi pethau sydd wedi gweithio neu sydd heb weithio yn y gorffennol. Gallai hyn fod drwy ysgrifennu nodiadau mewn dyddiadur neu ar eich ffôn, neu drwy recordio nodiadau llais.
- Cytuno ar eiriau cod neu arwyddion eu bod yn cael trafferth. Er enghraifft, fe allech chi gynllunio geiriau neu symbolau rhyngoch chi sy'n golygu gwahanol deimladau. Gallent ddefnyddio’r rhain fel ffordd gyflym o ofyn am help os ydynt yn cael trafferth disgrifio sut maent yn teimlo.
- Cynnig ail farn am brosiectau neu ymrwymiadau, i'w helpu i ystyried a ydynt yn ymrwymo i ormod.
- Eu helpu i reoli arian, os hoffent i chi wneud hynny, pan fyddant yn sâl.
- Eu helpu i gadw trefn arferol, gan gynnwys prydau a phatrymau cysgu rheolaidd.
- Datblygu cynllun argyfwng. Am syniadau ar beth i'w gynnwys, gweler ein gwybodaeth am gynllunio ar gyfer argyfwng posibl.
Gall hefyd helpu i drafod sut mae rhywun am i chi ei drin pan fydd yn dod allan o gyfnod o salwch. Ceisiwch ddilyn ei ddymuniadau ynghylch faint y mae am siarad am yr hyn a ddigwyddodd pan oedd yn sâl.
Trafod ymddygiad sy'n heriol i chi
Gall cefnogi rhywun gyda’i iechyd meddwl fod yn anodd iawn, yn rhwystredig neu’n frawychus ar adegau.
Os oes rhywun ’yn clywed neu'n gweld pethau nad ydych chi'n eu gweld na'u clywed, efallai y bydd yn teimlo'n ddig, yn flin neu'n ddryslyd os nad ydych chi'n rhannu ei gredoau. Mae'r hyn sy'n teimlo'n real iddo ef yn real yn yr eiliadau hynny. Os bydd hyn yn digwydd:
- Arhoswch yn llonydd os gallwch chi.
- Helpwch gydag ymarferion anadlu neu ymlacio os yw’n teimlo y gall roi cynnig ar y rhain.
- Canolbwyntiwch ar ei gefnogi gyda sut mae’n teimlo, yn hytrach na chadarnhau neu herio ei realiti. Rhowch wybod iddo, er nad ydych chi'n rhannu'r gred, eich bod chi'n deall ei bod yn teimlo'n real iddo ef.
Yn ystod episod manig, efallai y bydd yn gwneud pethau sy'n teimlo yn embaras, yn rhyfedd neu’n ofidus i chi. Gallech roi cynnig ar y canlynol:
- Trafod eich teimladau yn llonydd gydag ef pan fydd yn teimlo y gall.
- Egluro sut mae pethau penodol mae wedi'u gwneud yn gwneud i chi deimlo, yn hytrach na gwneud datganiadau cyffredinol am ei weithredoedd.
- Ceisio osgoi bod yn feirniadol. A pheidiwch â chodi pethau a ddywedwyd pan oedd yn sâl. Yn enwedig os yw wedi ymddiheuro neu wedi dweud wrthych nad oedd yn ei olygu.
Gweler ein tudalennau profiadau seicotig am ragor o wybodaeth. Mae gennym hefyd dudalen ar gefnogi rhywun sy’n dioddef seicosis.
Yn ystod episod o iselder, efallai y bydd yn osgoi cysylltu neu ymateb i bobl. Gall fod yn anodd ymdopi â hyn. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n bryderus amdano neu fel eich bod yn cael eich gwrthod. Gallech roi cynnig ar y canlynol:
- Ceisio osgoi cymryd pethau'n bersonol os gallwch chi.
- Dal ati i sicrhau ei fod yn iawn, er efallai na fydd yn ymateb.
- Anfon negeseuon byr nad oes angen ymateb hir iddynt.
Pan fydd yn teimlo’n iach eto, gallech chi drafod beth allai helpu’r ddau ohonoch i ymdopi ag amseroedd anodd tebyg yn y dyfodol. Er enghraifft, gallech gytuno ar air cod, emoji neu lun y gallai ei anfon atoch i roi gwybod i chi ei fod yn ddiogel ond na all siarad ar hyn o bryd.
Mae’r hyn sy’n teimlo’n real yn real iddo yn y foment honno. Mae'n help pan dwi'n parchu hynny ac yn ei gysuro yn hytrach na cheisio egluro nad yw'n ‘real’ i bawb arall.
Ceisio osgoi gwneud rhagdybiaethau
Efallai y byddwch chi bob amser yn edrych am arwyddion ei fod yn dechrau episod anhwylder deubegynol. Mae hyn yn gwbl ddealladwy. Ond efallai nad dyma'r ffordd fwyaf defnyddiol o'i gefnogi. Gallwch wneud y canlynol:
- Cofio bod pawb yn wahanol. Mae'n bosibl arddangos amrywiaeth o emosiynau ac ymddygiad wrth ddal i deimlo'n dda ar y cyfan.
- Ceisio peidio â rhagdybio bod unrhyw newid mewn hwyliau yn arwydd ei fod yn anhwylus. Mae profiad pob unigolyn yn unigryw. Os nad ydych yn siŵr, siaradwch ag ef i wirio.
- Atgoffa eich hun bod camau am yn ôl yn normal. Efallai ei fod yn rheoli ei symptomau'n dda am beth amser ac yna'n cael cyfnod anoddach.
- Ceisio osgoi gwneud rhagdybiaeth am yr hyn y gall ac na all rhywun ei wneud. Os ydych chi'n meddwl bod angen help arno, cynigiwch eich cefnogaeth, ond ceisiwch beidio â dechrau trin pethau ar ei ran heb wirio mai dyma'r hyn mae ei eisiau neu ei angen.
Os yw’r rhai o’m cwmpas yn poeni a yw newidiadau yn symptomatig o atglafychiad, rwy’n eu hannog i ofyn, nid cymryd hynny yn ganiataol.
Gofalu amdanoch eich hun
Mae'n bwysig treulio amser ac egni yn gofalu amdanoch chi'ch hun. Efallai eich bod chi'n teimlo'n bryderus iawn am yr unigolyn rydych chi'n ei gefnogi, ond mae gofalu am eich llesiant eich hun yn golygu y gallwch chi barhau i'w gefnogi.
Er enghraifft, gallech geisio:
- Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo. Gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, eich meddyg teulu, neu linell gymorth. Mae gan Bipolar UK hefyd grwpiau cymorth ar gyfer teulu, ffrindiau a gofalwyr.
- Cynnwys teulu a ffrindiau y gellir ymddiried ynddynt wrth ei gefnogi, gyda'i ganiatâd. Gall rhannu'r gwahanol gyfrifoldebau wneud i bethau deimlo'n haws i'w rheoli. Os ydych chi'n rhan o grŵp sy'n cefnogi rhywun, megis teulu neu grŵp o ffrindiau, ceisiwch sicrhau bod y gefnogaeth yn gyson.
- Dod o hyd i ffyrdd o ymlacio. Er enghraifft, treuliwch amser ar hobi rydych chi'n ei fwynhau neu rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio.
- Rhoi amser i chi eich hun. Cymerwch bethau un cam ar y tro a chofiwch eich bod yn gwneud rhywbeth gwerthfawr iawn wrth geisio cefnogi rhywun. Felly byddwch yn falch o unrhyw fuddugoliaethau bach a cheisiwch ddathlu’r rhain.
- Bod yn garedig â chi'ch hun pan fyddwch chi'n brwydro. Mae'n iawn peidio â thrin popeth cystal ag yr hoffech chi neu wneud camgymeriadau.
Am ragor o wybodaeth am ofalu amdanoch chi’ch hun, gweler ein tudalennau sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall a gwella eich llesiant. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Carers UK.
Mae gan fy ngŵr a minnau anhwylder deubegynol felly roedd yn anochel y byddai’n rhaid i ni ddibynnu ar ein gilydd ar adegau.
Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon ym mis Chwefror 2024. Byddwn yn ei hadolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.