Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder deubegynol 

Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.

Dod i adnabod eich hwyliau

Gallai dysgu sut i ddeall eich hwyliau eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o'u rheoli. Efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu:

Monitrwch eich hwyliau

Efallai y byddwch yn gweld ei fod yn ei helpu i gadw golwg ar eich hwyliau dros gyfnod o amser. Gallech geisio nodi patrymau hwyliau mewn dyddiadur neu ar eich ffôn. Mae gan Bipolar UK raddfa hwyliau a dyddiadur hwyliau sy'n rhad ac am ddim i'w defnyddio.

Mae pobl yn cymryd ei fod yn fanig iawn, yn iselhaol iawn. Ac er bod yna episodau, nid yw mor hawdd â hynny ei ddilyn.

Deallwch eich sbardunau 

Efallai y bydd yn helpu i ddeall beth all achosi newidiadau yn eich hwyliau. Mae sbardunau yn wahanol i wahanol bobl. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Teimlo wedi'ch llethu neu'n brysur
  • Cyfnodau o straen
  • Digwyddiadau bywyd arwyddocaol, fel priodasau, cael plentyn, neu golli anwylyd
  • Cyfnodau o newid neu ansicrwydd
  • Diffyg cwsg
  • Problemau iechyd corfforol neu feddyliol eraill
  • Newidiadau neu broblemau gyda'ch triniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol

Gall helpu i adnabod y patrymau hyn. Yna gallwch chi gymryd camau i osgoi'r sbardun neu leihau ei effaith.

Dysgwch am eich arwyddion rhybudd

Efallai y byddwch chi'n dechrau sylwi ar batrwm o ran sut rydych chi'n teimlo cyn episod. Gallai hyn fod yn newidiadau yn eich:

  • Patrwm cysgu
  • Patrymau bwyta neu archwaeth
  • Ymddygiad

Gall bod yn ymwybodol eich bod ar fin cael newid mewn hwyliau eich helpu i wneud yn siŵr:

  • Bod gennych systemau cymorth ar waith
  • Gallwch ganolbwyntio ar ofalu amdanoch chi eich hun
  • Eich bod chi'n gallu rhannu arwyddion rhybudd gyda theulu a ffrindiau a all eich helpu

Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus faint o gyswllt cymdeithasol sydd gen i – gall gormod fy anfon yn uchel. Mae'n rhaid i mi ddechrau dweud ‘na’ wrth ofynion.

Cymryd camau ymarferol

Dyma rai awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i reoli effeithiau anhwylder deubegynol ar eich bywyd bob dydd: 

Cadwch at drefn arferol

Gall cael trefn arferol eich helpu i deimlo'n fwy llonydd eich meddwl os yw'ch hwyliau'n uchel, yn llawn cymhelliant os yw'ch hwyliau'n isel, ac yn gyffredinol yn fwy sefydlog. Gallai eich trefn arferol gynnwys:

  • Gweithgareddau o ddydd i ddydd, fel yr amser rydych chi'n bwyta prydau ac yn mynd i gysgu.
  • Gwneud amser ar gyfer ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar, hobïau a chynlluniau cymdeithasol.
  • Cymryd unrhyw feddyginiaeth ar yr un amser bob dydd. Gall hyn hefyd eich helpu i reoli sgil-effeithiau a gwneud yn siŵr bod lefel gyson yn eich system.

Mae gen i larwm ar fy ffôn fel fy mod i'n cymryd fy meddyginiaethau ar yr un pryd bob dydd.

Rheolwch straen

Gall straen sbarduno episodau hwyliau. Mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt a allai eich helpu i wneud y canlynol:

  • Osgoi straen
  • Rheoli straen
  • Gofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n teimlo o dan straen

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau rheoli straen.

Ceisiwch reoli eich arian

Gall fod yn frawychus iawn a pheri straen pan fydd eich sefyllfa ariannol yn teimlo allan o reolaeth. Os ydych chi'n cael trafferth, ceisiwch siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am y camau ymarferol y gallwch chi eu cymryd. Mae yna sefydliadau hefyd a allai helpu.

Gallwch wneud y canlynol:

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau arian ac iechyd meddwl, penderfyniadau ariannol a galluedd, a hawlio budd-daliadau.

Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer argyfwng

Pan fyddwch chi yng nghanol argyfwng, gall fod yn anodd dweud wrth bobl pa fath o gymorth fyddai fwyaf defnyddiol i chi. Pan fyddwch yn iach, gall fod yn ddefnyddiol gwneud cynllun ar gyfer sut rydych chi am gael eich trin pan fyddwch chi'n sâl.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau  gwasanaethau mewn argyfwng.

Gofalu am eich iechyd corfforol

Yn aml gall gofalu am ein hiechyd corfforol helpu i gefnogi ein lles meddyliol. Dyma rai awgrymiadau i reoli eich iechyd:

Ceisiwch gael digon o gwsg

I lawer ohonom ag anhwylder deubegynol, gall amhariadau ar gwsg fod yn sbardun ac yn symptom episodau. Gall cael digon o gwsg eich helpu i gadw'ch hwyliau'n sefydlog neu fyrhau episod.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ymdopi â phroblemau cysgu.

Bwytewch ddeiet iach

Gall bwyta deiet cytbwys a maethlon eich helpu i deimlo'n iach, meddwl yn glir a thawelu eich hwyliau. Gallwch ddarllen mwy yn y blog hwn ar wefan Bipolar UK.

Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd

Gall ymarfer corff ysgafn, fel ioga neu nofio, eich helpu i ymlacio a rheoli straen. Gall ymarfer corff rheolaidd helpu drwy wneud y canlynol:

  • Defnyddio egni pan fyddwch chi'n teimlo'n uchel
  • Rhyddhau endorffinau – y cemegau ‘teimlo'n dda’ yn yr ymennydd – pan fyddwch chi'n teimlo'n isel

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau  gweithgarwch corfforol.

Y tric i mi yw peidio â chael fy swyno gan yr ‘uchel’ ac i ofalu amdanaf fy hun – cael digon o gwsg, maetheg dda.

Adeiladu rhwydwaith cymorth

Gallai adeiladu rhwydwaith cymorth helpu i reoli eich hwyliau. Gallai hyn gynnwys ffrindiau, teulu, neu bobl eraill yn eich bywyd y gallwch ymddiried ynddynt ac y gallwch siarad â nhw. Mae’r math o gymorth y gallant ei gynnig yn cynnwys:

  • Gallu adnabod arwyddion y gallech fod yn dioddef episod hwyliau.
  • Eich helpu chi i ofalu amdanoch chi'ch eich hun trwy ddilyn trefn arferol neu gael deiet iach.
  • Gwrando a chynnig eu dealltwriaeth.
  • Eich helpu i fyfyrio ar episod manig a chofio beth ddigwyddodd ynddo.
  • Eich helpu chi i gynllunio ar gyfer argyfwng.

Ceisiwch ddweud wrth y rhai o'ch cwmpas beth sy'n ddefnyddiol i chi a'r hyn nad yw'n ddefnyddiol i chi. Er enghraifft, gallwch gytuno gyda'ch gilydd pa bethau yr hoffech iddynt roi cymorth gyda nhw a'r hyn yr hoffech ei reoli ar eich pen eich hun.

Pan dwi’n taro’r fantol trwy fynd yn rhy uchel neu isel, dwi’n mynd at bobl am gymorth.

Cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer anhwylder deubegynol

Gall cysylltu â phobl sydd â phrofiadau tebyg neu a rennir o anhwylder deubegynol fod yn ddefnyddiol iawn. Gallech geisio siarad â phobl eraill i rannu eich teimladau, profiadau a syniadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun. Er enghraifft:

  • Mind. Cysylltwch â llinell wybodaeth Mind neu ymweld â changen leol Mind i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal chi.
  • Fforymau ar-lein. Rhowch gynnig ar gael cefnogaeth gan gymuned o gymheiriaid ar-lein, fel Side by Side Mind ac e-gymuned Bipolar UK.
  • Grwpiau lleol. Dewch o hyd i grŵp cymorth lleol trwy sefydliad fel Bipolar UK.
  • Colegau adfer. Gwiriwch a oes gan eich ardal leol goleg adfer. Mae colegau adfer yn cynnig cyrsiau am iechyd meddwl ac adfer mewn amgylchedd cefnogol. Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr lleol ar wefan Mind Recovery Net.

Os ydych chi'n ceisio cefnogaeth gan gymheiriaid ar y rhyngrwyd, mae hefyd yn bwysig gwybod sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau, gweler ein tudalen cefnogaeth gan gymheiriaid.

Nid yw profiad dau unigolyn yr un peth ond mae yna heddwch a llawenydd mewn peidio â gorfod esbonio. O gyd-ddealltwriaeth. O ddod adref.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig