Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder deubegynol 

Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.

Trawma yn ystod plentyndod

Mae rhai arbenigwyr yn credu y gall dioddef llawer o drallod emosiynol fel plentyn achosi i anhwylder deubegynol ddatblygu. Gallai hyn fod oherwydd bod trawma a thrallod yn ystod plentyndod yn gallu cael effaith fawr ar eich gallu i reoli eich emosiynau.

Gall hyn gynnwys profiadau fel:

  • Esgeulustod
  • Camdriniaeth rywiol, gorfforol neu emosiynol
  • Digwyddiadau trawmatig
  • Colli rhywun sy'n agos iawn atoch chi, fel rhiant neu ofalwr

Digwyddiadau bywyd llawn straen

Efallai y gallwch gysylltu dechrau eich symptomau â phrofiadau neu sefyllfaoedd llawn straen yn eich bywyd.

Mae rhai pobl hefyd yn gweld y gall straen achosi episod hwyliau neu fe all wneud i symptomau deimlo'n ddwysach neu'n anoddach eu rheoli.

Ymhlith y pethau a all achosi straen mae:

  • Perthynas yn chwalu
  • Pryderon ariannol a thlodi
  • Dioddef  trawma
  • Colli rhywun sy'n agos atoch chi
  • Cael eich cam-drin, eich bwlio neu eich aflonyddu, gan gynnwys profiadau o hiliaeth
  • Teimlo’n unig neu ynysig
  • Llawer o newid neu ansicrwydd
  • Teimlo o dan bwysau wrth weithio, astudio neu chwilio am waith
  • Digwyddiadau mawr, fel priodasau neu wyliau

Am ragor o wybodaeth am y cysylltiadau rhwng straen ac iechyd meddwl, gweler ein tudalennau rheoli straen.

Darllenwch ragor am hiliaeth ac iechyd meddwl

Mae gwneud gormod, neu fynd i eithafion, mewn unrhyw agwedd ar fy mywyd, yn rysáit ar gyfer episod hwyliau.

Cemeg yr ymennydd

Mae tystiolaeth yn dangos y gallwch drin symptomau anhwylder deubegynol gyda meddyginiaethau seiciatrig penodol sy'n gweithredu ar y niwrodrawsyryddion. Dyma'r ‘cemegion negeseuol’ yn eich ymennydd.

Mae hyn yn awgrymu y gall anhwylder deubegynol ymwneud â phroblemau gweithredol y niwrodrawsyryddion. Er bod rhywfaint o ymchwil yn cefnogi hyn, nid oes neb yn gwybod yn sicr sut mae'r niwrodrawsyryddion hyn yn gweithio. Ac nid ydym yn gwybod a yw problemau gyda’r rhain yn achosi anhwylder deubegynol neu'n ganlyniad iddo.

Cysylltiadau teuluol

Os ydych chi'n dioddef anhwylder deubegynol, rydych chi'n fwy tebygol o gael aelod o'r teulu sydd hefyd yn dioddef hwyliau a symptomau anhwylder deubegynol. Ond efallai na fydd ganddo ddiagnosis ffurfiol. Mae hyn yn awgrymu y gall anhwylder deubegynol gael ei drosglwyddo'n enetig trwy deuluoedd.

Ond nid yw hyn yn golygu'n fanwl bod un ‘genyn anhwylder deubegynol’. Mae cysylltiadau teuluol yn debygol o fod yn llawer mwy cymhleth.

Er enghraifft, mae ymchwilwyr yn meddwl y gall ffactorau cymdeithasol hefyd sbarduno profiadau o symptomau anhwylder deubegynol. A gall aelodau'r teulu fod yn rhan ddylanwadol o'ch amgylchedd wrth i chi dyfu i fyny.

Meddyginiaeth, cyffuriau ac alcohol

Gall meddyginiaeth, cyffuriau ac alcohol achosi i chi brofi rhai hwyliau a symptomau anhwylder deubegynol. Er enghraifft:

  • Meddyginiaeth. Gall rhai meddyginiaethau achosi hypomania neu fania fel sgil-effaith. Gall hyn ddigwydd pan fyddwch yn eu cymryd, neu fel symptom diddyfnu pan fyddwch yn rhoi'r gorau i'w cymryd. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau corfforol a meddyginiaethau seiciatrig - gan gynnwys rhai gwrthiselyddion. Gall iselder hefyd fod yn sgil-effaith llawer o wahanol feddyginiaethau. Mae'n bwysig trafod unrhyw bryderon am sgil-effeithiau meddyginiaeth gyda'ch meddyg.
  • Alcohol neu gyffuriau adloniant. Gall defnyddio’r rhain achosi i chi brofi symptomau tebyg i fania, hypomania neu iselder. Yn aml, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng effeithiau alcohol a chyffuriau a symptomau iechyd meddwl.

Mae rhai astudiaethau'n awgrymu y gall defnyddio rhai cyffuriau adloniant gynyddu eich risg o ddatblygu anhwylder deubegynol. Ond mae'r dystiolaeth yn gyfyngedig iawn.

Os ydych chi'n poeni am effeithiau meddyginiaeth, alcohol neu gyffuriau adloniant ar eich iechyd meddwl, mae'n bwysig trafod hyn gyda'ch meddyg.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-iselder ac effeithiau alcohol a chyffuriau adloniant ar iechyd meddwl

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig