Anhwylder deubegynol
Yn egluro beth yw anhwylder deubegynol, yn ogystal â gwahanol ddiagnosisau a thriniaethau. Yn cynnig gwybodaeth ar sut y gallwch chi gefnogi rhywun ag anhwylder deubegynol ac awgrymiadau ar gyfer hunanreolaeth.
Pa fathau o anhwylder deubegynol sydd?
Mae anhwylder deubegynol yn aml yn cael ei ddadansoddi’n deipiau ac isdeipiau.
Efallai y bydd eich meddyg yn rhoi diagnosis o fath arbennig o anhwylder deubegynol i chi. Bydd hyn yn dibynnu ar sut rydych chi'n dioddef gwahanol hwyliau a symptomau deubegynol, a pha mor ddifrifol y maent yn effeithio arnoch chi.
Nid yw pob gweithiwr meddygol proffesiynol yn cytuno ar sut i ddosbarthu neu wneud diagnosis o anhwylder deubegynol. Mae angen mwy o ymchwil yn y maes hwn.
Anhwylder deubegynol 1
Efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder deubegynol 1 os ydych wedi dioddef:
- O leiaf un episod o fania sydd wedi para mwy nag wythnos.
- Rhai episodau iselder hefyd, er nad yw pawb yn cael hyn.
Anhwylder deubegynol 2
Efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder deubegynol 2 os ydych wedi dioddef dau o’r canlynol:
- O leiaf un episod o iselder.
- Symptomau o hypomania sydd wedi para o leiaf bedwar diwrnod.
Seiclothymia
Efallai y cewch ddiagnosis o seiclothymia:
- Os ydych chi wedi dioddef episodau o hwyliau hypomanig ac iselder dros gyfnod o ddwy flynedd neu fwy.
- Os nad yw eich symptomau yn ddigon difrifol i fodloni meini prawf diagnostig anhwylder deubegynol 1 neu anhwylder deubegynol 2.
Weithiau gall seiclothymia ddatblygu i fod yn anhwylder deubegynol 1 neu'n anhwylder deubegynol 2.
Gall seiclothymia fod yn ddiagnosis anodd ei dderbyn. Efallai y byddwch yn teimlo bod rhywun yn dweud ‘nad yw'ch symptomau'n ddigon difrifol’, ond nid yw hyn yn wir. Gall seiclothymia effeithio'n ddifrifol ar eich bywyd ac mae iechyd meddwl yn sbectrwm sy'n cwmpasu llawer o brofiadau gwahanol.
Mae gen i seiclothymia. Gall wneud i chi deimlo fel bod y cyfan yn eich meddwl gan nad yw’r symptomau yn aml mor eithafol ag anhwylder deubegynol.
Anhwylder deubegynol â chylchoedd cyflym
Efallai y dywedir wrthych fod gennych anhwylder deubegynol 1 neu 2 ‘gyda chylchoedd cyflym’ os ydych wedi dioddef pedwar neu fwy o episodau o iselder, episodau manig neu hypomanig, neu episodau cymysg o fewn blwyddyn.
Gallai hyn olygu:
- Rydych chi'n profi episodau o fania neu hypomania, ac yna episodau o iselder.
- Rydych chi'n teimlo'n sefydlog am ychydig wythnosau rhwng episodau. Er enghraifft, gallwch gylchdroi rhwng episodau manig a chyfnodau sefydlog.
- Rydych chi'n dioddef episodau sy'n para misoedd, wythnosau neu ddiwrnodau.
Os oes gennych anhwylder deubegynol, efallai y byddwch yn dioddef cylchoedd cyflym ar adegau penodol yn eich bywyd ac nid ar adegau eraill.
Ar hyn o bryd, nid yw cylchoedd cyflym yn cael ei ystyried yn swyddogol yn fath ar wahân o anhwylder deubegynol. Mae angen mwy o ymchwil i gylchoedd cyflym a'r ffordd orau o'i drin.
Am fwy o wybodaeth am gylchoedd cyflym, gweler gwefan Bipolar UK.
Anhwylder deubegynol gyda nodweddion cymysg
Efallai y dywedir wrthych fod gennych anhwylder deubegynol 1 neu 2 ‘gyda nodweddion cymysg’ os byddwch yn dioddef episodau cymysg. Dyma pryd rydych chi'n dioddef iselder a mania neu hypomania ar yr un pryd, neu yn gyflym iawn ar ôl ei gilydd.
Weithiau gelwir hyn yn gyflwr anhwylder deubegynol cymysg neu'n anhwylder deubegynol affeithiol cymysg.
Anhwylder deubegynol gyda phatrwm tymhorol
Efallai y dywedir wrthych fod gennych anhwylder deubegynol 1 neu 2 ‘gyda phatrwm tymhorol’. Mae hyn yn golygu bod yr adeg o'r flwyddyn neu'r tymhorau yn effeithio'n rheolaidd ar eich episodau hwyliau.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei adolygu yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.