Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrthseicotig

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.

Beth yw cyffuriau gwrthseicotig?

Mae cyffuriau gwrthseicotig yn fath o feddyginiaeth seiciatrig sydd ar gael ar bresgripsiwn i drin seicosis. Maent wedi'u trwyddedu i drin rhai mathau o broblemau iechyd meddwl y mae eu symptomau'n cynnwys profiadau seicotig. Mae hyn yn cynnwys:

Mae rhai cyffuriau gwrthseicotig hefyd wedi'u trwyddedu i drin problemau iechyd eraill, gan gynnwys:

  • problemau corfforol, fel igiadau parhaus, problemau gyda chydbwysedd a chyfogi (teimlo'n sâl)
  • aflonyddwch a phrofiadau seicotig mewn dementia. Dim ond os ydych chi'n achosi risg i chi'ch hun neu i eraill, neu os ydych chi wedi cynhyrfu’n arw y caiff hyn ei argymell.

Gellir rhoi presgripsiwn ar gyfer cyffuriau gwrthseicotig i'w cymryd mewn sawl ffordd wahanol. Fel arfer byddwch yn eu cymryd drwy eu llyncu, ar ffurf tabled neu hylif. Ond gellir rhoi rhai ohonynt drwy bresgripsiwn hefyd fel pigiad depo. Mae hwn yn ffurf ar y feddyginiaeth sy'n rhyddhau'n araf ac yn gweithredu'n araf, a roddir fel pigiad bob ychydig wythnosau. 

Os rhoddir cyffuriau gwrthseicotig i chi yn yr ysbyty, efallai y bydd meddygon yn defnyddio math o gyffuriau gwrthseicotig y gallwch eu hanadlu i mewn, o'r enw loxapine adasuve. Ond nid yw hwn ar gael ar gyfer presgripsiwn cyffredinol.

Pwy all roi presgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig?

Mae'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi presgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig i chi yn cynnwys:

  • seiciatrydd
  • eich meddyg teulu
  • nyrs-bresgripsiynydd arbenigol
  • fferyllydd arbenigol.

Pan roddir presgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig i chi gyntaf, seiciatrydd sy'n gwneud hyn fel arfer. Weithiau gall eich meddyg teulu roi eich presgripsiwn cyntaf hefyd. Ond maen nhw'n fwy tebygol o roi presgripsiynau parhaus i chi, unwaith y byddwch chi eisoes yn cymryd y feddyginiaeth.

Mae'r tudalennau gwybodaeth hyn fel arfer yn cyfeirio at 'eich meddyg neu seiciatrydd' yn rhoi'r feddyginiaeth hon ar bresgripsiwn. Nhw yw’r bobl fwyaf tebygol o roi presgripsiwn i chi am y cyffuriau hyn.

Siarad am gyffuriau gwrthseicotig

Gwyliwch Steve, Joe, Laura a Ziaul yn siarad am eu profiadau o gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn y fideo hwn:

Sut mae cyffuriau gwrthseicotig yn gweithio?

Nid yw cyffuriau gwrthseicotig yn cael gwared ar seicosis yn gyfan gwbl ond gallant helpu i leihau a rheoli llawer o symptomau seicotig, gan gynnwys:

  • rhithdybiau a rhithweledigaethau, fel paranoia a chlywed lleisiau
  • gorbryder ac aflonyddwch meddwl difrifol, er enghraifft, teimlo dan fygythiad
  • lleferydd cymysglyd a meddwl dryslyd
  • dryswch
  • ymddygiad treisgar neu ymddygiad sy'n tarfu ar eraill
  • mania.

Efallai na fydd cyffuriau gwrthseicotig yn cael gwared ar y symptomau hyn yn llwyr. Mae'n bosibl y byddant yn eich stopio rhag cael eich poeni gymaint gan y symptomau. Mae hyn i'ch helpu i deimlo'n fwy sefydlog, er mwyn i chi allu byw eich bywyd fel y dymunwch. Gall cymryd cyffuriau gwrthseicotig hefyd leihau'r risg y bydd y symptomau hyn yn dychwelyd yn y dyfodol (ail bwl o salwch).

Efallai y gwelwch fod rhai mathau o gyffuriau gwrthseicotig yn gweithio'n well nag eraill ar gyfer eich symptomau. Neu efallai y gwelwch nad yw cyffuriau gwrthseicotig yn addas i chi. Gweler ein tudalen ar sut y gall cyffuriau gwrthseicotig helpu i ddarganfod mwy.

Maen nhw'n gwneud i mi deimlo'n dawel, yn fy helpu i gysgu, yn stopio meddyliau rhag rasio ac yn helpu i bylu rhithweledigaethau. Nid yw meddyginiaeth yn gwneud bywyd yn berffaith - maen nhw'n fy helpu i ymdopi â'r amherffeithrwydd a'r trafferthion rwy'n eu hwynebu.

Beth yw'r wyddoniaeth y tu ôl i gyffuriau gwrthseicotig?

Mae sawl esboniad posibl pam y gall cyffuriau gwrthseicotig helpu i leihau symptomau seicotig:

  • Rhwystro dopamin rhag gweithredu. Mae rhai gwyddonwyr yn credu bod rhai profiadau seicotig yn cael eu hachosi am fod eich ymennydd yn cynhyrchu gormod o gemegyn o'r enw dopamin. Mae dopamin yn niwrodrosglwyddydd, sy'n golygu ei fod yn trosglwyddo negeseuon o amgylch eich ymennydd. Mae'n hysbys bod y rhan fwyaf o gyffuriau gwrthseicotig yn rhwystro rhai o'r derbynyddion dopamin yn yr ymennydd. Mae hyn yn lleihau llif y negeseuon hyn, a all helpu i leihau eich symptomau seicotig.
  • Effeithio ar gemegau eraill yr ymennydd. Mae'n hysbys bod y rhan fwyaf o gyffuriau gwrthseicotig yn effeithio ar gemegau eraill yr ymennydd hefyd. Gall hyn gynnwys y niwrodrosglwyddyddion serotonin, noradrenalin, a glwtamad. Credir bod y cemegau hyn yn ymwneud â rheoleiddio eich hwyliau.
  • Parkinsonism. Mae rhai gwyddonwyr yn credu bod rhai cyffuriau gwrthseicotig yn gweithio trwy achosi Parkinsonism, sef anhwylder symud. Mae hyn yn golygu y gallant achosi rhai o symptomau corfforol Parkinsonism fel sgil effeithiau. Ond gallant hefyd achosi symptomau seicolegol Parkinsonism, megis peidio â theimlo emosiynau a cholli diddordeb mewn gweithgareddau. Mae'r effeithiau hyn yn fwy cyffredin gyda chyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf, neu gyffuriau gwrthseicotig 'nodweddiadol'.

Gall cyffuriau gwrthseicotig helpu i leddfu symptomau seicotig drwy achosi newidiadau i gemeg eich ymennydd. Ond gall achosion seicosis fod yn gymhleth iawn, a gall eich profiadau bywyd a'ch amgylchedd effeithio arnynt gymaint â'r cemegau yn eich ymennydd.

Dyma pam yr ydych yn debygol o gael cynnig therapi siarad fel triniaeth ar gyfer eich seicosis, ochr yn ochr â meddyginiaeth. Mae hyn i'ch helpu gydag achosion eich seicosis, tra bod y feddyginiaeth yn eich helpu i ddelio â'r symptomau.

Pa fathau gwahanol o gyffuriau gwrthseicotig sydd i'w cael?

Mae cyffuriau gwrthseicotig yn dueddol o ddisgyn i un o ddau gategori:

  • cenhedlaeth gyntaf (hŷn), neu gyffuriau gwrthseicotig 'nodweddiadol'
  • ail genhedlaeth (mwy newydd), neu gyffuriau gwrthseicotig 'annodweddiadol'.

Gall y ddau fath weithio i wahanol bobl. Mae ganddynt hefyd sgil-effeithiau gwahanol.

Cyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf (hŷn)

Ffeithiau allweddol:

  • Cyfeirir at y rhain weithiau fel 'nodweddiadol'.
  • Maent yn rhannu'n grwpiau cemegol amrywiol sydd i gyd yn gweithredu mewn ffordd debyg iawn a gallant achosi sgil-effeithiau tebyg iawn, gan gynnwys rhai sgil-effeithiau niwrogyhyrol difrifol.
  • Ond nid ydynt i gyd yr un peth. Er enghraifft, gall rhai achosi anhwylderau symud mwy difrifol nag eraill, neu fod yn fwy tebygol o'ch gwneud chi'n fwy cysglyd.

Cyffuriau gwrthseicotig ail genhedlaeth (mwy newydd)

Ffeithiau allweddol:

  • Cyfeirir at y rhain weithiau fel 'annodweddiadol'.
  • Yn gyffredinol, maent yn achosi sgil-effeithiau niwrogyhyrol llai difrifol na chyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf.
  • Mae rhai hefyd yn llai tebygol o achosi sgil-effeithiau rhywiol o gymharu â chyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf.
  • Ond gall cyffuriau gwrthseicotig ail genhedlaeth fod yn fwy tebygol o achosi sgil-effeithiau metabolaidd difrifol. Gall hyn gynnwys magu pwysau yn gyflym a newidiadau i lefelau siwgr yn y gwaed.

Bydd y sgil-effeithiau y gallech eu profi o gyffuriau yn y naill grŵp neu'r llall yn amrywio, yn dibynnu ar eich dos a sut yr ydych yn ymateb i'r cyffur a roddir i chi ar bresgripsiwn.

Am restr lawn o'r holl gyffuriau gwrthseicotig sy'n cael eu cymharu yn ôl categori, ffurf a hanner oes, gweler ein tudalen ar gymharu cyffuriau gwrthseicotig. I gael rhagor o fanylion am gyffuriau gwrthseicotig penodol, gallwch hefyd edrych ar bob cyffur unigol yn ein rhestr A-Z o gyffuriau gwrthseicotig.

Rwy'n dal i gymryd cyffuriau gwrthseicotig heddiw a does gen i ddim problem gyda nhw. Rwy'n teimlo cymaint yn well na phan gefais bresgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig y tro cyntaf. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n gweithio i mi ac yn helpu.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig