Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Cyffuriau gwrthseicotig yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
Beth yw risgiau a manteision cymryd cyffuriau gwrthseicotig tra byddwch chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron?
Nid oes llawer o dystiolaeth ynghylch pa mor ddiogel yn union yw cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ystod beichiogrwydd neu fwydo ar y fron. Ond mae rhai risgiau hysbys i gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ystod y cyfnod hwn.
- Risgiau i'ch babi sy'n datblygu yn ystod tri mis cyntaf eich beichiogrwydd (y tymor cyntaf). Mae risgiau uwch yn gysylltiedig â phob cyffur yn ystod y cyfnod hwn, pan fydd eich babi sy'n datblygu yn fwyaf agored i niwed.
- Effeithiau posibl ar eich babi yn ystod tri mis olaf eich beichiogrwydd (trydydd tymor). Er enghraifft, mae risg y gall eich babi gael anhwylder cyhyrau dros dro os byddwch chi'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn y trydydd tymor. Daw pob risg yn uwch yn ystod wythnosau olaf beichiogrwydd, pan fydd eich babi yn dod yn fwy agored i niwed eto.
- Diabetes yn ystod beichiogrwydd a magu gormod o bwysau. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gall cymryd cyffuriau gwrthseicotig eich gwneud yn fwy tebygol o fagu pwysau a datblygu diabetes. Mae diabetes yn ystod beichiogrwydd yn fath o ddiabetes sy'n dechrau yn ystod beichiogrwydd. Dylai eich tîm gofal iechyd fonitro unrhyw arwyddion o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd tra'ch bod yn feichiog.
- Os ydych chi'n bwydo ar y fron, gall cyffuriau gwrthseicotig gael eu trosglwyddo i'ch babi trwy laeth y fron. Gallai'ch babi gael rhai sgil-effeithiau o'r feddyginiaeth oherwydd hyn.
- Siaradwch â'ch meddyg neu seiciatrydd os ydych am fwydo ar y fron a pharhau i gymryd eich meddyginiaeth. Gallant roi gwybod i chi pa mor ddifrifol yw'r risgiau gyda'r cyffur gwrthseicotig rydych chi'n ei gymryd. Os yw'r risg yn isel, efallai y byddwch chi'n teimlo bod manteision bwydo ar y fron wrth gymryd eich meddyginiaeth yn fwy nag unrhyw risgiau. Ond gyda rhai cyffuriau gwrthseicotig, maent yn debygol o'ch cynghori i beidio â bwydo ar y fron. Mae hyn yn wir os ydych chi'n cymryd clozapine.
- Nid yw cyffuriau fel arfer yn cael eu profi'n glinigol ar unrhyw un sy'n feichiog. Nid oes llawer o dystiolaeth ynghylch pa mor ddiogel yw cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ystod beichiogrwydd. Mae gan gyffuriau mwy newydd fwy o risgiau 'na wyddys amdanynt' na chyffuriau sydd wedi bod o gwmpas yn hirach. Mae hyn oherwydd bod gwyddonwyr wedi cael llai o amser i gasglu tystiolaeth amdanynt.
Gall fod manteision hefyd i gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ystod y cyfnod hwn:
- Efallai eich bod eisoes yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig pan fyddwch chi'n feichiog. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n bryderus ynghylch mynd yn anhwylus neu’n poeni am fethu ag ymdopi os byddwch chi’n rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig. Gall hyn olygu eich bod yn penderfynu mai’r peth gorau i chi a’ch babi yw parhau i’w cymryd, fel eich bod yn ddigon iach i ofalu am eich babi.
- Neu efallai y cewch gynnig cyffuriau gwrthseicotig i helpu i drin problem y byddwch yn ei datblygu yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl hynny, megis seicosis ôl-enedigol.
Gall eich meddyg neu seiciatrydd eich helpu i gydbwyso'r risgiau posibl i'ch babi yn erbyn unrhyw niwed posibl o beidio â chymryd eich meddyginiaeth. Mae hyn i'ch helpu i wneud eich penderfyniad eich hun ynghylch yr hyn sydd orau i chi. Ond mae'n ddealladwy teimlo'n ansicr am hyn, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi chwilio am gymorth pellach yn ystod yr amser hwn.
Beth alla i ei wneud i deimlo bod gennyf fwy o reolaeth?
Gall bod yn feichiog deimlo weithiau fel eich bod yn rhoi'r gorau i reolaeth ar eich corff eich hun. Gall hyn achosi straen, ond mae llawer o gamau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd:
- Mae cynllunio'ch beichiogrwydd yn rhoi mwy o opsiynau i chi yn gynnar. Ond mae hefyd yn brofiad cyffredin i ddarganfod eich bod chi'n feichiog heb ei gynllunio. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae'n bwysig cofio bod gennych yr un hawliau â phawb arall. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i ddewis a ddylech gymryd meddyginiaeth ai peidio ac i ddweud eich dweud mewn penderfyniadau am eich triniaeth.
- Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gynted ag y gallwch. Gallech gael sgwrs gyda'ch meddyg neu'ch bydwraig, neu arbenigwr iechyd meddwl fel seiciatrydd. Po gynharaf y dechreuwch siarad â rhywun am eich opsiynau, y mwyaf mewn rheolaeth y byddwch yn debygol o deimlo. Ar gyfer beichiogrwydd a gynlluniwyd, mae hyn cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu eich bod am ddechrau ceisio beichiogi. Ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio, mae hyn cyn gynted ag y credwch y gallech fod yn feichiog.
- Ceisiwch gymorth pellach, i drafod eich opsiynau a phenderfynu ar yr hyn sy'n iawn i chi.
- Os penderfynwch aros ar eich meddyginiaeth, gofynnwch i'ch meddyg neu seiciatrydd sut y gallwch leihau unrhyw risgiau. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n gallu rheoli eich symptomau'n effeithiol ar ddos is.
- Os byddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny'n ddiogel. Gweler ein tudalennau ar roi'r gorau i feddyginiaeth am ragor o wybodaeth. A darllenwch ein tudalen ar ddewisiadau amgen i gyffuriau gwrthseicotig i gael gwybodaeth am driniaethau a chymorth eraill ar gyfer eich iechyd meddwl.
Cymorth pellach yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Gall fod yn anodd dod i benderfyniad yr ydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag ef am yr hyn sy'n iawn i chi a'ch babi. Mae'n ddealladwy os ydych chi'n teimlo gwrthdaro neu'n ansicr beth i'w wneud.
Yn ogystal â siarad â’ch meddyg neu seiciatrydd, efallai y bydd yr opsiynau cymorth hyn yn ddefnyddiol i chi:
- Siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny, gall helpu i drafod eich teimladau gyda rhywun fel partner neu ffrind agos.
- Apwyntiadau bydwraig. Gallwch siarad â'ch bydwraig am sut rydych chi'n teimlo trwy gydol eich beichiogrwydd. Gallant hefyd helpu i sicrhau eich bod yn cael digon o gymorth gan eich ymwelydd iechyd ar ôl i chi roi genedigaeth. Mae ein tudalen siarad â’ch meddyg teulu yn cynnwys awgrymiadau o ran cael sgyrsiau am eich iechyd meddwl gydag unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol, gan gynnwys eich bydwraig.
- Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig cymorth i'ch helpu i gadw'n iach yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch gael eich cyfeirio at y gwasanaethau hyn gan weithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal, fel eich meddyg.
- Cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein. Gall fod yn ddefnyddiol siarad â phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg i'ch rhai chi. Mae gan Netmums rwydwaith ar-lein cefnogol i bob rhiant a darpar riant. Gallwch hefyd siarad am eich profiadau ag eraill ar gymuned ar-lein gefnogol Mind, sef Side by Side. Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl ar-lein i gael gwybodaeth am ddefnyddio'r we os ydych chi'n teimlo'n agored i niwed.
- Sefydliadau arbenigol. Mae sefydliadau fel Action on Postpartum Psychosis, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant a Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn rhoi gwybodaeth a chymorth ar feichiogrwydd, bwydo ar y fron ac iechyd meddwl.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein tudalennau ar fod yn rhiant â phroblem iechyd meddwl. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ofalu amdanoch chi eich hun, gofalu am eich plant, a mathau eraill o gymorth sydd ar gael i rieni. Gall ein gwybodaeth ar broblemau iechyd meddwl amenedigol hefyd helpu.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.