Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyffuriau gwrthseicotig

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.

Penderfynais roi cynnig ar gyffuriau gwrthseicotig oherwydd bod rhithweledigaethau a diffyg cwsg yn peryglu fy niogelwch. Cyn i mi gymryd y feddyginiaeth, roeddwn wedi blino'n llwyr.

Pa gyffur gwrthseicotig allai fod yn iawn i mi?

Mae'r cyffur gwrthseicotig gorau i chi yn debygol o ddibynnu ar ychydig o ffactorau gwahanol:

Eich diagnosis a'ch symptomau

Er enghraifft:

  • Ar gyfer sgitsoffrenia – gall pob cyffur gwrthseicotig helpu i reoli symptomau 'cadarnhaol' sgitsoffrenia. Ond mae'n debycach y byddai cyffur gwrthseicotig ail genhedlaeth yn gallu helpu gyda symptomau 'negyddol' sgitsoffrenia. Yn aml, prin fydd effaith cyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf ar y symptomau negyddol. Mae'n bosibl y bydd rhai o'u sgil effeithiau yn gwneud eich symptomau negyddol yn waeth.
  • Efallai y byddwch yn rhoi cynnig ar wahanol fathau o gyffuriau gwrthseicotig a chanfod nad ydynt yn rheoli eich symptomau sgitsoffrenia. Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ddau fath o gyffuriau gwrthseicotig nad ydynt wedi gweithio, gan gynnwys cyffur gwrthseicotig ail genhedlaeth, efallai y cewch gynnig clozapine. 
  • Ar gyfer anhwylder deubegynol neu iselder difrifol – mae'n fwy tebygol y cewch gynnig cyffur gwrthseicotig ail genhedlaeth.

Eich profiadau o gymryd meddyginiaeth yn y gorffennol

Mae hyn yn cynnwys trafod yr hyn sydd wedi gweithio a'r hyn nad yw wedi gweithio i chi yn y gorffennol. Er enghraifft, os ydych wedi rhoi cynnig ar un math o gyffur gwrthseicotig a chael llawer o broblemau ag ef, gallech roi cynnig ar fath gwahanol yn lle hynny.

Eich sefyllfa feddygol

Mae ein tudalen cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen i chi fod yn ofalus ynghylch cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Mae hefyd yn cwmpasu sefyllfaoedd pan fydd angen i chi osgoi cymryd cyffuriau gwrthseicotig yn llwyr.

Yr hyn yr ydych ei eisiau o'ch triniaeth

Dylid dewis eich meddyginiaeth bob amser ar sail trafodaeth rhyngoch chi a'r rhai sy'n ymwneud â'ch gofal, gan gynnwys eich meddyg a'ch seiciatrydd. Dylai'r drafodaeth hon gymryd eich dewisiadau i ystyriaeth. Gallech ofyn i ffrind rydych chi'n ymddiried ynddo, aelod o'r teulu, gofalwr neu eiriolwr i ymuno â chi yn y drafodaeth hon, os dymunwch.

Gweler ein tudalennau ar beth i'w wybod cyn cymryd unrhyw gyffur a dod o hyd i'r cyffur iawn i chi am syniadau o'r hyn y gallech fod am ei drafod yn ystod y sgwrs hon.

Neu gweler ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl am gyngor ar siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, dweud eich dweud mewn penderfyniadau a sicrhau eich bod pobl yn gwrando arnoch.

Mae'r cyffur gwrthseicotig yn fy nhawelu - byddwn yn fwy craff ac yn fwy bywiog hebddo, ond byddwn yn wynebu risg llawer uwch bod fy meddyliau'n mynd allan o reolaeth.

Pa mor gyflym y byddan nhw'n gweithio?

Mae hyn yn dibynnu'n rhannol ar sut rydych chi'n eu cymryd:

  • Trwy'r geg. Os byddwch chi'n eu cymryd trwy'r geg, ar ffurf tabledi neu surop, mae effaith tawelydd y cyffur yn cymryd ychydig oriau i ddechrau gweithio fel arfer. Gall y ffurf hylif weithio'n gyflymach na'r tabledi.
  • Chwistrelliad depo. Mae rhai cyffuriau gwrthseicotig ar gael drwy bigiad dwfn i gyhyr, a elwir yn 'chwistrelliad depo'. Mae'r cyffur yn cael ei ryddhau'n araf, sy'n gweithredu'n araf ac yn gyson dros gyfnod o ddwy i chwe wythnos, neu hirach. Gweler ein tudalen ar bigiadau depo am ragor o wybodaeth.
  • Chwistrelliad brys. Mewn argyfwng, efallai y byddwch yn cael pigiad i mewn i gyhyr. Yn yr achos hwn mae effaith y tawelydd yn gyflym, ac fel arfer yn cyrraedd uchafbwynt o fewn un awr. Os rhoddir y cyffur gwrthseicotig asetad zuclopenthixol (Clopixol Acuphase) i chi fel pigiad brys, gall gymryd 36 awr i gyrraedd ei anterth. Gweler ein gwybodaeth am bigiadau brys i ganfod mwy.

Mae ffactorau eraill a all effeithio hefyd ar ba mor gyflym y mae unrhyw feddyginiaeth yn gweithio i chi yn cynnwys:

  • eich metaboledd
  • ensymau eich afu
  • pa mor gorfforol egnïol ydych chi.

Pa ddull bynnag a ddefnyddiwch i gymryd cyffuriau gwrthseicotig, efallai y byddant yn gweithio'n eithaf cyflym i wneud i chi deimlo'n dawelach. Ond fe all gymryd dyddiau neu wythnos i leihau eich symptomau seicotig.

Beth yw pigiad brys?

Os yw meddygon yn ystyried eich bod mewn 'sefyllfa o argyfwng', efallai y rhoddir cyffur gwrthseicotig neu gyffur tawelydd arall i chi i'ch tawelu'n gyflym. 

Yn ddelfrydol, dylid rhoi meddyginiaeth frys i chi drwy'r geg. Ond os nad yw hynny'n bosibl, efallai y bydd angen rhoi cyffuriau i chi fel pigiad cyflym i mewn i gyhyr. Gelwir hyn yn chwistrelliad brys. 

Beth yw sefyllfa o argyfwng?

Rydych chi mewn sefyllfa o argyfwng os:

  • rydych yn ymddwyn mewn ffordd sy’n rhoi eich hun mewn perygl uniongyrchol, neu’n rhoi pobl eraill mewn perygl uniongyrchol
  • nad ydych wedi ymateb i fesurau i geisio lleddfu'r sefyllfa,
  • rydych wedi gwrthod cymryd meddyginiaeth drwy’r geg a fyddai’n eich tawelu, neu rydych wedi cymryd y feddyginiaeth honno ond nid yw wedi gweithio.

Mewn sefyllfa fel hon, efallai y bydd meddygon yn penderfynu bod angen rhywbeth arnoch i'ch tawelu cyn gynted â phosibl (gelwir hyn yn tawelu cyflym). Gallant wneud hyn heb eich caniatâd os ydych yn cael eich cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a elwir yn aml yn cael eich 'cadw dan orchymyn'. Gweler ein tudalennau ar gael eich cadw dan orchymyn am wybodaeth ynghylch pryd y gall fod yn gyfreithiol i'ch cadw dan orchymyn a beth yw eich hawliau yn y sefyllfa hon.

Pa feddyginiaethau y gellir eu defnyddio ar gyfer pigiad brys?

Y cyffuriau gwrthseicotig y gellir eu rhoi trwy chwistrelliad brys yw:

  • olanzapine
  • aripiprazole
  • haloperidol
  • risperidone

Efallai y rhoddir lorazepam neu promethazine i chi. Mae'r rhain yn fathau gwahanol o gyffuriau, ond gellir defnyddio'r ddau fel tawelyddion. Weithiau, gall meddygon ddefnyddio lorazepam ar yr un pryd â chyffur gwrthseicotig, os ydych yn gynhyrfus iawn.

Mewn rhai achosion, gall meddygon ddefnyddio asetad zuclopenthixol (Clopixol-Acuphase). Rhoddir hwn fel pigiad a gall eich tawelu am ddau neu dri diwrnod. Dylent ond ddefnyddio hwn ond os nad yw meddyginiaethau sy'n para am gyfnod byrrach yn gweithio.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gwrthod y pigiadau?

Os byddwch yn gwrthod y pigiadau hyn, efallai y cewch eich atal gan staff yr ysbyty tra bydd nyrs gymwys yn rhoi'r pigiad i chi. Gall hyn fod yn annymunol iawn. Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â'ch atal fod wedi cael hyfforddiant arbennig i osgoi achosi anaf i chi.

Gall profi tawelwch cyflym fel hyn fod yn drawmatig. Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau ar ddefnyddio dulliau tawelu cyflym yn y lleoliad hwn. Mae’r canllawiau hyn yn nodi y dylech gael y cyfle wedyn i wneud y canlynol:

  • trafod y profiad gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am eich gofal
  • ysgrifennu eich cofnod eich hun o'r hyn a ddigwyddodd, i'w gadw yn eich nodiadau ysbyty.

Cofiwch: os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno. Gweler ein tudalennau ar gwyno am iechyd a gofal cymdeithasol am fwy o wybodaeth.

A allai fod angen i mi gymryd meddyginiaeth arall hefyd?

Efallai y cynigir cyfuniad o gyffur gwrthseicotig a chyffur arall i chi fel y ffordd orau o reoli eich symptomau. Mae hyn yn debygol o ddibynnu ar:

  • eich diagnosis a'ch symptomau
  • y math o sgil-effeithiau y gall eich prif gyffur gwrthseicotig eu hachosi.

Mae’r mathau eraill o feddyginiaeth y gellir eu cynnig i chi fel rhan o’ch triniaeth yn cynnwys:

Cofiwch: dylech bob amser wirio gyda'ch meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd cyn cymryd gwahanol gyffuriau ar yr un pryd, neu tua'r un adeg â'i gilydd. Mae hyn rhag ofn y gallai'r cyffuriau rhyngweithio'n wael â'i gilydd. Gweler ein tudalen ar gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel am ragor o wybodaeth.

 

Mae'n anodd dweud [sut mae cyffuriau gwrthseicotig yn gweithio i mi] oherwydd cefais bresgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder cryf a thabledi cysgu ar yr un pryd.

A allai fod angen i mi gymryd dau gyffur gwrthseicotig ar yr un pryd?

Yr enw ar roi presgripsiwn am fwy nag un cyffur gwrthseicotig ar yr un pryd yw amlgyffuriaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai meddygon osgoi gwneud hyn, ac eithrio mewn sefyllfaoedd tymor byr penodol. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd tra byddwch yn newid o un cyffur gwrthseicotig i un arall.

Ond mewn rhai amgylchiadau efallai y cewch bresgripsiwn am fwy nag un cyffur gwrthseicotig ar gyfer y tymor hwy. Gall hyn ddigwydd:

  • os nad yw'n ymddangos bod eich meddyginiaeth reolaidd yn gweithio'n ddigon da
  • os rydych chi a'ch meddyg neu seiciatrydd wedi canfod mai cyfuniad gofalus o ddau gyffur sy'n rheoli'ch symptomau orau.

Os ydych yn cael eich cadw yn yr ysbyty o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (dan gadwad), efallai y bydd meddygon yn gallu rhoi presgripsiwn am fwy nag un cyffur gwrthseicotig i chi ar yr un pryd. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallant wneud hyn heb eich caniatâd. Gweler ein tudalen ar driniaeth heb ganiatâd am ragor o wybodaeth.

A allai cymryd cyffuriau gwrthseicotig wneud i mi deimlo'n waeth?

Mae’n bwysig cofio y gall pob cyffur effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Nid yw cyffuriau gwrthseicotig yn ddefnyddiol i bawb. Gall llawer o bobl brofi sgil effeithiau negyddol ar ôl eu cymryd. Efallai y bydd llawer o'r bobl hyn yn gweld bod effeithiau da'r cyffuriau gwrthseicotig yn gwneud yn iawn am yr effeithiau drwg. Ond nid yw pawb yn meddwl hynny.

Bydd eich profiad o gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn bersonol i chi. Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ychydig o wahanol gyffuriau cyn dod o hyd i'r un sydd fwyaf addas i chi. Gallwch hefyd weithio gyda'ch meddyg neu seiciatrydd i ddod o hyd i'r dos cywir i chi.

Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall fod yn anodd rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig. Gallant achosi effeithiau diddyfnu os byddwch yn rhoi'r gorau i'w defnyddio'n rhy gyflym. Felly os penderfynwch geisio rhoi'r gorau i'ch cyffuriau gwrthseicotig, mae'n bwysig gwneud hynny'n raddol. Gweler ein tudalen ar roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrthseicotig am ragor o wybodaeth.

I ddysgu am y sgil-effeithiau posibl a'r effeithiau diddyfnu sy'n gysylltiedig â chyffur gwrthseicotig penodol, gallwch chwilio yn ein rhestr A-Z o gyffuriau gwrthseicotig. I gael syniadau am reoli eich iechyd meddwl heb gyffuriau, gweler ein tudalen ar ddewisiadau amgen i feddyginiaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.

This page is currently under review. All content was accurate when published. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig