Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Beth yw'r dewisiadau amgen i gyffuriau gwrthseicotig?
Os nad ydych am gymryd cyffuriau gwrthseicotig, mae llawer o driniaethau amgen y gallwch roi cynnig arnynt. Efallai y gwelwch ei bod yn bosibl rheoli eich symptomau, neu wella'n llwyr, heb feddyginiaeth.
Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig, efallai y byddwch hefyd am ddefnyddio opsiynau eraill i gefnogi eich iechyd meddwl, yn ogystal â'ch meddyginiaeth.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am rai o'r dewisiadau amgen cyffredin i gyffuriau gwrthseicotig. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi eu defnyddio yn lle eich meddyginiaeth, neu ochr yn ochr â hi:
Ar y cyd â meddyginiaethau gwrthseicotig, dwi wedi canfod bod technegau tynnu sylw yn ffordd wych o ddelio â meddyliau a lleisiau cythryblus yn fy meddwl. Mae unrhyw beth a phopeth sy'n tynnu sylw yn gymaint o gymorth i mi, o beintio fy ewinedd i bobi cacen, o wylio DVD i liwio.
Therapïau siarad
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn argymell, ar gyfer llawer o broblemau iechyd meddwl, y dylid cynnig mathau eraill o driniaethau i chi ochr yn ochr â meddyginiaeth neu yn ei lle.
Mae hyn yn aml yn cynnwys cael cynnig math o therapi siarad neu gwnsela, fel:
Gweler ein rhestr A-Z o iechyd meddwl am wybodaeth am wahanol broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys pa fathau o driniaethau a argymhellir ar gyfer pob un.
Therapïau celfyddydol a chreadigol
Mae therapïau celfyddydol a chreadigol yn eich helpu i fynegi eich teimladau trwy bethau fel peintio, gwaith clai, cerddoriaeth neu therapi drama. Gallant eich helpu i ymdrin â'ch symptomau, yn enwedig os ydych chi'n ei chael hi'n anodd siarad am sut rydych chi'n teimlo.
Ecotherapi
Mae ecotherapi yn fath o driniaeth therapiwtig sy'n cynnwys gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur. Gall hyn gynnwys gweithio ar brosiect cadwraeth neu arddio. Neu gallwch gerdded neu feicio trwy goetir neu ardaloedd eraill byd natur.
Therapïau cyflenwol ac amgen
Mae rhai pobl yn gweld bod therapïau cyflenwol ac amgen yn helpu i reoli eu symptomau. Er enghraifft, gall hyn fod yn aromatherapi, adweitheg neu aciwbigo. Gall therapïau cyflenwol hefyd helpu i reoli rhai o sgil-effeithiau meddyginiaeth, os penderfynwch barhau â nhw.
Gall rhai meddyginiaethau llysieuol ryngweithio â chyffuriau gwrthseicotig a mathau eraill o feddyginiaeth. Felly os ydych yn ystyried cymryd meddyginiaeth lysieuol ochr yn ochr ag unrhyw feddyginiaeth, siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd i weld a ydyw hyn yn ddiogel.
Dwi'n mwynhau gweddïo a myfyrio yn ogystal â gweithio yn fy manc bwyd lleol. Dwi hefyd yn mwynhau ysgrifennu creadigol.
Cefnogaeth gan gymheiriaid
Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn eich galluogi i gysylltu â phobl sydd â phrofiadau tebyg i’ch rhai chi. Os hoffech roi cynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid, gallech wneud y canlynol:
- cysylltu â llinell wybodaeth Mind neu gangen Mind yn lleol i weld pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal chi
- rhoi cynnig ar gymuned cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein, megis y gymuned Side by Side gan Mind, neu eGymuned Bipolar UK. Neu fe allech chi roi cynnig ar y Hearing Voices Network, os ydych chi'n clywed lleisiau neu os ydych chi'n rhith-weld pethau.
[Yr hyn sy'n fy helpu yw] rhedeg, diet iach a Pilates. Mae gen i hefyd ffrindiau a grŵp cymorth dwi'n ymddiried ynddynt.
Gofalu am eich iechyd corfforol
- Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ei fwyta a'i yfed. Gall bwyta diet cytbwys a maethlon helpu i reoli rhai o'ch symptomau. Gall yfed digon o ddŵr hefyd helpu eich lles meddyliol. Gweler ein tudalennau ar fwyd a hwyliau am ragor o wybodaeth. Os oes gennych chi berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, efallai y bydd ein tudalennau ar broblemau bwyta yn eich helpu.
- Ceisiwch fod yn fwy egnïol. Mae llawer o bobl yn gweld bod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i godi eu hwyliau, yn rhoi hwb i’w lefelau egni, ac yn cadw eu traed ar y ddaear. Gweler ein tudalennau ar ymarfer corff a'ch iechyd meddwl am ragor o wybodaeth.
- Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cael digon o gwsg deimlo’n anodd weithiau. Ond, mae cael digon o gwsg da yn ddefnyddiol iawn i’ch iechyd meddwl. Gweler ein tudalennau ar broblemau cysgu am ragor o wybodaeth.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.