Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Sut gallaf gymharu gwahanol gyffuriau gwrthseicotig?
Mae gan y dudalen hon dablau i'ch helpu i gymharu cyffuriau gwrthseicotig yn ôl gwahanol ffactorau. Maent yn cynnwys y canlynol:
- enw generig a nodweddion allweddol
- math o gyffuriau gwrthseicotig (cenhedlaeth gyntaf neu ail genhedlaeth)
- hanner oes
- y ffurf maent ar gael
- ystyriaethau dietegol
Pam y byddwn i eisiau cymharu cyffuriau gwrthseicotig?
Gall deall mwy am y gwahanol gyffuriau gwrthseicotig sydd ar gael eich helpu i siarad â’ch meddyg neu seiciatrydd am yr hyn sy’n iawn i chi, gan gynnwys:
- Os ydych chi wedi cael problemau gyda math arbennig o gyffuriau gwrthseicotig ac eisiau eu hosgoi. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael problemau gyda chyffuriau gwrthseicotig cenhedlaeth gyntaf (hŷn) ac eisiau newid i gyffur mwy newydd.
- Os oes angen i chi gael eich meddyginiaeth mewn ffurf wahanol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael problemau gyda llyncu neu'n ei chael hi'n anodd cofio cymryd eich meddyginiaeth yn gywir bob dydd.
- Os oes gennych unrhyw gyfyngiadau dietegol, megis bod yn llysieuwr neu'n anoddefgar o rai cynhwysion.
- Os yw hanner oes y cyffur yn bwysig i chi. Er enghraifft, os ydych chi'n poeni am effeithiau diddyfnu ac y byddai'n well gennych gael cyffur sydd â hanner oes hirach. I gael gwybodaeth am ystyr hanner oes a pham ei fod yn bwysig, gweler ein tudalen am hanner oes meddyginiaeth.
- Os ydych yn poeni am sgil effeithiau penodol o'ch meddyginiaeth.
Cyffuriau gwrthseicotig yn ôl enw generig a nodweddion allweddol
Gall pob un o'r cyffuriau hyn gael eu hadnabod gan nifer o enwau gwahanol, ac rydym wedi'u rhestru isod o dan y colofnau 'enw generig' ac 'enwau masnach'. Gweler ein tudalen ar enwau cyffuriau am ragor o wybodaeth.
Enw generig | Enwau masnachol (DU) | Math o gyffuriau gwrthseicotig | Y ffurf sydd ar gael | Hanner oes | Ystyriaethau deietegol |
---|---|---|---|---|---|
amisulpride | Solian | Ail genhedlaeth |
|
oddeutu 12 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
aripiprazole | Abilify, Arpoya | Ail genhedlaeth |
|
75 i 146 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
aripiprazole (depot) | Abilify Maintena | Depo ail genhedlaeth | 29 i 46 diwrnod | dim | |
asenapine | Sycrest | Ail genhedlaeth |
|
oddeutu 24 awr | yn cynnwys gelatin |
benperidol | Anquil | Cenhedlaeth gyntaf |
|
6 i 10 awr | yn cynnwys lactos |
cariprazine | Reagila | Ail genhedlaeth |
|
2 i 8 diwrnod | yn cynnwys gelatin |
chlorpromazine | Chloractil, Largactil | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 30 awr | tabledi yn cynnwys lactos a gelatin |
clozapine | Clozaril, Denzapine, Zaponex | Ail genhedlaeth |
|
6 i 26 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
flupentixol | Depixol, Fluanxol | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 35 awr | yn cynnwys lactos |
flupentixol decanoate | Depixol, Psytixol | Depo cenhedlaeth gyntaf | 17 i 21 diwrnod | yn cynnwys olew cnau coco | |
fluphenazine decanoate | Modecate | Depo cenhedlaeth gyntaf | 2.5 i 16 wythnos | yn cynnwys olew sesame | |
haloperidol | Haldol, Halkid | Cenhedlaeth gyntaf |
|
21 i 24 awr | mae rhai tabledi yn cynnwys lactos |
haloperidol decanoate | Haldol decanoate | Depo cenhedlaeth gyntaf | oddeutu 21 diwrnod | yn cynnwys olew sesame | |
levomepromazine | Nozinan | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 30 awr | dim |
lurasidone | Latuda | Ail genhedlaeth |
|
20 i 40 awr | dim |
olanzapine | Zalasta, Zyprexa | Ail genhedlaeth |
|
31 i 52 awr | tabledi yn cynnwys lactos (ond nid ydy'r tabledi gwasgaradwy) |
olanzapine pamoate monohydrate | Zypadhera | Depo ail genhedlaeth | oddeutu 30 diwrnod | dim | |
paliperidone | Invega | Ail genhedlaeth |
|
oddeutu 23 awr | tabledi 3mg yn cynnwys lactos |
paliperidone palmitate | Trevicta, Xeplion | Depo ail genhedlaeth |
Trevicta: 84 i 139 diwrnod Xeplion: 25 i 49 diwrnod |
dim | |
pericyazine | Neulactil | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 12 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
pimozide | Orap | Cenhedlaeth gyntaf |
|
55 i 150 awr | dim |
prochlorperazine | Stemetil | Cenhedlaeth gyntaf |
|
4 i 9 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
promazine | dim | Cenhedlaeth gyntaf |
|
20 i 40 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
quetiapine |
Alaquet, Atrolak, Biquelle, Branco, Mintreleg, Seroquel, Tenprolide, |
Ail genhedlaeth |
|
7 i 12 awr | mae rhai tabledi yn cynnwys lactos |
risperidone | Risperdal | Ail genhedlaeth |
|
3 i 20 awr | tabledi yn cynnwys lactos mae rhai tabledi yn cynnwys gelatin |
risperidone (depot) | Risperdal Consta | Depo ail genhedlaeth | 3 i 6 diwrnod | dim | |
sulpiride | Dolmatil, Sulpor | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 8 awr | tabledi yn cynnwys lactos |
trifluoperazine | Stelazine | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 22 awr | tabledi yn cynnwys gelatin |
zuclopenthixol | Clopixol Acuphase | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 19 diwrnod | yn cynnwys olew cnau coco tenau |
zuclopenthixol decanoate | Clopixol | Depo cenhedlaeth gyntaf | oddeutu 19 diwrnod | yn cynnwys olew llysiau tenau | |
zuclopenthixol dihydrochloride | Clopixol | Cenhedlaeth gyntaf |
|
oddeutu 24 awr | yn cynnwys lactos |
Cyffuriau gwrthseicotig yn ôl hanner oes
I gael gwybodaeth am ystyr hanner oes a pham ei fod yn bwysig, gweler ein tudalen am hanner oes meddyginiaeth.
Hanner-oes |
Cyffuriau gwrthseicotig |
---|---|
3 i 20 awr | |
4 i 9 awr | |
6 i 10 awr | benperidol |
6 i 26 awr | clozapine |
7 i 12 awr | quetiapine |
oddeutu 8 awr | sulpiride |
oddeutu 12 awr | amisulpride |
oddeutu 12 awr | pericyazine |
20 i 40 awr | lurasidone |
20 i 40 awr | promazine |
21 i 24 awr | haloperidol |
oddeutu 22 awr | trifluoperazine |
oddeutu 23 awr | paliperidone |
odduetu 24 awr | asenapine |
oddeutu 24 awr | zuclopenthixol dihydrochloride |
oddeutu 30 awr | chlorpromazine |
oddeutu 30 awr | levomepromazine |
31 i 52 awr | olanzapine |
oddeutu 35 awr | flupentixol |
55 i 150 awr | pimozide |
75 i 146 awr | aripiprazole |
2 i 8 diwrnod | cariprazine |
3 i 6 diwrnod | risperidone (depot) |
17 i 112 diwrnod | fluphenazine decanoate |
17 i 21 diwrnod | flupentixol decanoate |
oddeutu 19 diwrnod | zuclopenthixol |
oddeutu 19 diwrnod | zuclopenthixol decanoate |
oddeutu 21 diwrnod | haloperidol decanoate |
25 i 139 diwrnod | paliperidone palmitate |
29 i 46 diwrnod | aripiprazole (depot) |
oddeutu 30 diwrnod | olanzapine pamoate monohydrate |
Cyffuriau gwrthseicotig yn ôl ystyriaethau dietegol
Efallai y bydd gan rai brandiau o gyffuriau unigol gyfyngiadau dietegol eraill nad ydynt wedi'u rhestru yn y tablau isod. Os ydych chi'n pryderu am hyn, gallwch wirio'r Daflen Gwybodaeth i Gleifion (PIL) sydd wedi'i chynnwys yn y blwch gyda'ch meddyginiaeth. Bydd hyn yn cynnwys rhestr lawn o gynhwysion eich meddyginiaeth.
Ystyriaethau deietegol | Cyffuriau gwrthseicotig gyda'r ystyriaethau hyn |
---|---|
Yn cynnwys lactos (dim ond yn berthnasol i ffurf tabled y cyffur, oni nodir yn benodol) |
|
Yn cynnwys gelatin |
|
Yn cynnwys olew cnai coco |
|
Yn cynnwys olew sesame |
|
Yn cynnwys olew llysiau |
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.