Cyffuriau gwrthseicotig
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir cyffuriau gwrthseicotig, sut mae'r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am roi'r gorau i feddyginiaeth.
Sut i gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel, gan gynnwys beth i'w ystyried cyn i chi ddechrau eu cymryd. Mae'n cwmpasu:
- Pa brofion sydd eu hangen arnaf cyn cymryd cyffur gwrthseicotig?
- Beth os oes gennyf gyflwr meddygol?
- Beth os ydw i'n berson hŷn?
- A allai cyffuriau gwrthseicotig ryngweithio â chyffuriau eraill?
Gall y tudalennau hyn helpu hefyd:
- Mae ein tudalennau dos cyffuriau gwrthseicotig a sgil-effeithiau cyffuriau gwrthseicotig yn cynnwys mwy o wybodaeth am gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel.
- Mae ein tudalen cyffuriau gwrthseicotig yn ystod beichiogrwydd yn cynnwys gwybodaeth am gymryd cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron.
Gallwch hefyd drafod unrhyw bryderon sydd gennych am gymryd cyffuriau gwrthseicotig gyda'ch meddyg neu seiciatrydd.
Archwiliad corfforol
Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhai mesuriadau corfforol a gofyn rhai cwestiynau am eich iechyd a'ch ffordd o fyw, i ganfod:
- eich pwysau
- maint eich canol
- eich pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon
- eich diet a lefel eich gweithgarwch corfforol
- a ydych yn dangos unrhyw arwyddion o anhwylderau symud
- a ydych yn ysmygu sigaréts ai peidio
- unrhyw feddyginiaethau presgripsiwn eraill rydych chi'n eu cymryd, ac unrhyw gyffuriau neu sylweddau eraill y gallech eu cymryd.
Profion gwaed
Mae'r rhain i fesur:
- siwgr yn y gwaed
- haemoglobin (celloedd coch y gwaed)
- colesterol (brasterau gwaed)
- lefel prolactin. Gweler ein gwybodaeth am sgil-effeithiau rhywiol a hormonaidd cyffuriau gwrthseicotig i ddarllen mwy am prolactin.
Electrocardiogram (ECG)
Mae electrocardiogram (ECG) yn brawf a ddefnyddir i wirio rhythm a gweithgarwch trydanol eich calon. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylech gael ECG cyn cael presgripsiwn am gyffuriau gwrthseicotig:
- os oes gennych bwysedd gwaed uchel neu unrhyw symptom arall a allai ymwneud â'ch calon
- mae gennych hanes teuluol o broblemau'r galon
- rydych yn mynd i gael eich derbyn i aros yn yr ysbyty
- argymhellir ECG ar gyfer y cyffur penodol y gellir ei roi i chi ar bresgripsiwn.
A fydd angen mwy o brofion arnaf ar ôl i mi ddechrau cymryd cyffuriau gwrthseicotig?
Ar ôl i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth, bydd angen i'ch tîm iechyd meddwl barhau i fonitro eich iechyd corfforol. Bydd angen iddynt hefyd fonitro a chofnodi:
- a ydych yn cymryd eich meddyginiaeth yn y ffordd gywir
- a yw eich meddyginiaeth yn eich helpu
- pa sgil-effeithiau mae'n eu hachosi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw sgil-effeithiau tebyg i symptomau seicosis, megis cynnwrf.
Os ydych ar ddos uchel o gyffuriau gwrthseicotig, dylech gael prawf ECG bob mis i dri mis. Mae hyn oherwydd y gall cyffuriau gwrthseicotig weithiau achosi problemau ar y galon fel un o'r sgil-effeithiau. Mae'r risg y bydd hyn yn digwydd yn uwch gyda dosau uwch.
Os byddwch chi'n llewygu'n anesboniadwy, dylech roi gwybod i'ch tîm iechyd meddwl fel y gallant fonitro rhythm eich calon yn rheolaidd. Dylech wneud hyn hyd yn oed os ydych ar ddos isel.
Os ydych chi wedi bod yn cymryd y cyffur ers blwyddyn ac yn dod ymlaen ag ef yn dda, gall eich meddyg, yn hytrach na'ch tîm iechyd meddwl, fonitro eich iechyd corfforol. Dylai eich meddyg adolygu eich triniaeth o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau ei bod yn dal i weithio'n dda i chi. Ond gallwch ofyn am adolygiad pryd bynnag y dymunwch.
Beth os oes gennyf gyflwr meddygol?
Os oes gennych unrhyw un o'r cyflyrau canlynol, dylai eich meddyg fod yn ofalus wrth roi presgripsiwn am gyffur gwrthseicotig i chi:
- clefyd yr afu neu'r arennau
- clefyd cardiofasgwlaidd (y galon a chylchrediad y gwaed), neu hanes teuluol ohono
- diabetes, neu hanes teuluol ohono
- clefyd Parkinson
- epilepsi
- iselder
- myasthenia gravis (clefyd prin sy'n effeithio ar y nerfau a'r cyhyrau)
- prostad chwyddedig
- glawcoma (clefyd llygaid difrifol)
- clefyd yr ysgyfaint gyda phroblemau anadlu
- anhwylderau gwaed penodol.
Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol o gwbl, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg neu seiciatrydd cyn iddynt roi presgripsiwn am eich meddyginiaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyflyrau iechyd nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod. Efallai y bydd angen i'ch meddyg eich monitro hyd yn oed yn fwy rheolaidd i wirio effeithiau'r cyffur gwrthseicotig ar eich iechyd.
Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn ddiogel rhoi presgripsiwn am gyffur gwrthseicotig i chi. Er enghraifft, ni ddylech fyth gael cyffur gwrthseicotig:
- os oes gennych chi phaeochromocytoma (math o diwmor sy'n achosi pwysedd gwaed uchel iawn)
- os ydych chi'n lled-ymwybodol, yn anymwybodol neu mewn coma.
Beth os ydw i'n berson hŷn?
Os ydych yn berson hŷn, dylai eich meddyg neu seiciatrydd fod yn ofalus wrth roi presgripsiwn am gyffur gwrthseicotig i chi. Os ydynt yn rhoi presgripsiwn am gyffur gwrthseicotig, efallai y bydd angen iddynt newid dos eich meddyginiaeth. Mae hyn oherwydd:
- mae cyffuriau gwrthseicotig yn fwy tebygol o achosi i'ch pwysedd gwaed ostwng pan fyddwch chi'n sefyll, a allai achosi i chi gwympo
- mae cyffuriau gwrthseicotig yn fwy tebygol o achosi tymheredd uchel ac isel yn y corff
- wrth i chi fynd yn hŷn, mae eich corff yn mynd yn llai effeithlon wrth ddelio â chyffuriau. Mae hyn yn golygu y bydd gan ddosau uwch fwy o risg o broblemau, felly mae'n debygol y bydd angen dos llai arnoch.
A allai cyffuriau gwrthseicotig ryngweithio â chyffuriau eraill?
Os byddwch chi'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig gyda chyffuriau eraill, weithiau gallant ryngweithio â'i gilydd. Gall hyn achosi effeithiau annymunol neu beryglus. Dylech bob amser siarad â'ch meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd cyn cymryd unrhyw gyffuriau ar yr un pryd neu tua'r un adeg â'i gilydd.
Mae’r wybodaeth isod yn dangos y prif risgiau rhyngweithio rhwng cyffuriau gwrthseicotig a:
Pob cyffur sydd â phriodweddau gwrthfysgarinig
Gall pob cyffur gwrthseicotig achosi sgil-effeithiau gwrthfysgarinig. Mae eu cyfuno â chyffuriau eraill sydd hefyd yn cael effeithiau gwrthfysgarinig yn debygol o waethygu'r sgil-effeithiau hyn.
Mae hyn yn arbennig o debygol os byddwch yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig gyda chyffuriau gwrth-iselder trichylchol.
Gall cyffuriau gwrth-Parkinson hefyd fod yn wrthfysgarinig. Mae'n bosibl y gallai cyffur gwrth-Parkinson ryngweithio â'ch cyffur gwrthseicotig i'ch gwneud chi'n ddryslyd. Gellid drysu hyn gyda'ch symptomau seicotig.
Tawelyddion ysgafn a thabledi cysgu penodol
Gall rhai tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn gynyddu effaith tawelyddu pob cyffur gwrthseicotig. Mae hyn yn golygu y byddant yn gwneud i chi deimlo hyd yn oed yn fwy cysglyd.
Mae hyn yn arbennig o debygol os byddwch yn cymryd cyffur gwrthseicotig gyda:
- tawelyddion ysgafn a ddefnyddir ar gyfer gorbryder, sef buspirone, pregabalin a meprobamate
- benzodiazepines
- cyffuriau 'Z', sef zolpidem, zopiclone a zaleplon.
Carbamazepine
Mae carbamazepine yn gyffur gwrthgonfylsiwn, a ddefnyddir hefyd fel cyffur sefydlogi hwyliau. Drwy ei gymryd gyda chyffuriau gwrthseicotig byddwch yn cynyddu'r risg o brofi sgil-effeithiau annymunol.
Gall hefyd wneud i'ch corff brosesu rhai cyffuriau gwrthseicotig yn gyflymach. Mae hyn yn eu gwneud yn llai effeithiol. Y cyffuriau gwrthseicotig y mae hyn yn effeithio arnynt yw:
- aripiprazole
- cariprazine
- clozapine
- haloperidol
- lurasidone
- olanzapine
- paliperidone
- quetiapine
- risperidone.
Lithiwm
Mae lithiwm yn fath o sefydlogwr hwyliau. Gall cymryd cyffuriau gwrthseicotig gynyddu'r risg o'r canlynol:
- anhwylderau gwaed difrifol, yn enwedig gyda clozapine
- sgil-effeithiau niwrogyhyrol, os ydych chi'n cymryd flupentixol, sulpiride, haloperidol neu risperidone
- niwrowenwyndra, sy'n effaith wenwynig ar y system nerfol.
Os bydd eich meddyg neu seiciatrydd yn penderfynu rhoi presgripsiwn am gyffur gwrthseicotig ochr yn ochr â lithiwm, dylai ddechrau ar ddos is nag arfer.
Cyffuriau gwrth-iselder trichylchol
Gall cymryd cyffuriau gwrth-iselder trichylchol gyda chyffuriau gwrthseicotig gynyddu'r risg o darfu ar rythm eich calon. Mae hyn yn arbennig o debygol gyda'r cyffuriau gwrthseicotig hyn:
- fluphenazine
- haloperidol
- risperidone
- sulpiride.
Trazodone
Mae trazodone yn fath o gyffur gwrth-iselder. Gall ei gymryd gyda rhai cyffuriau gwrthseicotig gynyddu'r risg o'r canlynol:
- sgil-effeithiau difrifol
- tarfu ar rythm eich calon
- gostyngiad sydyn mewn pwysedd gwaed pan fyddwch chi'n sefyll i fyny.
Cyffuriau dros y cownter
Siaradwch â'ch meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd cyn cymryd meddyginiaeth dros y cownter gyda'ch cyffuriau gwrthseicotig. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau cyflenwol neu amgen. Byddant yn gallu dweud wrthych am unrhyw risgiau posibl o gymryd y cyffuriau gyda'i gilydd.
Alcohol a chyffuriau hamdden
- Gall yfed alcohol gynyddu effaith tawelyddol cyffuriau gwrthseicotig. Mae hyn yn golygu y bydd yn gwneud i chi deimlo hyd yn oed yn fwy cysglyd. Gallwch ofyn i'ch meddyg, seiciatrydd neu fferyllydd a yw'n ddiogel yfed gyda'r feddyginiaeth a roddwyd i chi ar bresgripsiwn. Gallant eich helpu i ddeall ble i gyfyngu ar eich cymeriant alcohol.
- Os ydych chi'n cymryd rhai cyffuriau hamdden gyda chyffuriau gwrthseicotig, efallai y byddant yn rhyngweithio â'i gilydd. Er enghraifft, gall cymryd amffetaminau a chlorpromazine gyda'i gilydd leihau eu heffeithiau.
Gweler ein tudalennau ar alcohol a chyffuriau hamdden am ragor o wybodaeth am sut y gall y rhain effeithio ar eich iechyd meddwl. Gallwch hefyd ymweld â gwefan FRANK am gyngor cyfrinachol ar gyffuriau hamdden.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2020.
This page is currently under review. All content was accurate when published.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.