Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Sut mae bensodiasepinau yn gweithio?

Mae gan eich corff gemegyn naturiol o’r enw asid aminobwtyrig gama (GABA). Mae’r cemegyn hwn yn lleihau’r gweithgaredd yn y rhannau o’r ymennydd sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • rhesymu
  • cofio
  • emosiynau
  • swyddogaethau hanfodol, fel anadlu

Mae cyffuriau bensodiasepin yn cynyddu effeithiau GABA ar eich ymennydd a’ch corff. Mae hyn yn golygu y gall y cyffuriau hyn wneud y canlynol:

  • gwneud i chi ymlacio a theimlo’n gysglyd (tawelyddu)
  • lleihau eich gorbryder
  • ymlacio’ch cyhyrau

Y term ‘bensodiasepin’ yw’r enw ar strwythur cemegol sy’n effeithio ar eich ymennydd a’ch corff mewn ffyrdd penodol.

Mae pob cyffur bensodiasepin yn cynnwys y strwythur cemegol hwn. Mae hyn yn golygu y byddant i gyd yn cael effeithiau tebyg ar eich ymennydd a’ch corff.

Yn ystod un adeg arbennig o wael cefais diazepam ar bresgripsiwn ochr yn ochr â’m cyffuriau gwrth-iselder. Roedd yn help mawr i mi ar y pryd, ond, wrth i’m corff arfer â’r cyffur roedd angen mwy ohono arna i i gael yr un effaith.

Pryd y gellir rhoi bensodiasepinau ar bresgripsiwn i mi?

Gellir rhoi presgripsiwn am bensodiasepinau i drin gorbryder difrifol neu anhunedd difrifol pan fydd y naill neu’r llall yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd bob dydd. Mewn rhai achosion, gall meddygon roi presgripsiwn am y bensodiasepin clonazepam i drin anhwylder panig.

Mewn rhai sefyllfaoedd, nid bensodiasepinau yw’r driniaeth fwyaf effeithiol o bosibl. Er enghraifft, os ydych wedi cael profedigaeth, gall y cyffuriau hyn fferru’ch emosiynau a’ch atal rhag galaru’n iawn.

Ond hefyd efallai na fyddwch yn gallu cysgu oherwydd galar a gorbryder. Yn yr achos hwn, gall cymryd y cyffuriau hyn am gyfnod byr eich helpu i ymlacio a dechrau gwella.

Ar ein tudalen ar yr hyn y gallai fod angen i chi ei wybod cyn cymryd meddyginiaeth mae rhestr o bethau i’w gofyn i’ch meddyg cyn i chi ddechrau cymryd unrhyw feddyginiaeth. Gall hyn eich helpu i benderfynu a ydyw bensodiasepinau yn addas i chi.

Pa mor aml i gymryd bensodiasepinau

Mae’r rhan fwyaf o bensodiasepinau yn debygol o fod yn fwy effeithiol os byddwch yn eu cymryd fel dos untro. Gallant hefyd fod yn effeithiol fel triniaeth tymor byr am ychydig wythnosau. Bydd meddygon fel arfer yn eich cynghori i wneud y canlynol:

  • osgoi eu cymryd bob dydd
  • eu cymryd am ddim hwy na phedair wythnos

Mae’r cyffuriau hyn yn llai tebygol o barhau i weithio os byddwch yn eu cymryd yn barhaus am fwy nag ychydig wythnosau. Mae hyn oherwydd y gall eich ymennydd gyfarwyddo â’u heffeithiau. Gall hefyd olygu pan fyddwch yn rhoi’r gorau i gymryd y cyffuriau, gall eich ymennydd ddod yn sensitif iawn i gemegau ymennydd naturiol.

Mewn rhai achosion, gall meddygon roi presgripsiwn am bensodiasepinau ar ddosau isel am gyfnodau hwy. Nid yw hyn bob amser yn achosi problemau, ac efallai mai dyma’r driniaeth orau i rai pobl.

Pwy ddylai osgoi cymryd bensodiasepinau?

Ni fydd eich meddyg fel arfer yn rhoi presgripsiwn am bensodiasepinau i chi os oes gennych y canlynol:

  • clefyd difrifol yr ysgyfaint neu broblemau anadlu
  • apnoea cwsg neu ddal anadl wrth gysgu (problemau anadlu wrth gysgu)
  • clefyd difrifol yr iau neu’r arennau
  • myasthenia gravis difrifol a heb ei reoli (cyflwr niwrogyhyrol)

Efallai y bydd eich meddyg yn ofalus ynghylch cynnig bensodiasepinau i chi os oes gennych chi’r canlynol:

Dylai eich meddyg roi presgripsiwn am ddos llai o bensodiasepinau os oes gennych chi’r canlynol:

  • problemau’r iau neu’r arennau
  • porffyria (salwch prin, etifeddol)

Bydd y penderfyniad o roi bensodiasepinau i chi ar bresgripsiwn hefyd yn dibynnu ar eich oedran:

  • Nid yw bensodiasepinau yn addas i blant. Mae hyn ar wahân i achosion prin o orbryder neu anhunedd a achosir gan ofn neu gerdded yn eu cwsg, pan ellir rhoi diazepam ar bresgripsiwn.
  • Dylid rhoi llai o ddos i bobl hŷn na’r dos arferol i oedolion.

Os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol neu os ydych yn cael unrhyw driniaethau eraill, rhowch wybod i’ch meddyg. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyflyrau nad ydynt wedi’u rhestru yma.

Gall y meddyg eich helpu i benderfynu a ydyw’n ddiogel i chi gymryd y feddyginiaeth hon ai peidio.

 

Bensodiasepinau yn ystod beichiogrwydd a thra byddwch yn bwydo ar y fron

Nid oes digon o ymchwil i wybod yn union pa mor gyffredin yw problemau cymryd bensodiasepinau tra byddwch yn feichiog. Mae rhai pobl wedi cofnodi’r problemau canlynol gyda’u babanod ar ôl cymryd bensodiasepinau yn ystod beichiogrwydd:

  • taflod hollt
  • annormaleddau llwybr wrinol
  • annormaleddau’r galon
  • annormaleddau’r stumog
  • dyslecsia (anhawster darllen ac ysgrifennu)
  • dyspracsia (problemau gyda chydsymud a symud)
  • awtistiaeth
  • anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)

Mae rhai pobl hefyd wedi cofnodi’r problemau canlynol yn eu babanod ar ôl cymryd bensodiasepinau tua diwedd eu beichiogrwydd:

  • cysgadrwydd
  • cyhyrau llipa
  • problemau anadlu
  • tymheredd corff isel
  • symptomau diddyfnu gan gynnwys patrymau cysgu annormal, llefain gwichlyd, cryndod (ysgwyd), chwydu a dolur rhydd.

Os ydych yn cymryd rhai bensodiasepinau wrth fwydo ar y fron, efallai y bydd y feddyginiaeth yn bresennol yn llaeth y fron. Mewn rhai achosion, gall hyn gronni yng nghorff eich baban ac achosi sgil-effeithiau.

Os ydych yn bwydo ar y fron, yn feichiog neu’n bwriadu beichiogi, gallwch ofyn i’ch meddyg am y risgiau o gymryd eich meddyginiaeth benodol.

Cymryd bensodiasepinau gyda meddyginiaethau eraill

Gall cyfuno bensodiasepinau â meddyginiaethau eraill newid effeithiau’r cyffuriau. Gall hyn gynnwys lleihau effeithiau cadarnhaol y naill gyffur neu’r llall. Gall hefyd arwain at sgil-effeithiau negyddol.

Weithiau gall meddygon roi presgripsiwn i chi am bensodiasepinau ar yr un pryd â chyffuriau eraill. Er enghraifft, gallant roi presgripsiwn am bensodiasepinau gyda chyffuriau gwrth-iselder neu gyffuriau gwrthseicotig.

Efallai y bydd y bensodiasepinau yn eich helpu i ymdopi â gorbryder tra byddwch yn aros i’r feddyginiaeth arall ddechrau gweithio. Fodd bynnag, efallai y bydd effeithiau negyddol i hyn hefyd os yw’r cyffuriau’n rhyngweithio mewn ffordd sy’n achosi sgil-effeithiau digroeso.

Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sy’n hysbys o ran sut mae meddyginiaethau yn rhyngweithio â bensodiasepinau unigol yn rhestr A-Z o ryngweithiadau cyffuriau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF).

Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg neu fferyllydd os ydych yn poeni ynghylch cymryd unrhyw feddyginiaeth arall gyda bensodiasepinau. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaeth ar bresgripsiwn, cyffuriau dros y cownter a meddyginiaethau llysieuol.

Bensodiasepinau gydag alcohol neu gyffuriau hamdden

Gall yfed alcohol gynyddu effaith tawelyddu bensodiasepinau. Gall hyn achosi rhai sgil-effeithiau peryglus. Gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd ynghylch a ydyw’n ddiogel yfed alcohol gyda bensodiasepin penodol.

Gall rhai cyffuriau hamdden hefyd ryngweithio â bensodiasepinau mewn ffordd beryglus. Gweler ein tudalen ar gyffuriau hamdden a meddyginiaeth am ragor o wybodaeth am sut y gall cyffuriau hamdden ryngweithio â meddyginiaethau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig