Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Sgil-effeithiau tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Gall tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn gael sgil-effeithiau a all fod yn annymunol. O ran sgil-effeithiau, mae’n dibynnu ar ba gyffur yr ydych yn ei gymryd a sut yr ydych yn ymateb i’r cyffur hwnnw.

I gael gwybodaeth am sgil-effeithiau mathau penodol o feddyginiaeth, gweler ein tudalennau ar:

Gall hefyd fod o gymorth i wybod y canlynol:

  • Pa mor gyffredin yw sgil-effeithiau. Gallwch ddarganfod pa mor debygol ydych chi o gael sgil-effeithiau trwy ddarllen y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer meddyginiaeth benodol. Gallwch lawrlwytho’r taflenni gwybodaeth i gleifion ar gyfer cyffuriau unigol o’n rhestr A-Z o dabledi cysgu a thawelyddion ysgafn. Dylech hefyd gael copi o’r daflen wybodaeth i gleifion yn eich pecyn meddyginiaeth. Efallai na fydd gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin ar gael ar gyfer rhai cyffuriau hŷn.
  • Alergeddau ac ystyriaethau dietegol.  Gall rhai cyffuriau gynnwys cynhwysion y gallech fod ag alergedd iddynt neu y dymunwch eu hosgoi, fel lactos. Gallwch ddod o hyd i restr o gynhwysion ar gyfer cyffur penodol yn y daflen wybodaeth i gleifion. Gallwch hefyd gyfeirio at ein tudalennau ar gymharu bensodiasepinau, tabledi cysgu heblaw bensodiasepin a meddyginiaeth lleddfu gorbryder heblaw bensodiasepin i gael gwybodaeth am ystyriaethau dietegol ar gyfer gwahanol gyffuriau.

Gyrru tra’n cymryd tabledi cysgu neu dawelyddion ysgafn

Mae pob math o dabledi cysgu a thawelyddion ysgafn yn arafu eich meddwl a’ch adweithiau. Mae hyn yn golygu y gallai gyrru neu weithredu peiriannau ar ôl cymryd y cyffuriau hyn fod yn beryglus.

Mae penderfynu pa mor hir y dylech osgoi’r gweithgareddau hyn yn dibynnu ar ba gyffur y byddwch yn ei gymryd a pha mor hir y mae ei effeithiau’n para. Gyda rhai meddyginiaethau, efallai y bydd angen i chi osgoi gyrru neu ddefnyddio peiriannau y diwrnod ar ôl cymryd y cyffur.

Nid ydych yn torri’r gyfraith:

  • os ydych yn cymryd eich meddyginiaeth yn unol â chyfarwyddyd pwy bynnag sy’n rhoi’r presgripsiwn i chi, ac
  • os nad yw’r cyffuriau yn amharu ar eich gyrru.

Fodd bynnag, mae’n anghyfreithlon gyrru neu geisio gyrru os oes unrhyw gyffur yn amharu ar eich gallu i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaeth a ragnodwyd i chi yn gyfreithiol.

Ar gyfer rhai tawelyddion ysgafn, mae hefyd yn drosedd gyrru, ceisio gyrru, neu fod wrth llyw cerbyd modur tra bod gennych fwy na rhywfaint o’r cyffur hwnnw yn eich corff. Dylai’r person sy’n rhoi presgripsiwn am eich meddyginiaeth drafod hyn â chi.

Efallai y bydd rheidrwydd cyfreithiol arno hefyd i roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os ydynt yn amau bod y feddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i yrru.

Gweler ein tudalen ar feddyginiaeth a gyrru am ragor o wybodaeth am hyn.

Rheolaethau cyfreithiol ar gyfer tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Mae rhai o’r meddyginiaethau hyn yn gyffuriau a reolir o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Mae hyn yn golygu y gall rheolau llymach fod yn berthnasol i’r cyffuriau hyn, megis ar gyfer ysgrifennu a gweinyddu presgripsiynau.

Mae hefyd yn golygu os ydych yn meddu ar y cyffuriau hyn pan na roddwyd presgripsiwn i chi amdanynt, neu os ydych yn trosglwyddo unrhyw un o’r cyffuriau hyn i berthnasau neu ffrindiau, rydych yn dechnegol yn cyflawni trosedd. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn agored i garchar neu ddirwy.

Pa dabledi cysgu a thawelyddion ysgafn sy’n gyffuriau a reolir?

  • Mae’r rhan fwyaf o bensodiasepinau yn gyffuriau dosbarth C a reolir. Mae hyn yn cynnwys pob cyffur a restrir ar ein tudalen ar gymharu bensodiasepinau. Dyma’r bensodiasepinau sydd wedi’u trwyddedu i’w rhoi ar bresgripsiwn yn y DU ar hyn o bryd.
  • Mae’r tabledi cysgu zopiclone a zolpidem hefyd yn gyffuriau dosbarth C a reolir.
  • Mae’r cyffur lleddfu gorbryder pregabalin yn gyffur dosbarth C a reolir.
  • Mae barbitwradau yn gyffuriau dosbarth B a reolir. Prin y caiff y rhain eu rhoi ar bresgripsiwn bellach fel meddyginiaethau tawelu.

Os dymunwch wybod mwy am hyn, gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd. Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd wybodaeth am feddyginiaethau a reolir, gan gynnwys sut i storio a chael presgripsiynau am gyffuriau a reolir.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig