Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn

Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.

Sgil-effeithiau bensodiasepinau

Mae’r dudalen hon yn rhestru llawer o sgil-effeithiau hysbys bensodiasepinau. Gall yr effeithiau fod ychydig yn wahanol rhwng cyffuriau unigol. Mae pawb yn ymateb i feddyginiaeth yn wahanol, felly efallai na fyddwch chi’n cael yr effeithiau hyn.

Mae sgil-effeithiau mwyaf cyffredin bensodiasepinau yn cynnwys y canlynol:

  • cysgadrwydd
  • penysgafnder
  • dryswch
  • ansadrwydd (yn enwedig mewn pobl hŷn, a all gwympo a chael anafiadau)
  • pendro
  • lleferydd aneglur
  • gwendid cyhyrau
  • problemau cof
  • rhwymedd
  • cyfog (teimlo’n sâl)
  • ceg sych
  • golwg aneglur

Mae rhai sgil-effeithiau llai cyffredin bensodiasepinau yn cynnwys y canlynol:

  • cur pen
  • pwysedd gwaed isel
  • cynhyrchu mwy o boer
  • aflonyddwch treulio
  • brech
  • problemau golwg, megis golwg dwbl
  • cryndod (ysgwyd)
  • newidiadau mewn awydd rhywiol
  • anymataliaeth (colli rheolaeth ar y bledren)
  • anhawster gwneud dŵr

Mae rhai sgil-effeithiau prin bensodiasepinau yn cynnwys y canlynol:

  • anhwylderau gwaed
  • clefyd melyn (croen melyn)
  • gynecomastia (datblygu bronnau mewn pobl a bennwyd yn wryw ar enedigaeth)

Problemau cofio gyda bensodiasepinau

I rai pobl, gall bensodiasepinau achosi problemau gyda’r cof. Mae’r problemau hyn yn debygol o ddigwydd gyda chadw atgofion newydd tra byddwch yn cymryd y feddyginiaeth. Mae’n annhebygol y byddant yn achosi i chi anghofio hen atgofion.

Efallai na fydd eich meddyg yn rhoi bensodiasepinau ar bresgripsiwn i’ch helpu i gysgu oni bai eich bod yn sicr y gallwch gysgu am noson gyfan heb i unrhyw un darfu arnoch. Mae hyn fel arfer yn golygu cysgu am ryw saith neu wyth awr. Mae hyn oherwydd y ffordd mae’ch meddwl yn gweithio i gadw atgofion tra’ch bod yn cysgu. Gall rhai bensodiasepinau darfu ar y broses hon.

Effeithiau paradocsaidd bensodiasepinau

Weithiau mae bensodiasepinau yn achosi effeithiau sy’n groes i’r hyn y bwriedir i’r feddyginiaeth ei wneud. Efallai y clywch y rhain yn cael eu galw’n effeithiau ‘paradocsaidd’. Maent yn cynnwys:

Gall yr effeithiau hyn ddigwydd gydag unrhyw bensodiasepin. Maent yn fwy cyffredin ymhlith plant a phobl hŷn, a gyda bensodiasepinau byrweithredol.

Effeithiau defnyddio bensodiasepin yn y tymor hir

Os cymerwch bensodiasepinau am fwy na dwy i bedair wythnos, efallai y byddwch yn profi symptomau fel y canlynol:

  • anhawster canolbwyntio
  • teimlo’n ddifywyd ac yn araf
  • teimlo’n ynysig ac afreal
  • teimlo eich bod wedi eich gwahanu o’ch emosiynau
  • teimlo’n flin ac yn ddiamynedd
  • colli hyder
  • problemau pwysau
  • problemau cof

Efallai y byddwch hefyd yn cael symptomau diddyfnu tra byddwch yn dal i gymryd y cyffuriau. Efallai y bydd angen i chi gymryd mwy o ddos i barhau i deimlo effeithiau cadarnhaol y feddyginiaeth.

Rhoi gwybod am sgil-effeithiau bensodiasepinau

Os ydych chi’n cael sgil-effeithiau o unrhyw feddyginiaeth, gallwch roi gwybod amdanynt i’r Cynllun Cerdyn Melyn, sy’n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Dyma’r sefydliad sy’n rheoleiddio’r defnydd o feddyginiaethau yn y DU.

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effaith yr ydych chi’n ei cael, gan gynnwys unrhyw rai sydd eisoes yn hysbys. Gallwch hefyd ofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau i chi.

Yn ddiweddar ces i amser caled a byddwn wrth fy modd yn mynd yn ôl ar diazepam i fy helpu drwyddo, ond yn bersonol fyddwn i ddim yn ymddiried yn fy hun arno gan fod gen i fab tair oed ac rwy’n rhiant sengl. Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i’n deffro yn y nos nac yn gallu gweithredu yn ystod y dydd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig