Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Effeithiau diddyfnu bensodiasepinau
Mae’r dudalen hon yn cwmpasu’r canlynol:
A all bensodiasepinau achosi problemau diddyfnu?
Fel arfer ni fyddwch yn cael unrhyw broblemau diddyfnu gyda bensodiasepinau os ydych yn gwneud y canlynol:
- eu cymryd yn achlysurol, fel dos untro
- yn dilyn argymhellion eich meddyg ar sut i’w cymryd
Fodd bynnag, os byddwch yn cymryd bensodiasepinau yn rheolaidd ac am amser hir, efallai y byddwch yn dod yn ddibynnol arnyn nhw. Gallai hyn olygu cael symptomau diddyfnu corfforol os byddwch yn stopio neu’n lleihau eich dos, neu efallai y byddwch yn teimlo na allwch ymdopi â’ch bywyd o ddydd i ddydd os na fyddwch yn eu cymryd.
Beth yw symptomau diddyfnu bensodiasepinau?
Os ydych yn cael problemau diddyfnu o bensodiasepinau, efallai y bydd gennych rai o’r symptomau canlynol:
- crampiau yn yr abdomen
- agoraffobia (ofn sefyllfaoedd sy’n teimlo’n anodd dianc oddi wrthynt)
- gorbryder, gan gynnwys symptomau corfforol fel tensiwn yn y cyhyrau, brest dynn, curiad calon cyflym, chwysu, crynu neu ysgwyd
- golwg aneglur
- problemau canolbwyntio
- pendro
- poen yn yr wyneb a’r gwddf
- cur pen
- mwy o sensitifrwydd i oleuni, sŵn, cyffyrddiad ac arogl
- colli diddordeb mewn rhyw
- colli archwaeth
- iselder ysgafn neu ganolig
- cyfog (teimlo’n sâl)
- hunllefau
- pyliau o banig
- aflonyddwch
- problemau cysgu
- llygaid dolurus
- tafod dolurus a blas metelaidd
- tinitws (canu yn eich clustiau)
- pinnau bach yn y dwylo a’r traed (pinnau a nodwyddau)
- coesau simsan
- chwydu (bod yn sâl)
- colli pwysau
Gall rhai pobl hefyd wynebu symptomau diddyfnu mwy difrifol o bensodiasepinau. Gall y rhain gynnwys:
- teimladau llosgi yn y croen
- dryswch
- rhithdybiau (credoau cryf nad yw pobl eraill yn eu rhannu)
- dadbersonoli (teimlo ar wahân i’ch amgylchedd)
- dadwireddu (teimlo allan o gysylltiad â realiti)
- rhithweledigaethau
- colli cof
- cyhyrau’n gwingo
- paranoia
- trawiadau (ffitiau).
Os byddwch yn rhoi’r gorau i gymryd bensodiasepinau yn sydyn, gall hyn achosi symptomau diddyfnu difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dryswch
- seicosis
- trawiadau
- casgliad o symptomau gan gynnwys curiad calon cyflym, chwysu, pwysedd gwaed uchel, cryndod (ysgwyd), rhithweledigaethau ac ymddygiad cynhyrfus.
Yn y diwedd, diddyfnodd fy meddyg fi oddi arno, yn araf iawn, dros gyfnod o fisoedd. Roedd hi’n anodd, ond roeddwn i’n gwybod mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Pryd ydw i’n debygol o gael symptomau diddyfnu o bensodiasepinau?
Gall symptomau diddyfnu ddechrau sawl awr ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd bensodiasepin byrweithredol. Fodd bynnag, gallant ddechrau hyd at dair wythnos ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd bensodiasepin hir-weithredol. Mae hyn oherwydd y gall bensodiasepinau hir-weithredol aros yn actif yn eich system am ychydig ar ôl i chi roi’r gorau i’w cymryd.
Po hiraf y byddwch yn cymryd bensodiasepinau, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau iddynt a mwyaf fydd eich risg o symptomau diddyfnu. Gall fod yn arbennig o anodd rhoi’r gorau i gymryd bensodiasepinau byrweithredol os ydych wedi eu cymryd ers amser maith.
Gweler ein tudalen ar gymharu bensodiasepinau am ragor o wybodaeth am bensodiasepinau byrweithredol a hir-weithredol.
Gall symptomau diddyfnu ddechrau sawl awr ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd bensodiasepin byrweithredol. Fodd bynnag, gallant ddechrau hyd at dair wythnos ar ôl i chi roi’r gorau i gymryd bensodiasepin hir-weithredol. Mae hyn oherwydd y gall bensodiasepinau hir-weithredol aros yn actif yn eich system am ychydig ar ôl i chi roi’r gorau i’w cymryd.
Po hiraf y byddwch yn cymryd bensodiasepinau, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau iddynt a mwyaf fydd eich risg o symptomau diddyfnu. Gall fod yn arbennig o anodd rhoi’r gorau i gymryd bensodiasepinau byrweithredol os ydych wedi eu cymryd ers amser maith.
Gweler ein tudalen ar gymharu bensodiasepinau am ragor o wybodaeth am bensodiasepinau byrweithredol a hir-weithredol.
Sut alla i roi’r gorau i gymryd bensodiasepinau yn ddiogel?
Os yw’n bosibl, dylech leihau eich dos yn raddol pan fyddwch yn rhoi’r gorau i gymryd bensodiasepinau. Mae hyn yn lleihau’r risg o gael symptomau diddyfnu.
Gall eich meddyg roi cyngor mwy penodol ar sut i roi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth yn ddiogel. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi hefyd siarad ag eraill am ddiddyfnu. Er enghraifft, gall hyn fod mewn grŵp cymorth lleol neu ar-lein, neu gymorth gan ffrindiau a theulu.
Gweler ein tudalennau ar roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth seiciatrig am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwahanol ffyrdd o ddod o hyd i gymorth.
Diddyfnu cyffuriau gwrth-iselder a bensodiasepin
Mae rhai pobl yn teimlo iselder ar ôl rhoi’r gorau i gymryd bensodiasepinau. Os byddwch yn wynebu hyn, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig cyffuriau gwrth-iselder i chi i’ch helpu i ymdrin â symptomau iselder. Ond, mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu nad yw cyffuriau gwrth-iselder sydd ag atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI) yn effeithiol ar gyfer trin iselder sy’n digwydd ar ôl i unigolyn roi’r gorau i gymryd bensodiasepinau.
Gweler ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-iselder am ragor o wybodaeth am y feddyginiaeth hon, gan gynnwys y manteision a’r sgil-effeithiau posibl. Gallwch hefyd drafod unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych am hyn â’ch meddyg.
Pump awgrym ar gyfer rhoi’r gorau i’ch meddyginiaeth
Gwyliwch Katherine o’n tîm gwybodaeth yn rhoi ei phump awgrym gwych ar gyfer rhoi’r gorau i’ch meddyginiaeth yn ddiogel.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn adolygu hyn yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.