Tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn
Mae’r adran hon yn egluro ar gyfer beth y defnyddir tabledi cysgu a thawelyddion ysgafn, sut mae’r feddyginiaeth yn gweithio, sgil-effeithiau posibl a gwybodaeth am ddiddyfnu.
Tabledi cysgu heblaw bensodiasepin
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am feddyginiaethau heblaw bensodiasepin y gellir eu rhoi i chi ar bresgripsiwn i’ch helpu i gysgu. Gweler ein tudalen ar bensodiasepinau am wybodaeth am feddyginiaethau cysgu bensodiasepin.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys tabl i’ch helpu i gymharu tabledi cysgu heblaw bensodiasepin fesul gwahanol ffactorau.
Mae yna hefyd wybodaeth sy’n esbonio gwahanol fathau o dabledi cysgu heblaw bensodiasepin:
Er ein bod yn defnyddio’r term ‘tabledi cysgu’ i ddisgrifio’r cyffuriau hyn, efallai y bydd rhai ohonynt hefyd ar gael fel hylif, naill ai i’w lyncu neu i’w chwistrellu.
Cymharu tabledi cysgu heblaw bensodiasepin
Mae’r tabl hwn yn rhestru’r holl dabledi cysgu heblaw bensodiasepin sydd wedi’u trwyddedu i’w defnyddio yn y DU ar hyn o bryd.
Mae gan rai o’r cyffuriau hyn fwy nag un enw. Efallai eich bod yn adnabod cyffur wrth ei enw generig neu ei enw masnachol. Gweler ein tudalen ar enwau cyffuriau am ragor o wybodaeth.
Enw generig |
Enwau masnachol (DU) |
Ffurfiau sydd ar gael |
Ystyriaethau deitegol |
|
---|---|---|---|---|
chloral hydrate (neu cloral betaine) |
Welldorm |
|
mwy na 6 diwrnod |
|
clomethiazole (weithiau wedi'i sillafu fel chlormethiazole) |
Heminevrin |
|
3.6 i 5 awr |
|
Sleep aid tablets (mae sawl brand ar gael) |
|
2.4 i 9.3 awr |
|
|
Circadin |
|
0.5 i 4 awr |
|
|
Phenergan |
|
5 i 14 awr |
|
|
Stilnoct |
|
oddeutu 2.4 awr |
|
|
Zimovane |
|
oddeutu 5 awr |
|
Cyffuriau Z
Tabledi cysgu heblaw bensodiasepin yw cyffuriau Z, a ddefnyddir i drin anhunedd difrifol (anhawster mynd i gysgu neu aros ynghwsg). Cânt eu hadnabod fel cyffuriau Z oherwydd bod eu henwau generig yn dechrau gyda’r llythyren ‘z’.
Y cyffuriau Z sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer presgripsiwn ar hyn o bryd yn y DU yw zolpidem a zopiclone. Bu’r meddyginiaeth zaleplon yn rhan o’r grŵp hwn, ond nid yw bellach wedi’i thrwyddedu i’w defnyddio yn y DU.
Nid bensodiasepinau yw’r cyffuriau hyn, ond maent yn gweithredu mewn ffordd debyg iawn. Mae hyn yn cynnwys achosi problemau tebyg gyda dibyniaeth a diddyfnu.
Cyffuriau byrweithredol ydyn nhw, sy’n golygu bod eu heffeithiau’n para am gyfnod byr. Maent yn llai tebygol o roi effaith ‘pen mawr’ na rhai mathau eraill o feddyginiaeth cysgu.
Pryd y gellir rhoi cyffur Z ar bresgripsiwn i mi?
Dim ond os ydych yn profi anhunedd difrifol y dylai eich meddyg roi cyffur Z i chi ar bresgripsiwn. Dim ond ar ôl i chi roi cynnig ar driniaethau eraill heb feddyginiaeth y dylid gwneud hyn.
Os bydd eich meddyg yn rhoi cyffur Z i chi ar bresgripsiwn, dylai wneud y canlynol:
- rhoi’r dos lleiaf a fydd yn cael effaith arnoch
- eu rhoi ar bresgripsiwn am yr amser byrraf posibl
- eu rhoi ar bresgripsiwn yn unol â’r drwydded ar gyfer y cyffur penodol hwnnw yn unig
Os ydych yn berson hŷn, efallai y bydd eich meddyg yn cynnig cyffur Z i chi cyn meddyginiaeth cysgu arall. Mae hyn oherwydd bod unrhyw effeithiau negyddol o’r cyffuriau hyn yn debygol o bara llai o amser na meddyginiaethau cysgu eraill. Ond, dylech barhau i’w cymryd am yr amser byrraf posibl.
Pwy ddylai osgoi cymryd cyffuriau Z?
Ni fydd eich meddyg fel arfer yn rhoi cyffuriau Z ar bresgripsiwn i chi os oes gennych y canlynol:
- clefyd difrifol yr ysgyfaint neu broblemau anadlu
- apnoea cwsg neu ddal anadl wrth gysgu (problemau anadlu wrth gysgu)
- clefyd difrifol yr iau neu’r arennau
- myasthenia gravis difrifol a heb ei reoli (cyflwr niwrogyhyrol)
Efallai y bydd eich meddyg yn ofalus ynghylch cynnig cyffuriau Z i chi os oes gennych chi’r canlynol:
- problemau’r frest a’r ysgyfaint
- gwendid niwrogyhyrol, fel myasthenia gravis
- hanes o gam-drin alcohol neu gyffuriau
- diagnosis o anhwylder personoliaeth
Dylai eich meddyg roi presgripsiwn am ddos llai o’r cyffuriau hyn os oes gennych chi’r canlynol:
- problemau’r iau neu’r arennau
- porffyria (salwch prin, etifeddol)
Gall fod risgiau ynghlwm â chymryd y cyffuriau hyn os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Fodd bynnag, nid oes digon o ymchwil i wybod yn union pa mor gyffredin y gall y problemau hyn fod.
Os ydych yn feichiog, yn bwydo ar y fron neu’n bwriadu beichiogi, gallwch siarad â’ch meddyg am risgiau a manteision cymryd cyffur Z. Gall eich helpu i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eich sefyllfa.
Sut ddylwn i gymryd cyffuriau Z?
Os ydych yn cymryd cyffuriau Z, dylech wneud y canlynol:
- ceisio peidio â’u cymryd gyda bwyd neu’n syth ar ôl bwyta, oherwydd gallai hyn wneud iddynt weithio’n arafach
- osgoi eu cymryd gydag alcohol
- peidio â chymryd ail ddos mewn un noson
- eu cymryd pan fyddwch yn barod i gysgu, ac nid cyn hynny. Ar ôl eu cymryd, efallai y byddwch yn teimlo’n simsan neu’n drwsgl os oes angen i chi godi yn y nos, fel mynd i’r toiled.
Ni ddylech gymryd tabledi cysgu am fwy na thair wythnos fel arfer. Yn ddelfrydol, ni fyddech yn eu cymryd am fwy nag wythnos.
Sut ddylwn i roi’r gorau i gymryd cyffuriau Z?
Pan fyddwch yn rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau Z, dylech roi’r gorau’n raddol er mwyn osgoi effeithiau diddyfnu negyddol. Os gwelwch nad yw un cyffur Z yn gweithio i chi, ni ddylai eich meddyg roi presgripsiwn am gyffur Z arall i chi yn ei le.
Cyffuriau Z a gweithgaredd peryglus wrth gysgu
Gall pob cyffur Z weithiau achosi math o gerdded yn eich cwsg, lle byddwch yn codi ac yn gwneud pethau tra nad ydych yn effro mewn gwirionedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gweithgareddau peryglus fel gyrru
- bwyta, gan gynnwys bwyd amhriodol (fel bwyd amrwd y dylid ei goginio)
- cael rhyw
- bod yn dreisgar tuag at eich cymar yn y gwely.
Pan fyddwch yn deffro efallai na fyddwch yn cofio unrhyw beth am yr hyn yr ydych wedi’i wneud.
Yn y gorffennol rwy wedi dioddef cyfnodau lloerig a seicotig. Roedd gallu cysgu yn bwysig o ran fy helpu i wella, felly roedd y cyffuriau ‘Z’ a roddon nhw i mi yn yr ysbyty yn help mawr.
Gwrth-histaminau
Math o feddyginiaeth a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer trin symptomau alergeddau, fel clefyd y gwair, yw gwrth-histaminau. Fodd bynnag, bydd rhai ohonynt yn achosi cysgadrwydd fel sgil-effaith. Gellir defnyddio’r cyffuriau hyn hefyd i helpu i leddfu anhunedd tymor byr.
Gallwch brynu’r cyffuriau canlynol heb bresgripsiwn gan fferyllydd, i helpu i leddfu anhunedd:
Meddyginiaethau hir-weithredol yw’r rhain, sy’n golygu bod eu heffeithiau’n para am amser hirach. Mae hyn hefyd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o adael effaith ‘pen mawr’ y diwrnod ar ôl i chi eu cymryd.
Gallant hefyd fod yn araf i weithredu, sy’n golygu efallai na fyddant yn gwneud i chi deimlo’n gysglyd ar unwaith. Efallai y byddant yn llai effeithiol os byddwch yn eu cymryd am sawl diwrnod.
Os byddwch yn cymryd gwrth-histaminau ond nad ydynt bellach yn eich helpu i gysgu, gallwch siarad â’ch fferyllydd am gyngor.
Pwy ddylai osgoi cymryd gwrth-histaminau?
Efallai y bydd eich meddyg neu fferyllydd yn eich cynghori i fod yn ofalus ynghylch cymryd gwrth-histaminau os oes gennych chi’r canlynol:
- chwarren brostad chwyddedig
- problemau gwneud dŵr (ataliad wrin)
- glawcoma (pwysedd uwch yn y llygad)
- clefyd yr iau
- epilepsi
- porffyria (salwch prin, etifeddol)
Efallai y bydd eich meddyg neu fferyllydd yn eich cynghori i osgoi cymryd gwrth-histaminau os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai achosion pan fydd eich meddyg yn argymell neu’n rhoi presgripsiwn am y feddyginiaeth hon.
Os ydych yn feichiog, yn bwydo ar y fron neu’n bwriadu beichiogi, gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd os oes gennych gwestiynau am gymryd gwrth-histaminau. Gall roi’r cyngor gorau i chi ar gyfer eich sefyllfa.
Sgil-effeithiau gwrth-histaminau
Mae sgil-effeithiau cyffredin gwrth-histaminau yn cynnwys y canlynol:
- dryswch (teimlo’n ddryslyd ynghylch ble’r ydych chi)
- pendro
- cur pen
- hunllefau
- aflonyddwch
- blinder
Mae sgil-effeithiau achlysurol gwrth-histaminau yn cynnwys y canlynol:
- golwg aneglur
- dryswch
- ceg sych
- cyffro
- ataliad wrin.
Mae’r sgil-effeithiau achlysurol hyn yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn. Efallai y bydd plant yn fwy tebygol o deimlo cyffro fel sgil-effaith.
Mae sgil-effeithiau prin gwrth-histaminau yn cynnwys y canlynol:
- anhwylderau celloedd gwaed
- aflonyddwch rhythm y galon
- colli archwaeth
- pwysedd gwaed isel
- cyhyrau’n gwingo
- sensitifrwydd i oleuni’r haul
- cryndod
- anghysur stumog
- symudiadau gwingo
Gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd os ydych yn ansicr a ydyw gwrth-histaminau yn addas i chi. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod iddynt os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth arall, gan gynnwys meddyginiaethau llysieuol.
Melatonin
Hormon naturiol a gynhyrchir gan eich chwarren bineol yw melatonin. Mae’r chwarren hon yn eich ymennydd ac yn rheoli ymateb eich corff i’r cylch 24 awr o ddydd a nos.
Mae melatonin hefyd ar gael fel meddyginiaeth i helpu i leddfu anhunedd. Fel arfer fe’i cynigir fel meddyginiaeth tymor byr i bobl sy’n 55 oed a throsodd.
Nid yw’n cael ei argymell yn gyffredinol ar gyfer unrhyw un o dan 18 oed. Ond, gellir ei gynnig iddynt mewn rhai amgylchiadau. Efallai y bydd eich meddyg hefyd yn osgoi rhoi melatonin ar bresgripsiwn i chi os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Gallwch siarad â’ch meddyg neu fferyllydd os ydych yn pryderu am hyn.
Gweler ein tudalen ar melatonin i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Hydrad cloral a clomethiazole
Mae hydrad cloral a clomethiazole yn gyffuriau hŷn a chanddynt lawer o sgil-effeithiau, gan gynnwys dibyniaeth bosibl. Cyffur hylif yw hydrad cloral, ond gall hefyd fod ar gael ar ffurf tabledi o’r enw betain cloral. Gall clomethiazole hefyd gael ei sillafu’n chlomethiazole.
Nid yw’r cyffuriau hyn fel arfer yn cael eu cynnig bellach fel meddyginiaeth ar gyfer anhunedd. Ond, efallai y byddant yn cael eu defnyddio mewn rhai amgylchiadau prin. Efallai y bydd eich meddyg yn osgoi rhoi’r meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn i chi os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Gall hefyd fod yn ofalus ynghylch eu rhoi ar bresgripsiwn os oes gennych hanes o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu ddiagnosis o anhwylder personoliaeth.
Os ydych yn cymryd hydrad cloral, dylech osgoi gadael iddo ddod i gysylltiad â’ch croen gan y gallai achosi niwed i’r croen.
Barbitwradau
Defnyddiwyd barbitwradau fel tawelyddion cyn i bensodiasepinau ddod ar gael. Prin iawn y cânt eu rhoi ar bresgripsiwn bellach.
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylid eu cynnig i chi ar gyfer anhunedd:
- os ydych eisoes yn cymryd barbitwradau
- os nad yw triniaethau eraill wedi helpu eich anhunedd
Ni ddylid cynnig barbitwradau i bobl hŷn.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2021. Byddwn yn ei adolygu yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.